Before you graduate, Careers Advice, GO Wales, More, Placements, Preparing for your future, Recruiters, Student Stories, What's On, Work Experience

Chwilio am swyddi fel Myfyriwr Rhyngwladol

Mae bod yn fyfyriwr rhyngwladol yn anodd. Heb os, symud i Gaerdydd o Jakarta – y man lle cefais fy magu – oedd y profiad a gododd y mwyaf o fraw arnaf erioed, gan y bu’n rhaid i mi addasu i rywle anghyfarwydd lle nad oeddwn yn adnabod unrhyw un nac yn gwybod unrhyw beth am y diwylliant. Mae llywio drwy fywyd prifysgol fel myfyriwr rhyngwladol yn ddigon anodd, ond bydd pob myfyriwr prifysgol yn profi’r straen ychwanegol o feddwl am beth i’w wneud ar ôl graddio. Mae nifer o fyfyrwyr rhyngwladol am aros a gweithio yn y DU ar ôl graddio, ond mae’r broses o chwilio am swydd yn fwy cymhleth o lawer i fyfyrwyr rhyngwladol.

Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr rhyngwladol yn cael fisa Haen 4 er mwyn gallu dod i astudio yn y DU. Er mwyn gweithio yn y DU, byddai’n rhaid i fyfyrwyr newid i fisa Haen 2, sy’n fisa gwaith gyffredinol, ac er mwyn cael y fisa hon, byddai angen i fyfyrwyr gael swydd â sgiliau gyda chyflogwr sydd wedi’i drwyddedu i noddi fisâu. At hynny, mae gofynion eraill sydd angen i chi eu bodloni i gael y fisa hon, fel isafswm cyflog. Nid pob cwmni sydd wedi’i drwyddedu i gynnig nawdd ar gyfer fisâu gwaith, felly byddai’n rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol gael y swydd gywir yn y lle cywir ar yr adeg gywir. Ar hyn o bryd, rwyf innau hefyd yn fyfyriwr graddedig sydd wrthi’n chwilio am swydd. Dydw i ddim wedi llwyddo i ddod o hyd i un eto – ond rwyf wedi dysgu rhai pethau yn y broses.

Bydd profiad gwaith yn eich helpu i fod gam ar y blaen wrth wneud cais am swydd.

Y peth pwysicaf i’w sylweddoli yw eich bod yn cystadlu yn y farchnad swyddi fel myfyriwr rhyngwladol. Felly, da chi, gwnewch yn siŵr bod rhywbeth amdanoch sy’n mynd i greu argraff. I gyflawni hynny, mae’n rhaid i chi roi tystiolaeth o brofiad gwaith ar eich CV. Rydych yn cystadlu yn erbyn miloedd o raddedigion eraill â phrofiad gwaith ar eu CV, felly mae’n rhaid i chi wneud argraff a gwneud yn siŵr eich bod yn rhagori ar bawb arall. Rhowch eich hun yn sefyllfa’r cyflogwr – fydden nhw ddim eisiau cyflogi myfyriwr cartref heb unrhyw brofiad gwaith, heb sôn am fyfyriwr rhyngwladol. Os ydych yn cael profiad gwaith, gallwch geisio eich gorau i deilwra’r profiad hwnnw ar gyfer yr hyn rydych eisiau ei wneud yn y dyfodol. Fodd bynnag, hyd yn oed os nad yw’n ymwneud â’r un maes, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael sgiliau trosglwyddadwy y gallwch eu defnyddio yn y dyfodol (e.e. sgiliau cyfathrebu, datrys problemau, sgiliau trefnu, ac ati). Bydd hyn yn arwydd i gyflogwyr eich bod yn fyfyriwr rhagweithiol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y graddau gorau posibl, ond ni fydd graddau da wrthynt eu hunain yn sicrhau swydd graddedigion i chi. Prin y galla i bwysleisio hyn ddigon – bachwch ar gymaint o brofiad gwaith â phosibl, a gwnewch yn siŵr eich bod yn rhagori ar y rhai fydd yn cystadlu yn eich erbyn!

