{"id":75,"date":"2021-12-14T09:38:45","date_gmt":"2021-12-14T09:38:45","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/?p=75"},"modified":"2022-04-26T12:37:03","modified_gmt":"2022-04-26T12:37:03","slug":"deall-lleoedd-cymru-llenwir-bwlch-tystiolaeth-ar-gyfer-lleoedd-yng-nghymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/cy\/deall-lleoedd-cymru-llenwir-bwlch-tystiolaeth-ar-gyfer-lleoedd-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Deall Lleoedd Cymru: Llenwi&#8217;r bwlch tystiolaeth ar gyfer lleoedd yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p>Mae prinder tystiolaeth gadarn a chyson yn genedlaethol ar lefel tref wedi bod yn broblem hirsefydlog yn y DU. Heb dystiolaeth, mae&#8217;n anodd i randdeiliaid tref, megis cynllunwyr, cynghorau tref, sefydliadau&#8217;r trydydd sector a grwpiau cymunedol, bennu anghenion lleol, gwerthuso effeithiolrwydd strategaethau rheoli trefi a dysgu o lwyddiant y gorffennol.<\/p>\n<p>Yn 2017, amlygodd <a href=\"https:\/\/www.carnegieuktrust.org.uk\/publications\/supporting-local-places-local-people-english-version\/\"><strong>ymchwil<\/strong><\/a> a gyhoeddwyd gan <a href=\"https:\/\/www.carnegieuktrust.org.uk\/\"><strong>Ymddiriedolaeth Carnegie y DU<\/strong><\/a> a <a href=\"https:\/\/wcva.cymru\/\"><strong>Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)<\/strong><\/a> y materion hyn ar gyfer trefi yng Nghymru. Yn rhan o&#8217;u hargymhellion, awgrymwyd y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno data a sylfaen dystiolaeth ar gyfer trefi Cymru mewn fformat hygyrch, hawdd ei ddefnyddio. Enillodd WISERD dendr cystadleuol i ddylunio a datblygu gwefan gwbl ddwyieithog i ddarparu data a metrigau dadansoddol i lenwi&#8217;r bwlch hwn.<\/p>\n<p><strong><u>Deall Lleoedd Cymru<\/u><\/strong> yw&#8217;r adnodd data a lansiwyd ym mis Hydref 2019. Mae&#8217;n cynnig data cadarn a chyson yn genedlaethol ar gyfer lleoedd yng Nghymru.<\/p>\n<p><strong>Pa wybodaeth sydd ar gael ar gyfer pob lle?<\/strong><\/p>\n<p>Mae&#8217;r wefan yn cynnwys 308 o leoedd yng Nghymru sydd \u00e2 phoblogaeth o breswylwyr o 1,000 neu fwy, gan roi disgrifiad o bob lle. Ar gyfer 193 o&#8217;r lleoedd hyn, gyda phoblogaethau o 2,000 neu fwy o drigolion, mae hefyd yn darparu data manwl, sy&#8217;n cwmpasu:<\/p>\n<ol>\n<li><em> Asedau cymunedol<\/em><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae&#8217;r rhain yn endidau sy&#8217;n fuddiol i&#8217;r gymuned leol, gan gynnwys nifer yr ysgolion, ysbytai, swyddi, siopau a mannau gwyrdd, ac amser teithio i amrywiaeth o gyfleusterau gan drafnidiaeth breifat a chyhoeddus.<\/p>\n<figure id=\"post-77 media-77\" class=\"image align-center\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-content\/uploads\/sites\/597\/2021\/12\/Picture2-1.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<ol start=\"2\">\n<li><em> Llif poblogaeth<\/em><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae&#8217;r rhain yn dangos symudiad pobl o un lle i&#8217;r llall, gan gynnwys llifoedd ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae data llif Deall Lleoedd Cymru yn dangos patrymau cymudo, patrymau mudo a &#8216;theithiau&#8217; dyddiol sy&#8217;n deillio o gofnodion ffonau symudol.