Amser i Siarad Streiciau!
27 Chwefror 2020
Gyda streic arall ar y gweill unwaith eto, roeddem am dawelu eich meddyliau nad yw’r byd ar ben, a bod cymorth a chyngor ar gael. Rydym yn deall y byddwch yn bryderus ac yn poeni sut bydd y streiciau hyn yn cael effaith arnoch chi a’ch astudiaethau. A fydd effaith ar fy marciau? Pam mae hyn yn cadw digwydd? Beth allaf i ei wneud amdano? Gallwn ni, yr hyrwyddwyr lles, helpu gyda’r cwestiwn olaf, sef ‘beth allaf i ei wneud amdano.’
Myfyrwyr sydd wedi’u hyfforddi i gefnogi myfyrwyr gyda phryderon sy’n ymwneud ag iechyd a lles yw hyrwyddwyr lles. Mae hyrwyddwyr lles yn hwyluso ac yn arwain gweithdai ar sut i wella eich lles, ac maen nhw’n cynnig sesiynau galw heibio a arweinir gan gymheiriaid (gweler cymorth arall am fanylion) a grwpiau cyfarfod. Mae hyrwyddwyr lles hefyd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn i godi ymwybyddiaeth am ymgyrchoedd megis ‘Iawn Mêt’ ac ‘Amser i Siarad.’ Ein rôl ni fel hyrwyddwyr lles yw ymgysylltu â myfyrwyr drwy ddweud wrthynt am yr ymgyrchoedd yn ogystal â darparu taflenni gwybodaeth. Byddem yn annog myfyrwyr i ddod atom mewn digwyddiadau oherwydd ein bod yn griw cyfeillgar iawn ac yn hapus iawn i roi gwybodaeth am sut i wella eich lles. Byddwn hyd yn oed yn rhoi losin am ddim i chi!
Mae bod yn hyrwyddwr lles yn wych oherwydd ei fod yn rhoi’r cyfle i helpu llawer o fyfyrwyr gwahanol drwy sesiynau galw heibio, gweithdai, digwyddiadau a chyfarfodydd cymdeithasol, sy’n dod â nifer o bobl ynghyd gan greu ymdeimlad o gymuned.
Rydym hefyd yn hyrwyddo argymhellion o ran lles, ac un o’r rhain yw rhoi cynnig ar y rhaglen newydd ar-lein Talk Campus. Mae Talk Campus yn cynnig cyfle i fyfyrwyr estyn allan a chefnogi ei gilydd drwy gymorth gan gymheiriaid ar-lein ar raddfa fyd-eang. Mae modd i fyfyrwyr ddatgelu unrhyw wybodaeth y maen nhw’n teimlo’n gyfforddus yn ei rhannu, a bydd cymheiriaid sydd wedi’u hyfforddi a staff proffesiynol wrth law i helpu gydag unrhyw anawsterau. Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol ac nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, mae Talk Campus yn rhoi opsiwn i agor yr ap yn eich iaith gyntaf a chael yr un lefel o gymorth yn y ffordd honno. Mae’r ap yn rhad ac am ddim a gallwch ei lawrlwytho drwy App Store ar unrhyw ddyfais Apple, Android neu Microsoft. Gweler y lluniau isod i gael blas ar yr ap:
Rwyf wedi defnyddio’r ap hwn fy hun a’r peth oedd yn syfrdanol oedd pa mor hawdd oedd cael mynediad ato. Ni chodir tâl i ymuno, cewch anfon pa bynnag neges yr hoffech heb feirniadaeth, a chewch y cymorth gofynnol pan fyddwch yn gofyn amdano. Gwnaeth cynllun yr ap argraff arnaf oherwydd ei fod yn syml ac yn hawdd dod o hyd i’ch ffordd drwyddo – mae hyn yn gwneud bywyd llawer yn haws i fyfyrwyr.
Yn gryno, mae’r ap yn cynnig gwasanaeth gwib 24/7 i fyfyrwyr y mae angen cymorth ar unwaith arnynt. Gellir defnyddio’r ap unrhyw le: gartref, ar y campws a thramor hyd yn oed. Oherwydd bod yr ap wedi’i deilwra at eich anghenion penodol, cynigir gwasanaeth pwrpasol a fydd yn eich arwain i’r mannau cywir.
Cymorth arall
Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae’r Tîm Cwnsela a Lles ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 09:00 a 16:30 a than 20:00 ar nos Fawrth. Mae amrywiaeth o gymorth ar gael:
Adnoddau hunangymorth: ewch i’n tudalennau hunangymorth i gael strategaethau ymdopi ar sut i reoli gorbryder, hwyliau isel, straen ac anawsterau eraill.
