Exam and assessment tips, Exam tips, More

Awgrymiadau ynghylch sut i ymdopi â phryder cyn ac yn ystod arholiadau

Dyma awgrymiadau gan Rachel, Ymarferydd Lles o’r Gwasanaeth Cwnsela, Iechyd a Lles, ynghylch sut i ymdopi â phryder yn ystod arholiadau ac wedi hynny.

Mae pryderu cyn arholiad yn deimlad cwbl naturiol. I ddweud y gwir, gall rhywfaint o bryder eich helpu i berfformio’n well. Mae pryder a straen yn achosi i’r corff ryddhau adrenalin a all fod yn ddefnyddiol wrth ymateb i sefyllfaoedd heriol. Mae manteision i fod yn hamddenol, ond gall bod mor hamddenol a didaro nes eich bod yn llorweddol olygu y gallech fod yn brin o gymhelliant i wneud yn dda!

Yn yr un modd, gall gormod o adrenalin wneud i chi deimlo’n ofidus ac amharu ar eich perfformiad. Mae angen i chi gael y cydbwysedd cywir rhwng pryderu rhy ychydig a bod yn rhy bryderus. Diben y blog hwn yw eich helpu i reoli eich pryder a sicrhau lefel optimaidd er mwyn hyrwyddo effrogarwch a pherfformiad.

Dyma rywfaint o gyngor ynghylch sut gallwch helpu eich hun i ymdopi â…

Phryder yn ystod y cyfnod cyn yr arholiadau

  • Neilltuwch ddigon o amser adolygu ymhell cyn eich arholiadau – mae tua chwe wythnos fel arfer yn ddigon, ond rhowch fwy o amser os ydych yn teimlo y gallwch fod ei angen. Mae’n well neilltuo gormod o amser na rhy ychydig!
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn adolygu’n effeithiol. Dylech ganolbwyntio ar ddeunyddiau angenrheidiol a bod yn weithredol yn hytrach nag eistedd a darllen am oriau ar y tro.
  • Peidiwch â bod ofn gofyn i’ch tiwtor am gymorth os ydych chi’n cael trafferthion yn ystod eich cyfnod adolygu.
  • Peidiwch â chanolbwyntio eich bywyd cyfan ar adolygu.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd egwyl yn rheolaidd, yn cael diwrnodau i ffwrdd a chael digon o gwsg.
  • Bwytewch yn dda – mae angen ynni a thanwydd ar eich ymennydd i wneud y gorau o’ch amser adolygu.
  • Siaradwch â’ch ffrindiau a’ch teulu am eich pryderon.
  • Mae technegau ymarfer ac ymlacio (megis myfyrdod neu ioga) yn ffyrdd gwych o dynnu eich meddwl oddi ar eich gwaith os yw’r poeni yn dechrau effeithio arnoch chi.

Panig y noson flaenorol

  • Dysgwch dechneg ymlacio ymlaen llaw er mwyn i chi ei defnyddio os oes angen.
  • Ceisiwch osgoi gweithio’n rhy agos at yr arholiad – peidiwch ag aros fyny yn hwyr y noson cyn yr arholiad neu godi’n gynnar ar fore’r arholiad. Mae noson dda o gwsg yn fwy gwerthfawr nag ychydig oriau ychwanegol o adolygu.
  • Gwyliwch ffilm ddoniol neu ddarllen llyfr doniol – mae hiwmor yn ffordd wych o dynnu eich meddwl oddi ar eich pryderon.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod wedi paratoi’n drylwyr ar gyfer yr arholiad er mwyn lleihau eich pryderon. Gwnewch yn siŵr fod yr amser a’r lleoliad cywir gyda chi, paciwch eich cas pensiliau gyda phopeth y gall fod ei angen arnoch a rhowch eich dillad yn barod ar gyfer y diwrnod wedyn.siliau gyda phopeth y gallwch fod angen a gosod eich dillad ar gyfer y diwrnod nesaf.
  • Cofiwch fwyta – bydd angen tanwydd ar eich ymennydd yn yr arholiad! Mae bara sych, craceri a grawnfwyd i gyd yn datrys corddiadau stumog.