Gwnewch eich gwaith ymchwil!

t hynny, mae’n rhaid i chi gynnal eich ymchwil a chynllunio. Mae hyn bwysig wrth chwilio am swyddi beth bynnag, ond hyd yn oed yn bwysicach os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. Eto, ni all pob sefydliad noddi fisâu gwaith, ac weithiau, dyw’r ffaith eu bod yn gallu ddim yn golygu y byddant yn gwneud. Ewch ati i ddod i wybod am gwmnïau sy’n gallu noddi fisâu a cheisiwch wneud cais i’r cwmnïau hynny all eich cefnogi – peidiwch â gwastraffu eich amser yn llunio cais rhagorol am swydd, cyn cael eich gwrthod gan gwmni sy’n methu eich noddi. Edrychwch ar restr Llywodraeth y DU o Noddwyr Haen 2, a gwnewch yn siŵr bod y cwmni rydych yn cyflwyno cais iddo’n gymwys i’ch helpu i gael fisa gwaith. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’ch opsiynau – gwnewch eich gwaith ymchwil, a chwiliwch am y cyfleoedd sydd o ddiddordeb i chi, a bydd hynny’n cymryd amser. Crëwch ddogfen sy’n rhestru’r holl ddyddiadau cau ar gyfer gwneud cais fel eich bod yn gallu cadw llygad arnyn nhw a gwneud yn siŵr eich bod yn cwblhau bob un. Gwnewch eich gwaith ymchwil yn GYNNAR! Peidiwch â’i adael tan semester olaf eich blwyddyn olaf cyn dechrau gwneud cais am swyddi oherwydd ni fydd hynny’n rhoi digon o amser i chi. Rwy’n difaru ei gadael tan y drydedd flwyddyn cyn sylweddoli bod angen profiad gwaith arnaf. Rydych mewn sefyllfa anoddach, felly da chi achubwch y blaen.

Defnyddiwch y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae adnoddau ar eich cyfer yn y Brifysgol sy’n ymwneud â chyflogadwyedd yn benodol. Felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r adnoddau hynny hyd eithaf eich gallu. Gofynnwch i ymgynghorydd gyrfaoedd a chyflogadwyedd wirio eich CVs a’ch llythyron eglurhaol cyn eu cyflwyno i wneud yn siŵr bod gennych y cyfle gorau i lwyddo. Ewch i gymaint o ffeiriau gyrfaoedd a digwyddiadau cyflogwyr â phosibl er mwyn rhwydweithio â chyflogwyr a gofyn unrhyw gwestiynau iddynt y mae’n bosibl sydd gennych am eu cyfleoedd o ran cyflogaeth – bydd nifer o ffeiriau a digwyddiadau drwy’r flwyddyn, felly cadwch olwg amdanynt. At hynny, bydd ffeiriau gyrfaoedd yn eich galluogi i gwrdd â graddedigion sydd wedi bod yn yr un sefyllfa â chi, a gallwch ofyn iddyn nhw am y cyngor gorau ar gyfer creu’r cais gorau posibl. Gwnewch y defnydd mwyaf o’r adnoddau sydd ar gael i chi, oherwydd bydd arnoch angen yr holl gymorth ag y gallwch ei gael.

Byddwch yn realistig, ond yn fwy pwysig, byddwch yn wydn!

Yn olaf, mae’n bwysig bod yn realistig. Ni fydd pob cwmni eisiau cyflogi myfyrwyr rhyngwladol. Gallwch lwyddo, ond mae’n broses anodd dros ben. Mae’n bosibl y byddwch yn methu hefyd, felly rhaid i chi gadw’n hyblyg o ran eich rhagolygon. I mi, y peth anoddaf am chwilio am swydd fel myfyriwr rhyngwladol yw nid yr holl geisiadau a’r llythyron eglurhaol sy’n rhaid i chi eu hysgrifennu – ond effaith y broses ar fy iechyd meddwl. Mae’n torri’r ysbryd ac yn digalonni rhywun ar brydiau – mae’n teimlo fel petaech yn ymladd brwydr na allwch ei hennill, gan eich bod eisoes o dan anfantais oherwydd eich statws fisa, ac mae llai o ddewis ar gael. Mae chwilio am swyddi i raddedigion yn peri straen, ac mae hyd yn oed yn fwy o straen os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. Felly, gweithiwch yn galed ond gofalwch amdanoch eich hun hefyd. Cymerwch seibiant os oes angen un arnoch. Cofiwch: beth bynnag yw’r canlyniad a gewch, rydych yn dal i fod yn unigiolyn teilwng. Hyd yn oed os byddwch yn methu, bydd y profiad o fudd i chi – bydd methu yn y cyfweliad hwnnw’n eich paratoi i wneud yn well yn yr un nesaf. Ni allaf sôn wrthych am lwyddiant ar hyn o bryd, ond gyda lwc, byddaf yn llwyddo yn y dyfodol

Dymuniadau gorau,

Karisa Amanda Hermawan,

MA Cysylltiadau Cyhoeddus Rhyngwladol a Rheoli Cyfathrebu Byd-eang