{"id":170,"date":"2024-12-09T11:59:57","date_gmt":"2024-12-09T11:59:57","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/?p=170"},"modified":"2024-12-09T12:01:56","modified_gmt":"2024-12-09T12:01:56","slug":"cydweithio-ar-waith-gwersi-o-banel-rhyngweithiol-spark-yn-civicon24","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/cy\/cydweithio-ar-waith-gwersi-o-banel-rhyngweithiol-spark-yn-civicon24\/","title":{"rendered":"Cydweithio ar Waith: Gwersi o Banel Rhyngweithiol SPARK yn CiviCon24"},"content":{"rendered":"<p>Ym mis Mehefin eleni, ymunodd dau Gymrawd Ymchwil (Dr Anna Skeels a Dr Sofia Vougioukalou) \u00e2 dau bartner di-academaidd (Dave Horton, Ymgynghorydd Annibynnol \/ ACE ac Fateha Ahmed o EYST) i gyd-gynnull sesiwn panel rhyngweithiol SPARK yn CiviCon24. Canolbwyntiodd y sesiwn ar \u2018Berthnasau Cydweithredol ac Effaith Ddinesig\u2019, gan ddefnyddio dull y \u2018bowlen bysgod\u2019. Ein nod oedd archwilio&#8217;r amodau a&#8217;r camau a allai alluogi perthnasau cydweithredol effeithiol i ffurfio rhwng prifysgolion a chymdeithas sifil.<\/p>\n<p>Roedd digwyddiad Civicon24 wedi\u2019i dargedu at arweinwyr, gweithwyr proffesiynol ac academyddion sy\u2019n llywio\u2019r dirwedd ddinesig o fewn addysg uwch, yn ogystal ag arweinwyr uwch sy\u2019n gyrru newid o fewn eu sefydliadau. Ei nod oedd amlygu mentrau dinesig rhagorol a darparu offer ymarferol ar gyfer ymgysylltu dinesig i sefydliadau.<\/p>\n<p>Mae dull y \u2018bowlen bysgod\u2019 yn rhyngweithiol ac yn gyfranogol, gan roi\u2019r opsiwn i gyfranogwyr y gweithdy ymuno \u00e2\u2019r panel, gofyn cwestiynau a chyfeirio\u2019r drafodaeth. Felly, nid oes un arbenigwr penodol ar y pwnc, ond ystafell lawn o arbenigedd gwerthfawr.<\/p>\n<p>Mae\u2019r math hwn o gynnull, cydweithio a chreadigrwydd wrth wraidd SPARK, sef Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol cyntaf y byd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae SPARK yn cyd-leoli ymchwilwyr gwyddorau cymdeithasol blaenllaw gyda chwmn\u00efau&#8217;r sector preifat, cyrff sector cyhoeddus a sefydliadau&#8217;r trydydd sector. Mae&#8217;n unigryw yn y modd y mae\u2019n datblygu dulliau newydd o weithio i ysgogi ymgysylltiad academaidd\/dinesig effeithiol ac ystyrlon.<\/p>\n<p>Mae pob un o&#8217;r pedwar aelod gwreiddiol o&#8217;r panel SPARK yn rhannu eu safbwyntiau cychwynnol ar berthnasau cydweithredol ac effaith ddinesig.<\/p>\n<figure id=\"post-173 media-173\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-content\/uploads\/sites\/597\/2024\/12\/civicon24-header-1.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<hr \/>\n<h3><strong>Fateha Ahmed, Arweinydd Prosiect BME CYP a Theuluoedd, EYST (Ethnic Minorities &amp; Youth Support Team Cymru) \u2013 Cydweithio \u00e2 SPARK: ymgysylltiad llwyddiannus<\/strong><\/h3>\n<p>Cafodd EYST Cymru y fraint o bartneru ag ymchwilwyr SPARK, a ddangosodd werth data ymchwil mewn fformatau hygyrch fel graffiau ac amserlenni. Gwnaeth y dull hwn yr wybodaeth yn ddealladwy, hyd yn oed i\u2019r rhai \u00e2 heriau iaith, gan helpu cyfranogwyr i weld sut y gallai eu cyfraniadau sicrhau cyllid a dylanwadu ar bolis\u00efau i gymunedau lleiafrifoedd ethnig.