Bywyd ar ôl y Brifysgol: Fy Mhrofiad o Weithio mewn Busnes Technoleg Newydd
24 Chwefror 2020
Gall gorffen yn y Brifysgol deimlo’n eithaf brawychus. P’un a ydych yn lasfyfyriwr neu yn eich blwyddyn olaf, mae’r syniad o gychwyn ar yrfa yn sicr yn un brawychus, ac mae’n gwbl normal i deimlo nad ydych wedi’ch paratoi’n ddigonol ac yn betrus wrth fynd i’r afael â’r gwaith dychrynllyd o chwilio am swydd am y tro cyntaf. Wedi treulio pedair blynedd yng Nghaerdydd, gan gwblhau fy ngraddau mewn Llenyddiaeth Saesneg a’m Gradd Ôl-raddedig mewn newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd, roedd fy nghyflwyniad traethawd olaf yn arwydd o ddiwedd ar un o benodau gorau fy mywyd hyd yma.

Fodd bynnag, ar ôl cymryd ychydig o fisoedd i ffwrdd ar gyfer rhywfaint o orffwys ac ymlacio yr oedd ei angen yn fawr arnaf i, roedd yn amser agor y bennod nesaf a dechrau ar yr gwaith anochel o chwilio am swydd. Yn ddiweddar, roeddwn i wedi symud i Lundain ac yn awyddus i roi hwb cychwynnol i fy ngyrfa ym maes marchnata, felly treuliais i oriau bob dydd
yn edrych ar bostiadau am swyddi ac yn gwneud cais am unrhyw beth a oedd yn edrych fel y gallai fod yn addas i mi a fy set o sgiliau. Ar ôl ymgeisio’n aflwyddiannus am nifer o swyddi (ac, mae’n rhaid cyfaddef, ychydig o gyfnodau trist) ), cefais neges gan Alex Dyer (Prif Swyddog Gweithredol a sylfaenydd y platfform tiwtora ar-lein Tutor House), ar LinkedIn. Fe wnaethon ni gyfnewid sawl neges, gwnes i gwblhau dasg ysgrifennu ac yna fe wnaeth Alex fy ngwahodd i ddod i’r swyddfa am gyfweliad. Aeth yn dda, ac ychydig wythnosau yn ddiweddarach, cynigiwyd swydd imi fel Ysgrifennwr Cynnwys Iau ar gyfer Tutor House.
Digwyddodd hynny ym mis Chwefror 2019. Rwyf bellach yn gweithio yn Tutor House ers bron i flwyddyn, ac wedi dysgu llawer – yn fy nhermau fy hun, y farchnad addysg a busnes yn gyffredinol. Rwyf nid yn unig wedi rhoi hwb sylweddol i’m set sgiliau a dealltwriaeth o’r diwydiant, ysgrifennu copi a marchnata digidol (ar ôl gweithio yn Tutor House am 6 mis cefais ddyrchafiad i rôl Arweinydd Marchnata Digidol), ond hefyd yn nhermau yr hyn y mae bod yn rhan o gwmni newydd yn ei olygu. Er ei fod yn sicr na fydd gweithio mewn cwmni newydd at ddant pawb, mae’n dod yn opsiwn poblogaidd, yn enwedig ymhlith oedolion ifanc sydd ond yn dechrau ar eu gyrfaoedd, a gallaf weld pam.
Felly, p’un a ydych chi newydd ddechrau chwilio am swydd neu wedi bod hyd at eich clustiau mewn CVs a llythyrau cais ond nid ydych wedi cael llawer o lwc wrth geisio am swyddi mewn cwmnïau mwy, dyma ychydig o bethau rydw i wedi’u dysgu ynglŷn â gweithio mewn cwmni newydd a allai wneud ichi ystyried gwneud cais i weithio i un, hefyd:
Diwylliant Swyddfa:
Un o’r pethau gorau am weithio mewn cwmni newydd bach yw bod cyfle unigryw i adeiladu amgylchedd swyddfa gwirioneddol gadarn ac ysgogol. Gan fod gennym gyn lleied o eithwyr, mae pob gweithiwr unigol wedi adeiladu perthynas go iawn gyda’i gilydd ac, o ganlyniad, yn gallu cydweithio’n dda er mwyn cyflawni’r un nod. Oherwydd bod creadigrwydd ac arloesi wrth wraidd meddylfryd cwmni newydd, mae gweithle ysgogol wedi’i adeiladu ar ydberthnasoedd cadarnhaol yn hanfodol ar gyfer twf a chynhyrchiant.
Byddwch yn gweithio’n galed i ddatblygu etheg waith gref:
Peidiwch â chael eich twyllo, nid yw pob un yn ystafelloedd chwarae deniadol, bagiau ffa ac yn sgwteri yn y cynteddau yn unig; mae gweithio mewn busnes newydd yn bendant yn waith caled! Yn ogystal â chael llwyth gwaith eithaf trwm, bydd disgwyl yn aml i weithwyr ymgymryd â sawl rôl ar yr un pryd, yn enwedig os yw’r tîm yn fach. Er nad yw hyn yn wir bob amser, mae’n syniad da disgwyl y bydd eich rôl yn golygu rhywfaint o wneud mwy nag un wydd. Mae’r cyfleoedd ar gyfer dysgu a thwf yn niferus os ewch chi ati i wneud eich gwaith gydag agwedd sy dangos rhywfaint o hyblygrwydd.
