Health and Wellbeing, Let's Share, Mental health, More, Student Stories

Codi llais am iselder a gorbryder

Polly, un o Gynfyfyrwyr Caerdydd, a fu gynt yn Hyrwyddwr Llesiant, sy’n sôn am ei brwydrau gydag iselder a gorbryder…

Dechreuodd fy symptomau iselder a gorbryder ddod i’r amlwg gyntaf pan gychwynnais i yn y Brifysgol yn 2015.  Oherwydd mod i mewn man anghyfarwydd, ymhell o’m rhwydwaith cefnogi arferol yn y teulu, dechreuais i deimlo’n ynysig.

Er mod i bob amser wedi gweithio’n galed, fe ddefnyddiais i waith y Brifysgol a chreu trefn weithio gaeth yn ddihangfa gyfleus oddi wrth fy meddyliau cynyddol dywyll. Datblygodd y drefn hon ei hunaniaeth ei hun, a byddwn i’n teimlo straen a gorbryder aruthrol os na fyddwn i’n cadw at batrwm arferol oedd yn gwbl drefnus ac yn gynhyrchiol dros ben.

Dim ond yn fy ail dymor yn y flwyddyn gyntaf y dechreuais i sylweddoli’n wir bod y meddyliau tywyll hyn, o’u cyfuno ag ymdrech wyllt i weithio oriau hir, yn afiach.  Ond hyd yn oed wedyn roedd yn anodd iawn datgelu’r gwir i ffrindiau a theulu, gan fod fy salwch meddwl, yn fy marn i, yn tystio i’m methiant i ymdopi wrth bontio i’r Brifysgol.

Fodd bynnag, drwy gyfuniad o feddyginiaeth (peidiwch â gadael i’r stigma ynghylch meddyginiaeth eich atal rhag archwilio’r opsiwn yna) a chwnsela, dechreuais i allu edrych ar fy nghredoau negyddol a’m trefn waith yn gliriach.

Fe sylweddolais i fod gwrthod amser o’r gwaith i mi fy hun a dadansoddi fy mherfformiad yn barhaus, hyd yn oed pan fyddwn i’n cael egwyl, yn niweidio fy llesiant a’m mwynhad cyffredinol mewn bywyd. Yn yr un modd, fe wnes i ddatblygu strategaethau effeithiol i ‘herio’ fy meddyliau negyddol a’u galw wrth yr enw cywir – meddyliau. Yn hytrach na ffeithiau pendant y dylid gweithredu arnynt.

Trwy hynny rwyf wedi llwyddo i oresgyn y rhan fwyaf o’r symptomau iselder a gorbryder roeddwn i’n eu profi.  Felly rwy’n gwybod bod pethau yn gwella!

Fodd bynnag, ar yr un pryd, mae byw gyda salwch meddwl a mynd i’r afael ag e yn waith caled iawn ac yn aml yn her feunyddiol.  Felly, i’r holl bobl hynny sy’n dal i frwydro, cofiwch fod teimlo wedi ymlâdd yn iawn, a’ch bod chi’n dal i wneud rhywbeth pwerus iawn, hyd yn oed os ydych chi’n cael diwrnod gwael.

Rwy’n gwybod mod i’n dal i gael diwrnodau gwael, ac mae’n gallu bod yn ddigalon teimlo’r meddyliau tywyll yna’n brigo i’r wyneb eto pan fydd mwy o straen mewn bywyd.  Ond dyw adferiad o salwch meddwl ddim yn llinol, ac mae amrywiadau’n gwbl normal.

Rwy’n annog unrhyw un sy’n cael anawsterau iechyd meddwl i estyn allan at ffrindiau maen nhw’n eu trystio, teulu neu weithwyr proffesiynol oherwydd gallan nhw’n wir ysgafnhau’r baich.  Rwyf fi’n gwybod bod hyn yn rhywbeth mae angen i mi weithio arno o hyd, gan mod i’n tueddu i roi dan y pwysau tu ôl i ddrysau caeedig yn unig.

Beth yw gorbryder?

‘Gorbryder yw teimlad anghyfforddus, megis pryder neu ofn, sy’n gallu bod yn ysgafn neu’n ddifrifol.  Mae pawb yn dioddef teimladau o orbryder ar ryw adeg yn eu bywyd – er enghraifft, efallai byddwch chi’n pryderu ac yn poeni am sefyll arholiad, neu gael prawf meddygol neu gyfweliad am swydd.  Ar adegau fel y rhain, gall fod yn gwbl normal teimlo’n bryderus.  Ond mae rhai pobl yn cael trafferth cadw eu pryderon o dan reolaeth. Mae eu teimladau o orbryder yn fwy cyson ac yn aml yn gallu effeithio ar eu bywydau beunyddiol’ – gwefan y GIG.  Mae rhagor o wybodaeth am symptomau a thriniaeth gorbryder yma. 

Mae gwybodaeth ac adnoddau hunangymorth i’ch helpu gyda gorbryder ar gael ar Fewnrwyd y Brifysgol. 

Beth yw iselder?

Mae iselder yn fwy na theimlo’n anhapus neu’n ddiflas am rai dyddiau.  Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael cyfnodau o deimlo’n isel, ond pan fyddwch chi’n dioddef o iselder byddwch chi’n teimlo’n drist yn ddibaid am wythnosau neu fisoedd, yn hytrach nag am rai dyddiau’n unig.  Mae rhai pobl yn meddwl bod iselder yn rhywbeth dibwys, ac nad yw’n gyflwr iechyd gwirioneddol.  Maen nhw’n anghywir – mae’n salwch go iawn gyda symptomau go iawn.  Nid arwydd o wendid yw iselder, na rhywbeth y gallwch chi “neidio allan ohono” trwy “wneud bach o ymdrech”.  Y newyddion da yw bod y rhan fwyaf o bobl sy’n dioddef o iselder yn gallu cael adferiad llawn, o dderbyn y driniaeth a’r gefnogaeth iawn’ – gwefan y GIG.  Mae rhagor o wybodaeth am symptomau a thriniaeth iselder yma.

Mae gwybodaeth ac adnoddau hunangymorth i’ch helpu gydag iselder ar gael ar Fewnrwyd y Brifysgol.

Felly beth am rannu mwy am iechyd meddwl…

Mae cyflyrau iechyd meddwl yn gyffredin; maen nhw’n effeithio ar 1 o bob 4 person bob blwyddyn.  Diben Ymgyrch #LetsShare yw annog pawb i rannu mwy o wybodaeth am iechyd meddwl er mwyn i ni fedru gwella ein llesiant a helpu i ddileu stigma.

Gwyliwch ein fideo #LetsShare , sy’n cynnwys myfyrwyr a staff Prifysgol Caerdydd sydd wedi bod yn ddigon dewr i siarad am eu profiadau iechyd meddwl eu hunain, er mwyn cefnogi’r ymgyrch.

Cwnsela, Iechyd a Llesiant

Darparu gwybodaeth, gwasanaethau cefnogi a digwyddiadau i’ch helpu i reoli’ch iechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol. Chwiliwch am ‘iechyd a llesant‘ ar y fewnrwyd.   

Dymuniadau gorau,
Polly

Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda

Oedd y blog yma’n ddefnyddiol?  Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.

Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.

Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth.

Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac ArianGyrfaoedd a ChyflogadwyeddCwnsela, Iechyd a LlesAnabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.

Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr ym 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.

Cewch ragor o fanylion am wasanaethau, digwyddiadau, amseroedd agor a chysylltiadau, chwiliwch am ‘cefnogaeth a gwasanaethau’ ar Fewnrwyd y Brifysgol.