{"id":96,"date":"2022-05-24T08:37:03","date_gmt":"2022-05-24T08:37:03","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/?p=96"},"modified":"2022-05-24T08:45:33","modified_gmt":"2022-05-24T08:45:33","slug":"adeilad-sbarcspark-yn-agor-drysau-newydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/cy\/adeilad-sbarcspark-yn-agor-drysau-newydd\/","title":{"rendered":"Adeilad sbarc|spark yn agor drysau newydd"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae canolfan flaenllaw newydd lle mae syniadau\u2019n tanio broses o ddyfeisio wedi agor ei drysau.<\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/campus-developments\/projects\/spark\"><strong>sbarc|spark<\/strong><\/a><strong>\u00a0\u2013 mae cartref arloesedd Caerdydd \u2013 yn dwyn ynghyd ymchwilwyr, entrepreneuriaid, busnesau newydd i fyfyrwyr a chwmn\u00efau deillio academaidd mewn adeilad o\u2019r radd flaenaf sydd wrth galon Campws Arloesedd Caerdydd.<\/strong><\/p>\n<p><strong>Mae\u2019r ganolfan, sy\u2019n cynnwys unedau cydweithio, canolfan ddelweddu, awditoriwm a labordy saern\u00efo, yn cynnig rhywle lle gall Cymru feithrin a datblygu syniadau mawr y dyfodol wrth i\u2019r DU ffynnu o\u2019r newydd ar \u00f4l pandemig COVID-19, a cheir lleoedd penodol i fyfyrwyr sy\u2019n entrepreneuriaid yno. Yma, mae ymchwilwyr o grwpiau Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) yn rhannu eu meddyliau am symud i gartref newydd.<\/strong><\/p>\n<p><strong>Dyma a ddywedodd <\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/38130-power-sally\"><strong>yr Athro Sally Power<\/strong><\/a><strong>,\u00a0<\/strong><a href=\"https:\/\/wiserd.ac.uk\/\"><strong>WISERD<\/strong><\/a><\/p>\n<p>\u201cMae WISERD wedi cyffroi drwyddi draw am symud i sbarc|spark. A hithau\u2019n bartneriaeth rhwng pum prifysgol \u2013 Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe \u2013 mae WISERD eisoes yn dangos manteision gweithio\u2019n rhyngddisgyblaethol.<\/p>\n<p>\u201cBydd SBARC yn dangos ffordd arall rydyn ni\u2019n cydweithio \u00e2\u2019n gilydd. Bydd yn golygu y gallwn ni ddatblygu ffyrdd newydd o weithio gydag ymchwilwyr gwahanol sydd ag arbenigeddau gwahanol, a hynny mewn meysydd gwahanol. Bydd cyfleusterau o\u2019r radd flaenaf a fydd yn cefnogi casglu a dadansoddi data, yn ogystal \u00e2\u2019r gallu i gyrchu rhwydweithiau dylanwad a fydd yn manteisio i\u2019r eithaf ar gyrhaeddiad ac effaith ein hymchwil. Yn fyr, bydd SPARK yn golygu y bydd Cymru ar flaen y gad ym maes gwyddoniaeth gymdeithasol.\u201d<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/38077-segrott-jeremy\"><strong><em>Dr Jeremy Segrott<\/em><\/strong><\/a>,\u00a0<strong><em>Uwch-Ddarlithydd,\u00a0<\/em><\/strong><a href=\"https:\/\/decipher.uk.net\/\"><strong><em>DECIPHER.<\/em><\/strong><\/a><\/p>\n<p>\u201cAr wah\u00e2n i\u2019r adeilad rhagorol newydd a\u2019r caffi (!), yr hyn rwy\u2019n edrych ymlaen ato fwyaf yw\u2019r cyfle i wneud cysylltiadau a chydweithio gyda phobl yn y canolfannau gwahanol a fydd yn rhan o SBARC. Er enghraifft, mae\u2019r canolfannau gwahanol yn dod \u00e2 phrofiad cyfoethog ac amrywiol o ran cynnwys y cyhoedd. Rwy\u2019n edrych ymlaen yn fawr at y cyfle i ddysgu gan bobl eraill am sut maen nhw\u2019n gwneud y gwaith hwn yn ogystal \u00e2 datblygu ffyrdd o weithio sy\u2019n manteisio ar y gwaith hwn o rannu profiadau.<\/p>\n<p>\u201cEfallai bod y disgwyliadau sydd gen i ar gyfer SBARC yn debyg i fanteision mynd i gynadleddau academaidd \u2013 rydych chi\u2019n cwrdd \u00e2 phobl ac yn dysgu pethau na fyddech chi fel arall wedi\u2019u gwneud. Mae\u2019n eich helpu i ddatblygu arferion ymchwil ac yn cynnig safbwyntiau newydd ar eich gwaith.\u201d<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/1156602-capstick-stuart\"><strong><em>Dr Stuart Capstick<\/em><\/strong><\/a>,\u00a0<strong><em>Dirprwy Gyfarwyddwr,\u00a0<\/em><\/strong><a href=\"https:\/\/cast.ac.uk\/\"><strong><em>CAST.<\/em><\/strong><\/a><\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r rhan fwyaf o waith CAST yn drawsddisgyblaethol ac yn canolbwyntio ar ddatblygu ystod eang o ymatebion i argyfwng yr hinsawdd. Am y rheswm hwn, mae symud i SBARC yn golygu amrywiaeth eang o gyfleoedd.