{"id":32,"date":"2021-07-19T09:00:28","date_gmt":"2021-07-19T09:00:28","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/?p=32"},"modified":"2022-04-26T12:37:03","modified_gmt":"2022-04-26T12:37:03","slug":"pam-mynd-yn-ol-ir-swyddfa","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/cy\/pam-mynd-yn-ol-ir-swyddfa\/","title":{"rendered":"Pam mynd yn \u00f4l i\u2019r swyddfa?"},"content":{"rendered":"<p>Heb os, mae pandemig y coronafeirws wedi ysgogi un o\u2019r trawsnewidiadau cyflymaf ym mywydau gwaith llawer o bobl ers degawdau. Mae\u00a0<a href=\"https:\/\/wiserd.ac.uk\/sites\/default\/files\/documents\/Homeworking%20in%20the%20UK_Report_Final_3.pdf\">data\u2019r DU<\/a>\u00a0yn awgrymu, tra bod 5% o weithwyr yn gweithio gartref cyn mis Mawrth 2020, y gwnaeth hyn gynyddu i tua 43% ar ddechrau\u2019r cyfnod clo cyntaf. Mae\u2019r un astudiaeth yn awgrymu yr hoffai tua hanner y gweithwyr a weithiodd gartref yn ystod y cyfnod clo barhau i wneud hynny\u2019n aml neu drwy\u2019r amser. Wrth ystyried dychwelyd \u2013 o bosibl \u2013 i\u2019r swyddfa, bydd llawer o weithwyr a chyflogwyr yn gofyn i\u2019w hunain, \u2018beth mae\u2019r swyddfa\u2019n ei gynnig na all gweithio gartref ei gynnig?\u2019. O ystyried bod\u00a0<a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Remote-working-.pdf\">ymchwil<\/a>\u00a0ddiweddar Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru\u2019n dangos nad yw\u2019n ymddangos bod gweithio o bell wedi gwneud drwg i gynhyrchiant yn y tymor byr, mae angen ateb arbennig i\u2019r cwestiwn hwn i gyfiawnhau\u2019r buddsoddiad mewn arian ac amser sydd ei angen i weithio mewn swyddfa, yn aml ar ran cyflogwyr a gweithwyr.<\/p>\n<p>Er iddo gael ei ddylunio a\u2019i adeiladu i raddau helaeth cyn dechrau\u2019r pandemig, mae sbarc | spark, sef parc cyntaf y byd ar gyfer ymchwil y gwyddorau cymdeithasol, a fydd yn \u2018gartref\u2019 corfforol i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ddiwedd 2021, yn ein herio i ystyried ein hatebion ein hunain i\u2019r cwestiwn hwn. Mae\u2019r uchelgeisiau ar gyfer sbarc | spark yn cyd-fynd i raddau helaeth \u00e2 <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/about\/\">chenhadaeth Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru<\/a>, sef gwella gwasanaethau cyhoeddus a\u2019r broses o lunio polis\u00efau drwy helpu gweinidogion ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i ddefnyddio tystiolaeth annibynnol drylwyr o\u2019r hyn sy\u2019n gweithio. Maent hefyd yn adlewyrchu\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/business-school\/about-us\/public-value\/public-value-research\">cenhadaeth Ysgol Busnes Caerdydd i sicrhau bod gwerth cyhoeddus wrth wraidd ymchwil<\/a>\u00a0a gwaith yr\u00a0<a href=\"https:\/\/covidandsociety.com\/about-ippo\/\">Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol<\/a>, yr ydym yn eu cefnogi ac yn cyfrannu atynt. Wrth wraidd yr holl ymdrechion hyn, a\u2019r budd sylfaenol y bydd sbarc | spark yn ei sicrhau ar ben gweithio o bell, yw\u2019r ymgais i hyrwyddo cydweithredu hyd yn oed yn fwy, a hynny ymhlith canolfannau ymchwil yn y Brifysgol a rhwng y canolfannau ymchwil hyn a defnyddwyr tystiolaeth ym myd busnes, y llywodraeth, cyrff anllywodraethol a sectorau eraill i alluogi ymchwil sy\u2019n canolbwyntio ar atebion er mwyn mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r heriau allweddol sy\u2019n wynebu Cymru a\u2019r byd ehangach.<\/p>\n<p>Yn sbarc | spark, bydd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru\u2019n cael ei chydleoli am y tro cyntaf \u00e2 llawer o\u2019n partneriaid ymchwil ac academaidd allweddol, gan gynnwys CASCADE, DECIPHer, WISERD, Y Lab, y Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesedd ac Uned Ymchwil Economaidd Cymru. Rydym yn gweithio\u2019n rheolaidd gyda chydweithwyr yn y canolfannau ymchwil hyn ac eraill i gynghori Llywodraeth Cymru ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus.<\/p>\n<p>Rydym yn rhagweld y bydd bod yn yr un adeilad yn hwyluso gweithio hyd yn oed yn well \u00e2 phartneriaid ac yn ei gwneud yn haws rhannu syniadau a datblygu mentrau ar y cyd. Bydd hefyd yn haws cwrdd ag eraill yn un o\u2019r mannau cyfarfod niferus sydd ar gael yn yr adeilad. Er bod gweithio o bell (gan gymryd bod y cysylltiad \u00e2\u2019r rhyngrwyd yn dda) wedi ein galluogi i barhau i weithio\u2019n effeithiol drwy\u2019r pandemig, mae risg i gyfarfodydd rhithwir ddod yn drafodaethol a chanolbwyntio ar dasgau.