{"id":52,"date":"2021-12-07T14:13:19","date_gmt":"2021-12-07T14:13:19","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/?p=52"},"modified":"2022-04-26T12:37:03","modified_gmt":"2022-04-26T12:37:03","slug":"cwrdd-a-tim-sbarcspark","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/cy\/cwrdd-a-tim-sbarcspark\/","title":{"rendered":"Cwrdd \u00e2 T\u00eem sbarc|spark!"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae canolfan arloesedd unigryw sy&#8217;n rhoi syniadau ar waith ar ei ffordd. Mae <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/campus-developments\/projects\/spark\">sbarc | spark<\/a> wedi cael ei ddisgrifio fel &#8216;uwchlabordy newydd cymdeithas.&#8217; Mae&#8217;n dod ag arbenigwyr ac entrepreneuriaid Prifysgol Caerdydd at ei gilydd i greu cwmn\u00efau deillio, busnesau newydd, prosesau a chynhyrchion newydd.<\/strong><\/p>\n<p>Mae&#8217;r adeilad chwe llawr, ar <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/innovation\/innovation-campus\">Gampws Arloesedd Caerdydd<\/a>, bron \u00e2&#8217;i gwblhau. Y tu mewn, mwy na 350 o ymchwilwyr gwyddorau cymdeithasol, myfyrwyr mentrus a staff y Brifysgol yn gweithio gyda hyd at 400 o gydweithwyr o fyd busnes a chymdeithas i greu, profi a meithrin mentrau newydd.<\/p>\n<p>Wedi&#8217;i gynllunio gan benseiri arobryn Hawkins\\Brown, mae&#8217;r adeilad yn dwyn ynghyd <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/social-science-research-park\">SPARK \u2013 y Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol<\/a> \u2013 ac <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/innovation\/innovation-campus\/cardiffinnovations-at-sbarc\">Innovations@sbarc Caerdydd<\/a>, lle bydd syniadau newydd yn cael eu rhoi ar brawf.<\/p>\n<p>Yma, mae rhai o staff allweddol yr adeilad yn amlinellu eu rolau a&#8217;u cyfrifoldebau wrth i&#8217;r adeilad symud yn nes at agor:<\/p>\n<p><strong>Yr Athro Chris Taylor<\/strong><\/p>\n<p>Fi yw Cyfarwyddwr Academaidd, Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) Fy nghyfrifoldeb i yw datblygu a chyflawni gweledigaeth gyffredinol ar gyfer SPARK drwy weithio&#8217;n agos gyda&#8217;r canolfannau ymchwil a&#8217;r sefydliadau sy&#8217;n rhan o SPARK, gyda chydweithwyr o bob rhan o&#8217;r holl Ysgolion a Cholegau yn y Brifysgol, a chyda&#8217;n partneriaid anacademaidd allanol niferus. Ochr yn ochr \u00e2&#8217;r Cyfarwyddwr Gweithrediadau, rwy&#8217;n arwain t\u00eem SPARK i annog mwy o gydweithio, rhyng-ddweud, creadigrwydd ac entrepreneuriaeth yn ein huchelgeisiau ymchwil, i ychwanegu gwerth at waith anhygoel gwyddonwyr cymdeithasol Prifysgol Caerdydd ac i greu newid sylweddol yn ein gallu i fynd i&#8217;r afael \u00e2 heriau cymdeithasol cymhleth.<\/p>\n<p><strong>Cyswllt: <\/strong><a href=\"mailto:TAylorCM@cardiff.c.uk\"><strong>TAylorCM@caerdydd.c.uk<\/strong><\/a><\/p>\n<p><strong>Sally O&#8217;Connor<\/strong><\/p>\n<p>Fi yw Cyfarwyddwr Gweithrediadau Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK). Fy nghyfrifoldeb i yw darparu arweinyddiaeth, goruchwyliaeth weithredol ac annog gweithgarwch ymchwil ac arloesi newydd ar draws SPARK gan weithio&#8217;n agos gydag uwch staff gwasanaethau proffesiynol yn SPARK ac academyddion yn yr endidau cyfansoddol, gan nodi meysydd gweithgarwch a fydd yn cefnogi&#8217;r gwaith o ddarparu&#8217;r dangosyddion perfformiad allweddol. Yn ganolog i&#8217;m r\u00f4l mae sicrhau bod y synergeddau wrth wraidd SPARK; cyd-greu a chydweithio &#8211; pobl yn gweithio gyda\u2019i gilydd ar draws disgyblaethau academaidd ac ymarferwyr ar draws y sectorau preifat, cyhoeddus a\u2019r trydydd sector i fynd i\u2019r afael \u00e2 rhai o broblemau mwyaf taer cymdeithas yn cael eu gwireddu.<\/p>\n<p><strong>Cyswllt: <\/strong><a href=\"mailto:oconnors@cardiff.ac.uk\"><strong>Oconnors@caerdydd.ac.uk<\/strong><\/a><\/p>\n<p><strong>Rhys Pearce-Palmer<\/strong><\/p>\n<p>Fel Rheolwr Gweithrediadau Arloesi rwy&#8217;n gofalu am Innovations@Sbarc Caerdydd a Medicentre ar gampws y Mynydd Bychan. Gall busnesau sydd am gydleoli \u00e2&#8217;r brifysgol gael mynediad i swyddfeydd y gellir eu gosod, labordai gwlyb, a mannau cydweithio yn y ddau safle. Yn ogystal \u00e2 gweithio&#8217;n agosach gyda&#8217;r brifysgol, bydd fy nh\u00eem a minnau&#8217;n curadu cyfleoedd datblygu busnesau i denantiaid megis rhwydweithio, cydweithio a mentora cyfoedion. Byddaf hefyd yn sicrhau bod tenantiaid yn cael mynediad i weithgareddau partner megis SETsquared ac UKSPA.