<\/p>\n<ol start=\"3\">\n<li><em> Nodweddion cymunedol<\/em><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae&#8217;r rhain yn cynnwys nodweddion demograffig ac economaidd-gymdeithasol y gymuned leol, gan gynnwys metrigau sy&#8217;n dangos dosbarthiad oedran, ethnigrwydd, hunaniaeth genedlaethol, gweithgarwch economaidd a mesurau amddifadedd.<\/p>\n<p><strong>Beth am leoedd gyda llai na 2,000 o drigolion?<\/strong><\/p>\n<figure id=\"post-78 media-78\" class=\"image align-center\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-content\/uploads\/sites\/597\/2021\/12\/Picture3-1.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p>Os nad yw lle yn ddigon mawr i&#8217;w gynnwys ymhlith y 193 o leoedd, gallwch weld y data gan ddefnyddio&#8217;r adnodd <em>Mapiau Cymdogaeth<\/em>. Mae&#8217;r data hwn yn mapio data ar gyfer daearyddiaethau blociau adeiladu bach ar gyfer Cymru gyfan, gan roi mynediad at ddata ar gyfer ardaloedd ar wah\u00e2n i&#8217;r 193 o leoedd. Mae hyn hefyd yn caniat\u00e1u archwilio patrymau mewn llefydd mwy o faint, megis amrywiadau rhwng gwahanol rannau o Gaerdydd.<\/p>\n<p><strong>Dosbarthu a chymharu lleoedd<\/strong><\/p>\n<p>Mae gwefan Deall Lleoedd Cymru yn defnyddio dau ddosbarthiad pwrpasol o leoedd yng Nghymru.<\/p>\n<p><em>Dosbarthiad nodweddion cymunedol<\/em><\/p>\n<figure id=\"post-79 media-79\" class=\"image align-center\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-content\/uploads\/sites\/597\/2021\/12\/Picture4-1.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p>Mae&#8217;r dosbarthiad nodweddion cymunedol yn cynnwys 16 math gwahanol o le yn seiliedig ar faint yr anheddiad a&#8217;r nodweddion demograffig ac economaidd-gymdeithasol mwyaf cyffredin. Gellir cymharu data rhwng lleoedd tebyg trwy ddefnyddio\u2019r adnodd <em>Cymharu<\/em>\u2019r wefan, sy\u2019n cynnig cyfleoedd i gydweithredu, a rhannu strategaethau llwyddiannus, rhwng rhanddeiliaid lleoedd sy&#8217;n debyg eu natur.<\/p>\n<p><em>Asesiad rhyng-berthnasoedd<\/em><\/p>\n<p>Mae&#8217;r asesiad rhyng-berthnasoedd yn dangos pa mor ddibynnol yw un lle ar un arall ar gyfer darparu asedau cymunedol. Er enghraifft, a oes gan le ddigon o welyau ysbyty, meddygon teulu neu leoedd yn yr ysgol ar gyfer ei phoblogaeth breswyl, neu a oes angen iddo ddibynnu ar leoedd eraill i gynnig yr asedau hyn?<\/p>\n<p>Yn rhan o&#8217;r asesiad rhyng-berthnasoedd, mae lleoedd wedi&#8217;u categoreiddio&#8217;n un o saith categori. Mae&#8217;r rhain yn amrywio o ddibynnu ar leoedd eraill, i gyd-ddibynnol, i annibynnol. Yn ogystal \u00e2&#8217;r dosbarthiad eang, mae Deall Lleoedd Cymru hefyd yn cynnig mynediad at y sgorau unigol ar gyfer pob math o ased, gan ganiat\u00e1u i randdeiliaid weld lle gall eu lle fod yn hunangynhaliol, a lle y gallai fod yn ddibynnol ar leoedd eraill.<\/p>\n<p><strong>Sut mae Deall Lleoedd Cymru wedi cael ei ddefnyddio?<\/strong><\/p>\n<p>Ers ei lansio, mae Deall Lleoedd Cymru wedi derbyn dros 10,000 o ymweliadau. Mae rhanddeiliaid yn ei ddefnyddio i gael sylfaen dystiolaeth er mwyn helpu i wneud penderfyniadau.<\/p>\n<p>Er enghraifft, mae Cyngor Tref yng Nghymru wedi defnyddio&#8217;r data, ochr yn ochr \u00e2&#8217;u gwybodaeth leol eu hunain i ddeall anghenion y gymuned leol i\u2019w helpu i ddyrannu cyllid i&#8217;r prosiectau a fyddai\u2019n elwa fwyaf.