\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/__data\/assets\/pdf_file\/0008\/519299\/Social_Science_Parks.pdf\">Rydym yn gwybod<\/a>\u00a0bod agosrwydd corfforol yn cynyddu\u2019r tebygolrwydd o gael sgyrsiau ar hap, sy\u2019n arwain at syniadau newydd a chysylltiadau creadigol. Bydd hefyd yn rhoi syniad gwell i\u2019m cydweithwyr yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a minnau o\u2019r ystod eang o ddiddordebau ymchwil sydd i\u2019w cael ar draws yr holl ddisgyblaethau yn sbarc | spark a thu hwnt er mwyn i ni allu troi ymchwil yn bolis\u00efau a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn y meysydd polisi rydym yn gweithio ynddynt. Bydd mwy o gyswllt wyneb yn wyneb \u2013 ag unigolion a sefydliadau sy\u2019n rhannu\u2019r ymrwymiad i ddatblygu polis\u00efau ac ymarfer ar sail tystiolaeth \u2013 yn bwysig ar gyfer gwella cynhyrchiant, galluogi arloesi, galluogi cynigion ymchwil traws-ganolfan a\u2019i gwneud yn haws i ni drafod gyda rhanddeiliaid allanol eu blaenoriaethau a\u2019u hanghenion tystiolaeth.<\/p>\n<p>Bydd sbarc | spark yn gartref i tua 400 o gydweithwyr o bob rhan o\u2019r sector cyhoeddus, y sector preifat a\u2019r trydydd sector, ac mae disgwyl i filoedd o bobl allanol ymweld \u00e2\u2019r safle bob blwyddyn. Bydd hyn yn helpu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i barhau i feithrin a chynnal cysylltiadau gwaith cryf y tu hwnt i\u2019r byd academaidd. Mae ein hymchwil yn seiliedig ar alw, sy\u2019n golygu ein bod yn ceisio ymateb i anghenion tystiolaeth ymarferwyr a llunwyr polis\u00efau ond hefyd helpu i lywio\u2019r anghenion hynny. Mae dyluniad corfforol a chymdeithasol sbarc | spark yn ein hannog a\u2019n galluogi i gysylltu ymchwil ag ymarfer a pholis\u00efau yn y modd hwn, a bydd, gobeithio, yn ein helpu i adeiladu ar yr ymddiriedaeth a\u2019r gyd-ddealltwriaeth sydd eu hangen i wneud yn si\u0175r bod ein hymchwil yn ddefnyddiol ac yn berthnasol i ymarferwyr a llunwyr polis\u00efau. Bydd man digwyddiadau \u00e2 chapasiti i 190 o bobl, er enghraifft, yn ei gwneud yn bosibl i ni drafod ac ystyried materion polisi ac ymarfer allweddol yng Nghymru.<\/p>\n<p>Mae sbarc | spark yn cynnig llawer mwy na\u2019n swyddfa flaenorol ac yn ein hannog i gyfuno gweithio o bell \u00e2\u2019r amser sy\u2019n cael ei dreulio ar y campws. Mae hyn yn bwysig i ganolfan ymchwil fel ein un ni, y mae ei chenhadaeth a\u2019i hymarfer yn dibynnu ar feithrin cysylltiadau \u00e2 phobl amrywiol a deall yr heriau sy\u2019n wynebu llunwyr polis\u00efau.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/about\/person\/amanda-hill-dixon\/\"><em>Amanda Hill-Dixon<\/em><\/a><em>, Uwch-gymrawd Ymchwil, sy\u2019n arwain ymchwil Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i hyrwyddo cydraddoldebau. Cyfarwyddodd gwaith diweddar y Ganolfan ar\u00a0<\/em><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publication\/improving-race-equality-in-wales\/\"><em>Wella Cydraddoldeb Hiliol yng Nghymru<\/em><\/a>, a lywiodd Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru\u2019n uniongyrchol. Ar hyn o bryd, mae\u2019n arwain ystod o brosiectau gan gynnwys ymchwil i ffyrdd o leihau tlodi, ffyrdd o liniaru effaith y pandemig ar gyrhaeddiad addysgol a\u2019r defnydd o dechnoleg i fynd i\u2019r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-content\/uploads\/sites\/597\/2021\/12\/WCPP-RGB-Stacked-Reversed-Logo-1.png\" alt=\"\" width=\"433\" height=\"186\" \/><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Heb os, mae pandemig y coronafeirws wedi ysgogi un o\u2019r trawsnewidiadau cyflymaf ym mywydau gwaith llawer o bobl ers degawdau. Mae\u00a0data\u2019r DU\u00a0yn awgrymu, tra bod 5% o weithwyr yn gweithio [&hellip;]","protected":false},"author":1565,"featured_media":27,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[8],"tags":[],"class_list":["post-32","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"lang":"cy","translations":{"cy":32,"en":26},"meta_box":[],"pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/32","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1565"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=32"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/32\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":36,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/32\/revisions\/36"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/media\/27"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=32"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=32"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=32"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}