Galw heibio: Mae’r gwasanaeth galw heibio dyddiol, yn cynnig gwasanaeth, cyngor, gwybodaeth a manylion am y gwasanaethau sydd ar gael, a sut y gall myfyrwyr gyfeirio at gwnsela neu gymorth lles pellach. Gall myfyrwyr alw heibio heb apwyntiad, a chael sgwrs 10-15 munud ag aelod o’r gwasanaeth lles. Mae hyrwyddwyr lles ar gael hefyd i gynnig sesiynau galw heibio Cefnogaeth gan Gyfoedion ar adegau/diwrnodau penodol.
Gweithdai, grwpiau a chyrsiau a argymhellir
Meddyg Teulu: Gwnewch yn siŵr eich bod yn trafod unrhyw bryderon am eich iechyd meddwl â’ch meddyg teulu. Dylech gysylltu gyntaf â’ch meddyg teulu. Gall gynnig cefnogaeth a’ch cyfeirio at wasanaethau.
Mewn argyfwng
Ffoniwch +999 ac i roi gwybod i Ddiogelwch +44 (0)2087 4444 os yw’r sefyllfa’n ymwneud â’r canlynol: perygl uniongyrchol, bwriad i gyflawni hunanladdiad, cario arf, bygwth niwed, peri anaf corfforol, lladd myfyriwr neu gyflawni terfysgaeth. I gael cefnogaeth 24/7 gan Galw Iechyd Cymru, deialwch +44 (0)845 46 47 neu ewch i Galw Iechyd Cymru.
Os ydych yn pryderu am ddiogelwch eich hun neu eraill
Anfonwch ebost at ein Tîm Iechyd a Lles yn concernedaboutastudent@caerdydd.ac.uk gan nodi achos yr argyfwng. Dyma rai enghreifftiau: risg i chi eich hun neu eraill, ymddygiad anwadal, newidiadau yn eich ymddygiad, addasrwydd i astudio. Byddwn yn ateb eich ymholiad, lle bo modd, o fewn un diwrnod gwaith rhwng 10.00 a 16.00, ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc) yn ystod y tymor yn unig. Os byddwch yn anfon ebost atom gyda phryder ar ôl 16:00 ni fydd hwn yn cael sylw tan y diwrnod gwaith canlynol. Ewch i weld eich meddyg teulu os ydych yn pryderu am eich diogelwch er mwyn iddynt allu cynnig asesiad meddygol a phersbectif arall i chi.
Datgelu profiad o drais neu gam-drin
Ebostiwch disclosureresponseteam@caerdydd.ac.uk os ydych wedi dioddef trais a/neu gam-drin ac angen cefnogaeth ymarferol. Rydym yn cefnogi myfyrwyr sydd wedi dioddef ymosodiad rhywiol, trais rhywiol, trais domestig, stelcio, aflonyddu neu drosedd casineb. Os yw’r profiad yn digwydd yn awr ac rydych mewn perygl ar hyn o bryd, cyfeiriwch at y cyngor brys uchod. Os ydych wedi profi math o drais rhywiol yn ystod y 72 awr ddiwethaf, cysylltwch â’r Tîm Ymateb i Ddatgeliadau i gael cyngor ac arweiniad ar unwaith.
Cymorth defnyddiol arall
Gwasanaeth | Disgrifiad |
Llinell Nos | Gallwch sgwrsio am unrhyw beth sydd yn eich poeni. Mae’r gwasanaeth hwn a arweinir gan fyfyrwyr wedi’i leoli yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. |
Y Samariaid | Gwasanaeth cymorth mewn argyfwng lle gallwch siarad am unrhyw beth sy’n eich poeni. |
Mind | Gall y gwasanaeth hwn eich helpu i ddod o hyd i gymorth lleol, yn ogystal â rhoi gwybodaeth am broblemau a thriniaethau iechyd meddwl. |
Canolfan Cyngor i Fyfyrwyr, Undeb y Myfyrwyr | Mae’n rhoi cyngor a gwybodaeth, eiriolaeth, cynrychiolaeth a chefnogaeth drwy wasanaeth cyfrinachol, diduedd, annibynnol, rhad ac am ddim. |
Byw Heb Ofn | Cefnogaeth a gwybodaeth gyfrinachol am gam-drin domestig, trais rhywiol a thrais sy’n effeithio ar unrhyw un yng Nghymru |
Meningitis now (Llid yr ymennydd) | Os oes gennych gwestiynau am lid yr ymennydd neu septisemia meningococcal. Gallwch hefyd drafod pethau neu gael rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth a gynigir. |
Cwnsela Profedigaeth Cruse | Cefnogaeth gyfrinachol rad ac am ddim i oedolion a phlant yn dilyn profedigaeth. |
Dymuniadau gorau,
James, Hyrwyddwr Lles,
Tîm Cwnsela, Iechyd a Lles

Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda
Oedd y blog yma’n ddefnyddiol? Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.
Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.
Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac Arian, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Cwnsela, Iechyd a Lles, Anabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.
Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth.
Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr ym 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.
Cewch ragor o fanylion am wasanaethau, digwyddiadau, amseroedd agor a chysylltiadau, chwiliwch am ‘cefnogaeth a gwasanaethau’ ar Fewnrwyd y Brifysgol.