4 Cam i gadw’n heini a phositif wrth ymneilltuo
17 Ebrill 2020

- Pwysigrwydd cadw trefn
Yn fy marn i, y peth pwysicaf yw cadw at drefn wrth ymneilltuo. Pan mae popeth o’n hamgylch mor ddryslyd ac ansicr y cam cyntaf i gynnal eich iechyd meddwl a chorfforol yw gosod nodau ar gyfer eich diwrnod. Bydd gwybod yr hyn rydych am ei gyflawni yn eich diwrnod yn eich cadw i deimlo’n gynhyrchiol ac yn llwyddiannus. Fodd bynnag, pan fyddwch yn dechrau meddwl am y nodau hyn sicrhewch eich bod yn realistig a pheidiwch â gwthio eich hun yn rhy bell – wedi’r cyfan, rydym mewn pandemig byd-eang.
Yn bersonol, rwyf wedi ysgrifennu trefn ddelfrydol i fy niwrnod gyda nodau megis codi erbyn 10am a gwisgo erbyn canol dydd. Rwy’n ceisio cadw fy nhrefn yn debyg i’r drefn pan nad oeddwn yn ymneilltuo, felly dewch o hyd i’r amseru a’r nodau sy’n gweithio orau i chi. Byddaf yn argymell ei hysgrifennu rywle (efallai mewn dyddiadur cwarantîn) fel bod gennych rywbeth ffisegol i’ch ysgogi.
2. Cadw mewn Cysylltiad
Rwy’n siŵr eich bod wedi clywed erbyn hyn am y gwahanol apiau ar gyfer gwneud galwadau fideo grŵp. Yn bersonol, rwy’n defnyddio Zoom Conferencing neu Facebook Messenger, ond mae digon ar gael felly defnyddiwch beth bynnag y mae eich teulu a’ch ffrindiau’n eu defnyddio. Weithiau mae’n anodd cadw sgwrs i fynd felly isod gweler rhai themâu a syniadau newydd;
- Cynhaliwch TED Talk amatur – gofynnwch i bawb gyflwyno rhywbeth sydd o ddiddordeb iddynt, gall hyn fod yn ddychanol neu’n llawn gwybodaeth, ond mae’n rhoi amrywiaeth o bynciau i chi eu trafod (ac mae’n golygu bod gennych brosiect bach hwyl i weithio arno)
- Cymerwch ran mewn cwis tafarn rhithwir – gallwch fod yn greadigol drwy gynnwys rownd sy’n unigryw i’ch ffrindiau/teulu gyda chwestiynau am eich gilydd
- Cynhaliwch barti rhithwir â thema – themâu sy’n llawer o hwyl yw Vines/Tik Toks lle mae angen i chi hefyd berfformio’r fideo
- Noson gemau ar-lein – mae gemau cardiau poblogaidd fel Uno a Cards Against Humanity ar gael ar-lein am ddim, ond gallwch hefyd fuddsoddi mewn gemau parti fel Jackbox.
3. Ffyrdd o gadw’n heini
Os yw eich cyfryngau cymdeithasol yn debyg i’m rhai fi, efallai eich bod wedi gweld llu o bostiadau am ‘ymarfer corff gartref’. Tra bod rhain eich ysgogi ychydig ac yn weddol addysgiadol mae’n bwysig peidio â theimlo pwysau i wthio eich corff yn rhy bell; gan nad ydych am anafu eich hun. Yn debyg iawn i fywyd y tu allan i’r cyfyngiadau symud, mae bob amser yn syniad da ceisio gwneud rhywfaint o ymarfer corff, felly ceisiwch fanteisio ar eich un cyfle i fynd allan bob dydd a’i wneud yn rhan o’ch trefn naturiol. Nid yw hyn yn golygu bod angen i chi wneud ymarferion HIIT bob dydd gan fod cyrff pawb yn wahanol ond mae’n syniad da i ddod o hyd i nod sy’n gweithio i chi. Gall rhoi cynnig ar y cynllun ‘Couch to 5k’ fod yn bwynt dechrau neu sesiynau ymarfer corff Joe Wicks.
Mae cadw’n heini’n ffordd dda o leddfu staen ond gall hefyd fod yn ffordd arall o gymdeithasu. Dilynwch gynnydd eich ffrindiau ar-lein neu gofynnwch i aelodau eich cartref gymryd rhan. Nid oes yn rhaid cael sesiynau ymarfer corff penodol er mwyn cadw’n heini, dewis amgen da yw rhoi cynnig ar chwaraeon cartref – beth am ali fowlio dros dro neu rywbeth mor syml â phêl-droed.
4. Canolbwyntio ar beth sy’n eich gwneud yn hapus
Rydym ar ganol amser pryderus iawn ar hyn o bryd, felly mae’n andros o bwysig eich bod yn gwneud yr hyn sy’n eich gwneud yn hapus. Rwyf yn ysgrifennu hyn yn ystod yr ail wythnos ers i’r DU gyflwyno cyfyngiadau symud felly rydych siŵr o fod yn ymwybodol yn barod o ba ragofalon y dylid eu cymryd a sut i gadw pellter cymdeithasol priodol. Fy nghyngor yw ceisiwch beidio ag edrych ar ormod o adroddiadau newyddion bob dydd ac os ydych yn teimlo’n bryderus, defnyddiwch yr adnoddau sydd ar gael i chi – gall y rhain fod yn rhaglenni am ymwybyddiaeth ofalgar neu wasanaethau lles y brifysgol / elusen.

Bydd y camau hyn yn dod yn unigryw iawn o ran beth sy’n gweithio i chi, felly byddwn i wrth fy modd yn clywed eich cynghorion a’ch awgrymiadau am sut i gadw’n bositif ac yn heini yn ystod cyfyngiadau symud.
Cadwch yn ddiogel bawb,
Chloe x
Chloe Chapman, ail flwyddyn y Cyfryngau a Chyfathrebu
Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda
Oedd y blog yma’n ddefnyddiol? Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.
Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.
Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac Arian, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Cwnsela, Iechyd a Lles, Anabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.
Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth.
Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr ym 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.
Cewch ragor o fanylion am wasanaethau, digwyddiadau, amseroedd agor a chysylltiadau, chwiliwch am ‘cefnogaeth a gwasanaethau’ ar Fewnrwyd y Brifysgol.