{"id":5,"date":"2021-12-01T14:14:20","date_gmt":"2021-12-01T14:14:20","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/?p=5"},"modified":"2022-04-26T12:37:03","modified_gmt":"2022-04-26T12:37:03","slug":"helo-byd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/cy\/helo-byd\/","title":{"rendered":"Cyrraedd Spark: Pennod nesaf Y Lab\u00a0"},"content":{"rendered":"<p><strong>Y Lab yw labordy arloesedd gwasanaethau cyhoeddus Prifysgol Caerdydd ar gyfer Cymru. Ei ddiben yw cefnogi gwasanaethau cyhoeddus Cymru i fynd i&#8217;r afael \u00e2 heriau cymdeithasol. Mae\u2019n gwneud hyn drwy gyfuno dulliau ymchwil gwyddorau cymdeithasol \u00e2 dulliau a meddylfryd arloesol. Ar hyn o bryd mae gwaith Y Lab yn ymwneud \u00e2 dau faes yn benodol &#8211; eu rhaglenni arloesedd gyda gweision cyhoeddus yng Nghymru, a&#8217;u hymchwil ar hanfodion arloesedd mewn gwasanaethau cyhoeddus (gweler isod am y manylion). Yma mae&#8217;r Athro James Lewis, Cyfarwyddwr Academaidd Y Lab yn esbonio mwy.<\/strong><\/p>\n<p>Yn ystod ei chwe blynedd gyntaf, roedd Y Lab yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a Nesta, y sefydliad arloesedd. Nid yw Nesta yn rhan o\u2019r Lab erbyn hyn gan ei bod yn canolbwyntio ar sefydlu Nesta Cymru a sicrhau newid cyffrous yng Nghymru sy&#8217;n cyd-fynd yn uniongyrchol \u00e2 phrosiectau newydd Nesta. Bydd Y Lab yn parhau i fod yn labordy arloesedd gwasanaethau cyhoeddus Cymru, sydd bellach yn cael ei arwain gan Brifysgol Caerdydd yn unig.<\/p>\n<p>Rydym erbyn hyn wedi cyrraedd y pwynt lle y gallwn symud ymlaen o sefydlu Y Lab yn system arloesedd Cymru, i sbarduno newid systemig ledled Cymru ar sail rhagoriaeth ymchwil. Bydd symud i SPARK cyn bo hir yn elfen ganolog o hyn gan ei fod yn cynnig y cyfle i gryfhau ein partneriaethau \u00e2 chanolfannau ymchwil eraill Prifysgol Caerdydd ac wynebau cyfarwydd eraill. Fodd bynnag, bydd hefyd yn rhoi mynediad digynsail at sefydliadau ar draws pob sector, yn ogystal \u00e2&#8217;r posibilrwydd o sefydlu rhwydweithiau newydd gydag ymarferwyr arloesedd, gweision cyhoeddus a defnyddwyr gwasanaethau. Nid all neb ddatrys heriau cymdeithasol o bwys ar eu pennau eu hunain, ac rydym yn croesawu&#8217;r cyfle i ystyried ffyrdd newydd a chreadigol o fynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r meini tramgwydd!<\/p>\n<p>Rydym yn awyddus iawn i gryfhau ein partneriaethau gyda\u2019r sefydliadau sy&#8217;n mynd i SPARK. Felly, os oes gennych ddiddordeb yn yr hyn a wnawn, neu os ydych am weithio gyda ni ar arwain newid systemig yng Nghymru, cysylltwch \u00e2 ni drwy ebostio <a href=\"mailto:ylab@cardiff.ac.uk\">ylab@caerdydd.ac.uk<\/a>, a gallwn fachu coffi naill ai dros gyfarfod Zoom, neu gwrdd yng nghaffi newydd cyffrous &#8216;llaeth a siwgr&#8217; SPARK cyn bo hir.<\/p>\n<p><strong>Rhaglenni arloesedd Y Lab\u00a0<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li>Gweithiodd rhaglen<a href=\"https:\/\/ylab.wales\/index.php\/programmes\/innovate-save\"><strong>Arloesi er mwyn Arbed,<\/strong><\/a> a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a\u2019i chyflwyno gan Y Lab, gyda 15 t\u00eem o weision cyhoeddus Cymru i brofi syniadau a allai wella gwasanaethau ac arbed arian.<\/li>\n<li>Rhaglen <a href=\"https:\/\/ylab.wales\/programmes\/health-arts-research-people\"><strong>HARP<\/strong><\/a> (Iechyd, Celfyddydau, Ymchwil, Pobl), a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac sy\u2019n cael ei chyflwyno gan Y Lab, Nesta Cymru, a th\u00eem Canlyniadau P\u0175er Pobl Nesta, yn gweithio gydag 17 o dimau ar draws byrddau iechyd, awdurdodau lleol ac artistiaid i gael gwell dealltwriaeth o sut allai ymyriadau celfyddydol gael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles pobl yng Nghymru.<\/li>\n<li>Rhaglen <a href=\"https:\/\/ylab.wales\/index.php\/programmes\/infuse-innovative-future-services\"><strong>Infuse<\/strong><\/a> a ariennir gan WEFO ac sy\u2019n cael ei chyflwyno gan Y Lab, Nesta Cymru, a Chyngor Sir Fynwy, yn gweithio gyda 120 o weision cyhoeddus o&#8217;r deg awdurdod lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd i wella sgiliau ym meysydd Addasu, Data a Chaffael i gyflymu datgarboneiddio a chreu cymunedau cefnogol.<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/ylab.wales\/index.php\/programmes\/cardiff-capital-region-challenge-fund\"><strong>Cronfa Her<\/strong><\/a> a ariennir gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac sy\u2019n cael ei chyflwyno gan y Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesedd, Y Lab a swyddfa&#8217;r Fargen Ddinesig, i helpu gwasanaethau cyhoeddus yn y rhanbarth i fynd i&#8217;r afael \u00e2 heriau cymdeithasol wrth dyfu&#8217;r economi leol.