Rydych chi’n dysgu llawer am fusnes ac yn datblygu sgiliau allweddol a fydd yn hanfodol yn ddiweddarach yn eich bywyd, y tu mewn a’r tu allan i’r gweithle:
Un peth arall gwych am weithio mewn busnes newydd yw bod gennych y cyfle unigryw i fynd i’r afael â’r hyn y mae’n ei olygu i adeiladu cwmni o’r gwaelod i fyny. Mae bod yn rhan o gwmni bach sy’n tyfu’n gyflym yn caniatáu i weithwyr fod yn agored i holl agweddau gwahanol y busnes, yn ogystal â darparu ystod eang o gyfleoedd ar gyfer arweinyddiaeth. Law yn llaw â hyn y mae datblygu sgiliau allweddol a busnes trosglwyddadwy, fel gwaith tîm, dirprwyo, rheoli amser, a bod yn drefnus.
Cewch y rhyddid i arloesi:
Yn wahanol i gwmnïau sydd eisoes yn ‘fawr’, diffinnir busnesau newydd gan y ffaith bod angen iddynt dyfu’n gyflym. Felly, bydd gweithwyr yn aml yn cael y cyfle i fod yn rhan weithredol o’r gwaith arloesi a dod o hyd i syniadau ar sut i gael y twf mwyaf.
Byddwch yn cael llawer o gyfrifoldeb ac yn aml yn gweithio heb oruchwyliaeth:
Er nad yw hyn yn gweithio i bawb, mae gweithio mewn busnes newydd yn gyfle gwych i weithwyr sy’n ffynnu wrth weithio’n annibynnol lwyddo go iawn. Mae gweithio’n annibynnol neu mewn tîm bach yn eich gorfodi rhywfaint i fabwysiadu dull gweithio cryf ac i ganolbwyntio ar y dasg wrth law. Gyda chyn lleied o weithwyr, bydd yn rhaid i chi gymryd atebolrwydd uniongyrchol am eich rôl o fewn y cwmni, ac mae hyn yn rhoi cymhelliant mawr i weithwyr a thimau unigol.
Byddwch yn dysgu pwysigrwydd cyfathrebu:
Gall cyfathrebu fod yn rhywbeth anodd i fusnesau newydd. Er bod amgylchedd tîm bach yn golygu y byddwch yn aml yn gweld eich hun yn rhyngweithio â chydweithwyr sy’n gweithio mewn rhan dra gwahanol o’r cwmni i’ch rhan chi, nid yw hynny o reidrwydd yn golygu eich bod yn ymarfer cyfathrebu yn y ffordd iawn. Gall yr awyrgylch pwysau uchel a chyflym sy’n dod gyda dechrau busnes newydd arwain at dimau unigol neu weithwyr yn canolbwyntio gormod ar yr hyn maen nhw’n ei wneud ac yn anghofio rhoi gwybod i weddill y tîm am beth maen nhw’n ei wneud, a gall hynny achosi problemau wedyn o ran cynhyrchiant a thwf. Mae cyfathrebu’n hollbwysig o ran busnes newydd sy’n rhedeg yn dda pan fydd pawb yn cyd-dynnu, a dyma rywbeth rwyf wedi’i ddysgu dros y flwyddyn ddiwethaf.
Manteision eraill:
Er bod hyn yn debygol o amrywio o fusnes newydd i fusnes newydd, yn aml ceir llawer o fanteision yn sgil gweithio i gwmni bach. Gall y rhain amrywio o oriau gwaith hyblyg ac awyrgylch ymlaciedig a chod gwisg anffurfiol, i frecwast neu ginio am ddim a buddion weithio o gartref. Ar ben hynny, bydd busnesau newydd yn aml yn cynnig manteision hirdymor i weithwyr gwerthfawr; a allai gynnwys uwch rôl a/neu opsiynau stoc i weithwyr.
A dyma ni! Dyma rai o’r ychydig o bethau allweddol rwyf wedi’u dysgu trwy weithio mewn busnes newydd. Yn sicr ni fydd busnes newydd yn iawn i bawb, ond mewn sawl ffordd, prin yw’r amgylcheddau gwaith eraill sy’n caniatáu i weithwyr ysgwyddo lefel mor uchel o gyfrifoldeb, neu sydd â photensial mor sylweddol ar gyfer twf personol a phroffesiynol. Os ydych chi’n chwilio am swydd ac nid ydych chi’n cael llawer o lwc, efallai y dylech ystyried gwneud cais am swydd o fewn busnes newydd; wyddoch chi byth – mae’n bosibl mai dyma fyddai’r symudiad gyrfa perffaith i chi!
Dymuniadau gorau,
Betsy Kharas
Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda
Oedd y blog yma’n ddefnyddiol? Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.
Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.
Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth.
Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac Arian, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Cwnsela, Iechyd a Lles, Anabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.
Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr ym 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.