<\/p>\n<p><strong>Cyswllt: <\/strong><a href=\"mailto:PearceR5@cardiff.ac.uk\"><strong>PearceR5@caerdydd.ac.uk<\/strong><\/a><\/p>\n<p><strong>Emily Travis<\/strong><\/p>\n<p>Fel Rheolwr Cymunedol SPARK, rwy&#8217;n gyfrifol am reoli perthynas SPARK \u00e2 phartneriaid allanol a&#8217;n model aelodaeth, gan weithio ar draws agend\u00e2u ymchwil, arloesi a sgiliau i gefnogi partneriaid preswyl ac aelodau gyda&#8217;u perthynas ar draws SPARK a&#8217;r Brifysgol ehangach. Gan weithio&#8217;n agos gyda&#8217;r Cyfarwyddwr Academaidd a&#8217;r Cyfarwyddwr Gweithrediadau, rwyf hefyd yn gyfrifol am arwain ar ddigwyddiadau a gweithgareddau cymunedol sbarc | spark, am arwain ein gr\u0175p ymgysylltu mewnol SPARK ac am oruchwylio cyfathrebu perthnasol.<\/p>\n<p><strong>Cyswllt: <\/strong><a href=\"mailto:TravisE@cardiff.ac.uk\"><strong>TravisE@caerdydd.ac.uk<\/strong><\/a><\/p>\n<p><strong>Patricia Bone (Trish)<\/strong><\/p>\n<p>Fel Rheolwr Cymorth yr Adeilad, byddaf yn cydlynu ac yn rheoli diogelwch cyffredinol yr adeilad, gwaith cynnal a chadw a lles yr holl ddeiliaid yn yr adeilad drwy sicrhau bod yr adeilad yn cydymffurfio ac yn bodloni&#8217;r holl reoliadau gofynnol. Bydd gweithgareddau o ddydd i ddydd hefyd yn cynnwys gwaredu gwastraff, glanhau a materion yr yst\u00e2d, gan helpu pobl i sefydlu ar gyfer digwyddiadau ac archebu ystafelloedd p\u0175l a mannau cyhoeddus. Mae gennyf d\u00eem o ddau a fydd yn fy helpu, Elisha Richards, arweinydd T\u00eem Cymorth yr Adeilad a Rhodri Williams, sef y Cynorthwy-ydd Cymorth\u00a0 yr Adeilad.<\/p>\n<p><strong>Cyswllt: <\/strong><a href=\"mailto:Bonep@cardiff.ac.uk\"><strong>Bonep@caerdydd.ac.uk<\/strong><\/a><\/p>\n<p><strong>Karen Stapleton<\/strong><\/p>\n<p>Fi yw Swyddog Gweinyddol Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK). Fy nghyfrifoldeb yw ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi&#8217;r t\u00eem. Mae hyn yn cynnwys cynllunio a threfnu cyfarfodydd, digwyddiadau ac ymweliadau, archebu ystafelloedd a threfnu arlwyo. Rwy&#8217;n ysgrifennydd lle byddaf yn trefnu, paratoi papurau ac agend\u00e2u ar gyfer cyfarfodydd, eu mynychu a chymryd cofnodion ynddynt gan gynnwys Bwrdd Rheoli SPARK. Rwy&#8217;n goruchwylio&#8217;r broses o reoli dyddiadur y Cyfarwyddwr Academaidd, Chris Taylor. Rwyf hefyd yn cynorthwyo&#8217;r Rheolwr Cymunedol gyda digwyddiadau a gweithgareddau a byddaf yn arwain y Fforwm Amgylcheddol a Chynaliadwyedd.<\/p>\n<p><strong>Cyswllt: <\/strong><a href=\"mailto:StapletonK1@cardiff.ac.uk\"><strong>StapletonK1@caerdydd.ac.uk<\/strong><\/a><\/p>\n<p>Mae ein drysau ar fin agor. Felly galwch heibio! I gael rhagor o wybodaeth am weithio gyda Phrifysgol Caerdydd yn sbarc | spark, cysylltwch \u00e2 Sally O&#8217;Connor \u2013 <a href=\"mailto:OconnorS@cardiff.ac.uk\"><strong>OconnorS@caerdydd.ac.uk<\/strong><\/a><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae canolfan arloesedd unigryw sy'n rhoi syniadau ar waith ar ei ffordd. Mae sbarc | spark wedi cael ei ddisgrifio fel 'uwchlabordy newydd cymdeithas.' Mae'n dod ag arbenigwyr ac entrepreneuriaid [&hellip;]","protected":false},"author":1565,"featured_media":53,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[8],"tags":[],"class_list":["post-52","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"lang":"cy","translations":{"cy":52,"en":42},"meta_box":[],"pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/52","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1565"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=52"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/52\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":54,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/52\/revisions\/54"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/media\/53"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=52"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=52"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=52"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}