Panig yn ystod yr arholiad

  • Caewch eich llygaid ac anadlwch yn ddwfn am ychydig. Ailadroddwch hyn pryd bynnag y byddwch yn dechrau teimlo’n bryderus.
  • Darllenwch drwy’r cyfarwyddiadau a’r cwestiynau’n araf ac yn ofalus, gan dynnu sylw at bwyntiau allweddol.
  • Cynlluniwch eich atebion. Mae hyn yn bwysig gan ei fod yn helpu llif eich ysgrifennu ac mae’n golygu nad ydych yn mynd i banig ac yn dechrau dilyn ysgyfarnogod.
  • Atebwch y cwestiwn hawsaf yn gyntaf os ydych yn teimlo y bydd hyn yn eich ymlacio.
  • Os byddwch yn dechrau teimlo’n anhwylus, yfwch rywbeth a chau eich llygaid am ychydig eiliadau. Ysgydwwch eich breichiau a symudwch eich pen o ochr i ochr i ryddhau’r tensiwn.
  • Os oes angen ichi, gadewch i oruchwyliwr wybod sut rydych chi’n teimlo a gofynnwch a gewch chi fynd y tu allan am funud. Gall awyr iach fod yr union beth rydych chi ei angen i ymdawelu.

Gwyliwch ein cyfres o fideos i ddysgu rhai technegau ymlacio.

Sesiynau Galw Heibio – Ymwybyddiaeth Ofalgar

Gall ymwybyddiaeth ofalgar (mindfulness) fod yn ffordd o fyw bywyd yn y presennol, gan feddwl llai am y gorffennol a phoeni llai am y dyfodol, a gall helpu i leddfu straen arholiadau.

Rhagor o wybodaeth am ein sesiynau galw heibio.

Cysylltu â’r Gwasanaeth Cwnsela, Iechyd a Lles

Os yw pethau’n mynd yn drech na chi ar hyn o bryd a hoffech gael rhagor o gefnogaeth, mae’r tîm Cwnsela, Iechyd a Lles yma ar eich cyfer, beth bynnag fo maint y broblem, ac rydym yn cynnig ystod o atebion hyblyg i’ch cefnogi gan gynnwys:

  • Adnoddau hunangymorth
  • Cefnogaeth gan Gymheiriaid
  • Gweithdai Lles
  • Cyrsiau a Grwpiau
  • Gwasanaeth Lles Galw Heibio: Dydd Llun i ddydd Gwener, 15:00-15:45, a dydd Mercher, 09:30-10:15
  • Apwyntiadau Cwnsela a Lles
  • Wyneb yn Wyneb, Ar-lein neu Dros y Ffôn
  • Gallwch drefnu apwyntiadau drwy ddefnyddio ein holiadur cyfeirio ar-lein.

Os ydych chi’n poeni bod gennych symptomau corfforol a allai fod yn effeithio ar eich iechyd, argymhellwn yn gryf y dylech drefnu apwyntiad gyda’ch meddyg teulu i drafod hyn. Os nad oes gennych feddyg teulu yn barod, cysylltwch â GIG Cymru ar 0845 46 47 neu ewch i’w gwefan i weld eich holl opsiynau o ran meddygon teulu.

Dolenni perthnasol:
Dosbarthiadau datblygu sgiliau
Awgrymiadau trefnu, adolygu a strategaethau mewn arholiadau i’ch helpu i lwyddo
Gwasanaeth lles galw heibio 
Adnoddau hunangymorth

Dymuniadau gorau,
Rachel, Ymarferydd Lles, Tîm Cwnsela, Iechyd a Lles

Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda

Oedd y blog yma’n ddefnyddiol?  Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.

Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.

Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth.

Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac ArianGyrfaoedd a ChyflogadwyeddCwnsela, Iechyd a Lles,Anabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.

Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr ym 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.

Cewch ragor o fanylion am wasanaethau, digwyddiadau, amseroedd agor a chysylltiadau, chwiliwch am ‘cefnogaeth a gwasanaethau’ ar Fewnrwyd y Brifysgol.