<\/p>\n<p>Wrth s\u00f4n am eu defnydd o Deall Lleoedd Cymru, dywedodd y Swyddog Datblygu Cymunedol:<\/p>\n<p><strong>Os ydym yn trafod gwario arian cyhoeddus, mae angen i ni fod yn gwneud pethau&#8217;n iawn. Nid gwrando ar rywun sy\u2019n dweud, &#8216;Rwy&#8217;n meddwl&#8217;. Gallwn ddweud, \u2018Wel, mewn gwirionedd mae\u2019r data yn dangos i ni ein bod yn realistig.<\/strong><\/p>\n<p>Gallai Deall Lleoedd Cymru hefyd chwarae rhan bwysig ym Mharc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) newydd Prifysgol Caerdydd. Nod SPARK yw annog mwy o gydweithio rhwng ymchwil y gwyddorau cymdeithasol (gan gynnwys gwaith WISERD) a&#8217;n partneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a&#8217;r trydydd sector i fynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;n heriau cymdeithasol mwyaf cymhleth. Rydym yn cydnabod mai rhan bwysig o hyn yw sut rydym yn cefnogi&#8217;r ecosystem dystiolaeth yng Nghymru, ac mae Deall Lleoedd Cymru yn cynnig platfform digidol mawr ei angen i gefnogi&#8217;r gwaith hwn.<\/p>\n<p>Mae ein\u00a0<a href=\"https:\/\/youtu.be\/vCuKEiaKRFs\"><strong>gweminar<\/strong><\/a>\u00a0diweddar yn cynnig mwy o fanylion am sut i ddefnyddio&#8217;r wefan.<\/p>\n<p><em>Ariennir Deall Lleoedd Cymru gan\u00a0\u00a0 <strong><u>Ymddiriedolaeth Carnegie y DU <\/u><\/strong>\u00a0a<strong>\u00a0 <u>Llywodraeth Cymru<\/u>\u00a0 <\/strong>a&#8217;i reoli gan <strong><u>Sefydliad Materion Cymru (IWA)<\/u><\/strong>.\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 <strong><u>Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD<\/u>)<\/strong> sydd wedi dadansoddi\u2019r data a datblygu&#8217;r we. <strong>Mae&#8217;r model cyd-ddibyniaeth wedi&#8217;i ddatblygu gan y\u00a0 <u>Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol (CLES).<\/u> <\/strong><\/em><\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Understanding Welsh Places Webinar 2021\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/vCuKEiaKRFs?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae prinder tystiolaeth gadarn a chyson yn genedlaethol ar lefel tref wedi bod yn broblem hirsefydlog yn y DU. Heb dystiolaeth, mae'n anodd i randdeiliaid tref, megis cynllunwyr, cynghorau tref, [&hellip;]","protected":false},"author":1565,"featured_media":67,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[8,21],"tags":[],"class_list":["post-75","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy","category-wiserd"],"lang":"cy","translations":{"cy":75,"en":65},"meta_box":[],"pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/75","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1565"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=75"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/75\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":81,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/75\/revisions\/81"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/media\/67"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=75"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=75"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=75"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}