Trechodd Alice gryn gystadleuaeth yng Ngwobrau Myfyriwr Israddedig y Flwyddyn TARGETJobs, ac enillodd y Wobr yng nghategori Myfyriwr Israddedig Cyfrifiadureg, TG a Ffiseg y Flwyddyn. Mae Alice yn dweud wrthym am ei phrofiad yn y Brifysgol a pham cyflwynodd hi gais am y gystadleuaeth..

Dywedwch wrthym amdanoch
Rwy’n dod o ger Llundain yn wreiddiol, ond mae fy rhieni’n dod o’r Alban a Chymru. Rwyf newydd gyflawni fy ngradd israddedig mewn Cyfrifiadureg gyda Diogelwch a Gwaith Fforensig yng Nghaerdydd, a nawr rwy’n dechrau gradd Meistr mewn Seibr-ddiogelwch yng Nghaerdydd hefyd.
Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am eich gradd?
Yn fwyaf, rwy’n mwynhau dysgu sut mae pethau’n gweithio a mynd i’r afael â heriau rhaglennu fel posau dadansoddol. Mae’n gyffrous iawn datrys y posau hyn a helpu i wneud technoleg yn fwy hygyrch i’r rheini sy’n llai greddfol a hyfedr yn y maes.
Dywedwch wrthym am eich Gwobr Myfyriwr Israddedig y Flwyddyn 2020 TARGETJobs, a sut rydych yn teimlo am ennill
Mae sawl categori i wobr Myfyriwr Israddedig y Flwyddyn, a rhoddais i gynnig ar gategori Cyfrifiadureg, TG a Ffiseg. Y cam cyntaf oedd llenwi ffurflen ar-lein ac ateb amryw gwestiynau gan noddwr y categorïau – Skyscanner. Dilynwyd hyn gan her raglennu, yna cyfweliad ar-lein ac yna diwrnod ymgeiswyr gyda gweithgareddau gwaith tîm, cyfweliad technegol a chyfweliad cymdeithasol. Synnais i i mi ennill, achos roeddwn i wedi cwrdd â chymaint o bobl glyfar yn y broses. Dw i wrth fy modd i mi gyrraedd y cam terfynol – heb sôn am ennill.
Beth ysbrydolodd chi i roi cynnig arni?
Ces i ebost gan Brifysgol Caerdydd yn dweud wrtha i am y gystadleuaeth tra oeddwn i ar daith drên tair awr o hyd. Yn syml, meddyliais i, pam lai? Bu’n ffordd o ddifyrru’r amser ar y trên – ni feddyliais i byddwn i’n pasio’r cam cyntaf, ond byddwn i’n rhoi cynnig arni.
Sut gwnaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd eich helpu chi?
Roeddwn i wedi mynd i un ffair yrfaoedd o’r blaen a ches i fy llethu gan yr holl bobl a gorfod mynd atynt. Cerddais i’n syth drwyddi, gan siarad ag un stondin lle daethon nhw ata i. Helpodd hyn i mi sylweddoli bod wir angen i mi fod yn fwy mentrus a mynd at bobl i gael yr hyn sydd ei eisiau arna i.
Beth yw eich cynlluniau gyrfaol?
Ar hyn o bryd, rwy’n ceisio dod o hyd i swydd yn y diwydiant technoleg i weithio ochr yn ochr â’m meistri. Ar ôl gorffen y flwyddyn nesaf, rwy’n gobeithio cael swydd mewn profi treiddio neu fforensics cyfrifiadurol. Swyddi anodd dod o hyd iddyn nhw yw’r rhain, gan eu bod nhw mor arbenigol. Felly, rwy’n falch iawn o gael y wobr genedlaethol hon i’m helpu.
Alice Edwards
MSc Seiberddiogelwch