<\/p>\n<p>Rydyn ni eisoes wedi dechrau cydweithio \u00e2\u2019r Academi Gwyddor Data, i astudio ffyrdd newydd o ddadansoddi, deall a delweddu data o arolygon canfyddiadau\u2019r cyhoedd. Rydyn ni wedi bod yn trafod gyda DECIPHER am sut y gallwn ni elwa ar rannu\u2019r adnoddau a\u2019r safbwyntiau gan eu panel cynghori sy\u2019n cynnwys pobl ifanc, er mwyn i raglen ymchwil ac allgymorth CAST adlewyrchu eu diddordebau, ac rydyn ni hefyd yn edrych ar sut y gallai CAST a\u2019r Lab gydweithio a rhannu syniadau mewn perthynas \u00e2 gweithredu ar lefel dinasoedd ar bwnc datgarboneiddio.<\/p>\n<p>Bydd y cyfle i holl staff CAST yng Nghaerdydd gydweithio mewn lle cyffredin yn adeilad SBARC hefyd yn golygu y gall ein gr\u0175p ymchwil barhau i ddatblygu amcanion pendant a hunaniaeth gyffredin, ac i elwa ar y cyfleusterau a\u2019r hyn y bydd yr adeilad yn arloesi ynddo.\u201d<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/91745-preece-alun\"><strong><em>Yr Athro Alun Preece<\/em><\/strong><\/a><strong><em>\u00a0Cyd-Gyfarwyddwr,\u00a0<\/em><\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/crime-security-research-institute\"><strong><em>Sefydliad Ymchwil Troseddu a Diogelwch<\/em><\/strong><\/a><\/p>\n<p>\u201cAr \u00f4l bod yn rhan o fenter SBARC ers ei sefydlu bron iawn, mae\u2019n anodd credu y byddwn ni\u2019n symud i\u2019n cartref corfforol newydd o\u2019r diwedd! A minnau\u2019n wyddonydd cyfrifiadurol sydd wedi gweithio\u2019n agos gyda gwyddonwyr cymdeithasol ers mwy na 15 mlynedd, rwy\u2019n gweld bod y potensial i gydweithio ar draws y disgyblaethau yn y lleoedd newydd yn sbarc yn wirioneddol drawsnewidiol.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni\u2019n gwybod ers amser maith fod angen atebion rhyngddisgyblaethol ar gyfer problemau anoddaf y byd. Yn fy maes i, mae\u2019n amlwg bod gan dechnoleg lawer i\u2019w gynnig \u2013 gan gynnwys y datblygiadau diweddaraf ym maes gwyddoniaeth data a dysgu peirianyddol \u2013 ond mae angen cyfuno a harneisio technoleg sy\u2019n cynnwys safbwyntiau ac arbenigedd dynol. Mae rhannu gwybodaeth a chyd-greu yn allweddol i beri i hyn ddigwydd, ac mae llawer ohonon ni sy\u2019n symud i SBARC o\u2019r farn bod y cyfleusterau a\u2019r gweithle hwn yn golygu ein bod yn gallu cydweithio ar ddatblygu\u2019r rhain.<\/p>\n<p>\u201cBydd y genhedlaeth newydd o ymchwilwyr a ddaw i SBARC \u2013 gan gynnwys ein myfyrwyr talentog a\u2019n hymchwilwyr gyrfa gynnar \u2013 yn \u201ctyfu i fyny\u201d gyda gwerthfawrogiad dwfn o fanteision gweithio ar draws ffiniau disgyblu a\u2019u bod yn gwybod pwy sy\u2019n berchen ar y problemau. Rwy\u2019n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu\u2019r hyn sydd wedi gweithio\u2019n dda inni yn CSRI wrth inni symud i mewn i SBARC sy\u2019n adeilad llawer mwy wrth gwrs!<\/p>\n<p><strong>Os hoffech chi ymweld \u00e2 ni i gael gwybod rhagor, cysylltwch \u00e2 ni.<\/strong><\/p>\n<p><strong>Mae sbarc|spark ar Gampws Arloesedd Caerdydd, Heol Maendy, Caerdydd, CF24 4HQ.<\/strong><\/p>\n<p><strong>Ebost:\u00a0<\/strong><a href=\"mailto:SPARK@Cardiff.ac.uk\"><strong>SPARK@Caerdydd.ac.uk<\/strong><\/a><\/p>\n<p><strong>Ff\u00f4n: +44 (0)29 225 12360<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae canolfan flaenllaw newydd lle mae syniadau\u2019n tanio broses o ddyfeisio wedi agor ei drysau.sbarc|spark\u00a0\u2013 mae cartref arloesedd Caerdydd \u2013 yn dwyn ynghyd ymchwilwyr, entrepreneuriaid, busnesau newydd i fyfyrwyr a [&hellip;]","protected":false},"author":1,"featured_media":98,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[8],"tags":[],"class_list":["post-96","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"lang":"cy","translations":{"cy":96,"en":93},"meta_box":[],"pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/96","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=96"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/96\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":97,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/96\/revisions\/97"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/media\/98"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=96"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=96"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=96"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}