<\/li>\n<li><strong>Cadw Cymru&#8217;n Ddiogel: <\/strong>Rhaglen <strong>Ymddygiadau COVID<\/strong>, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac sy\u2019n cael ei chyflwyno gan y T\u00eem Cipolygon Ymddygiadol, Y Lab, a th\u00eem Canlyniadau P\u0175er Pobl Nesta. Mae\u2019n defnyddio cipolygon ymddygiadol i helpu pobl i leihau risgiau COVID drwy gynyddu profion mewn poblogaethau allweddol.<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Prosiectau ymchwil Y Lab<\/strong><\/p>\n<p>Mae gan bob un o&#8217;n rhaglenni uchod elfen <strong>werthuso<\/strong> sy&#8217;n canolbwyntio ar ymchwil ar gyfer dysgu. Dyma rai enghreifftiau o brosiectau ymchwil eraill yr ydym yn eu cynnal:<\/p>\n<ul>\n<li>Mae <a href=\"https:\/\/ylab.wales\/research\/dementia-and-diversity\/next-kin-performance-and-discussion-about-dementia-ddeaf\"><strong>Dementia ac Amrywiaeth<\/strong><\/a>, a ariennir gan CCAUC, yn mynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r bwlch sylweddol wrth ddeall anghenion cymunedau amrywiol o bobl sy&#8217;n byw gyda dementia a&#8217;u gofalwyr yng Nghymru, ac ymgysylltu \u00e2 nhw. Enillodd Wobr Cynnwys y Cyhoedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2021.<\/li>\n<li>Mae <a href=\"https:\/\/ylab.wales\/barts-shield-co-producing-social-innovation-during-covid-19-pandemic\"><strong>Barts Shielders<\/strong><\/a>, a ariennir gan wobr IAA ESRC, wedi cynhyrchu strwythur cymorth ar y cyd i amddiffyn aelodau staff yn ymddiriedolaeth GIG Barts, gan ddefnyddio dull arloesi cymdeithasol. Arweiniodd hyn at amrywiaeth o fanteision gyda llawer yn cyfeirio at y cymorth fel rhywbeth &#8216;amhrisiadwy&#8217;. Roedd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Ymgysylltu \u00e2 Staff Cyfnodolyn Gwasanaethau Iechyd 2020.<\/li>\n<li>Mae <a href=\"https:\/\/ylab.wales\/put-your-money-where-your-mouth-improving-diversity-funding\"><strong>Cyllid arloesedd a rhywedd<\/strong><\/a>, a ariennir gan Nesta, wedi archwilio data y mae Nesta yn ei ddefnyddio i greu grantiau i ddisgrifio&#8217;r cydbwysedd rhwng y rhywiau ar draws ystod o raglenni ariannu. Mae hyn yn cynnwys edrych ar bob rhan o\u2019r broses, o fynegi diddordeb i wneud ceisiadau am ddyfarniadau ariannol, gan arwain at adroddiad manwl gydag ystod o argymhellion.<\/li>\n<li>Edrychodd <a href=\"https:\/\/ylab.wales\/how-can-governments-increase-public-participation-decision-making\"><strong>Cyllidebu cyfranogol<\/strong><\/a>, a ariennir gan wobr IAA ESRC, ar sut y gallai cymdeithas dai gynnal ymarfer cyllidebu cyfranogol gyda&#8217;i thenantiaid, a chael dealltwriaeth well o effeithiau&#8217;r broses ar denantiaid.<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/ylab.wales\/index.php\/strengthening-rule-law-lesotho\"><strong>Grymuso Cyfreithiol Cymunedol<\/strong><\/a> yn Lesotho, a ariennir gan IAA ESRC a GCRF, yn gweithio mewn partneriaeth \u00e2 Chanolfan Gyfreithiol Seinoli yn Lesotho i ddeall a chofnodi effaith eu dull arloesol o rymuso cyfreithiol cymunedol.<\/li>\n<li>Gweithiodd <strong>Rhwystrau lledaeniad arloesedd<\/strong>, a ariennir gan wobr Effaith SPARKing, gyda swyddog o Lywodraeth Cymru ar secondiad i Y Lab i gael gwell dealltwriaeth o\u2019r hyn sy\u2019n &#8216;atal arferion da rhag lledaenu\u2019 yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru, gan arwain at ddau weithdy wedi&#8217;u hwyluso.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Yr Athro James Lewis<\/p>\n<p>Chyfarwyddwr, Y Lab<\/p>\n<p><img decoding=\"async\" class=\"\" style=\"width: 345px;height: 251px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-content\/uploads\/sites\/597\/2021\/12\/YLab_circle-scaled.jpg\" alt=\"\" \/><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Y Lab yw labordy arloesedd gwasanaethau cyhoeddus Prifysgol Caerdydd ar gyfer Cymru. Ei ddiben yw cefnogi gwasanaethau cyhoeddus Cymru i fynd i'r afael \u00e2 heriau cymdeithasol. Mae\u2019n gwneud hyn drwy [&hellip;]","protected":false},"author":1565,"featured_media":23,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[8],"tags":[],"class_list":["post-5","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"lang":"cy","translations":{"cy":5,"en":1},"meta_box":[],"pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1565"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":83,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5\/revisions\/83"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/media\/23"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}