<\/p>\n<p>Roedd agwedd agored SPARK at fewnwelediadau EYST yn amhrisiadwy. Darparwyd cinio a thalebau i gydnabod gwybodaeth y cyfranogwyr, a chynhaliwyd y gr\u0175p ffocws mewn lle cyfarwydd a chyfforddus i leihau rhwystrau cyfranogiad. Trwy dalu costau teithio, darparu bwyd, a chynnig cyfieithwyr, cr\u00ebwyd amgylchedd cynhwysol lle roedd cyfranogwyr yn teimlo&#8217;n ddiogel i rannu gwybodaeth sensitif.<\/p>\n<p>Yn wahanol i lawer o astudiaethau, sicrhawyd ymgysylltiad parhaus i gynnal ymddiriedaeth a chydweithrediad. Diolch arbennig i gymuned SPARK am ddarparu gwasanaethau diwylliannol briodol a meithrin cysylltiadau ystyrlon. Gallwn ddefnyddio dull SPARK i greu ymgysylltiadau ymchwil cynhwysol ac effeithiol sy\u2019n grymuso cymunedau lleiafrifoedd ethnig.<\/p>\n<hr \/>\n<h3><strong>Dave Horton, Ymgynghorydd Annibynnol ac Arweinydd Dysgu a Hyfforddi ACE (Action in Caerau &amp; Ely) \u2013 Partneriaeth Ymchwil Trydydd Sector SPARK<\/strong><\/h3>\n<p>Nod Partneriaeth Ymchwil Trydydd Sector SPARK yw dod ag academyddion ynghyd \u00e2 sefydliadau bach yn y Trydydd Sector a\u2019r Sector Cymunedol i nodi eu hanghenion tystiolaeth, adeiladu eu sgiliau ymchwil trwy gefnogaeth pro bono, a chyd-gynhyrchu gwybodaeth i wneud newidiadau mewn cymunedau mwyaf difreintiedig Caerdydd.<\/p>\n<p>Ysbrydolwyd y dull \u2018bowlen bysgod\u2019 gan werthoedd y bartneriaeth hon, a alluogodd ffurfio perthnasau newydd a defnyddio\u2019r wybodaeth amrywiol oedd ar gael yn yr ystafell. Roedd y profiad o sgyrsiau deinamig a grym a rennir yn un pwerus. Yr her yn y dyfodol yw harneisio\u2019r egni hwn trwy bartneriaethau ymchwil yn ein cymunedau!<\/p>\n<figure id=\"post-172 media-172\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" style=\"width: 654px;height: 436px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-content\/uploads\/sites\/597\/2024\/12\/anna-civicon24-1.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<hr \/>\n<h3><strong>Sofia Vougioukalou, Cymrawd Ymchwil, CARE, SPARK, Prifysgol Caerdydd \u2013 Ymchwilwyr contract a chynnal ymgysylltiad dinesig<\/strong><\/h3>\n<p>Mae llawer o ymchwil sy\u2019n wynebu\u2019r gymuned yn cael ei gynnal gan weithlu ansicr ar gontractau byr a rhan-amser. Mae hyn yn gwneud cynnal perthnasau \u00e2 grwpiau cymunedol a sefydliadau trydydd sector yn heriol, gan arwain at ddiffyg ymddiriedaeth. Gall buddsoddi mewn swyddi ymchwil wedi\u2019u hymgorffori mewn timau staff canolfannau ymchwil craidd (fel SPARK, CASCADE a CARE) helpu i oresgyn y problemau hyn.<\/p>\n<hr \/>\n<h3><strong>Anna Skeels, Cymrawd Ymchwil, SPARK, Prifysgol Caerdydd \u2013 Cymrodyr ymchwil fel \u2018gweithwyr proffesiynol cymysg\u2019<\/strong><\/h3>\n<p>Mae r\u00f4l Cymrawd Ymchwil SPARK yn arloesol ym maes addysg uwch. Mae\u2019n cyfuno gweithgareddau ymgysylltu dinesig a chydweithio \u00e2 diddordebau ymchwil personol. Mae hyn yn galluogi perthnasau academaidd\/cymdeithas sifil i gael eu cefnogi yn y tymor hir.<\/p>\n<hr \/>\n<p>Awgrymodd y pedwar safbwynt hyn fod y modd y caiff perthnasau academaidd\/cymdeithas sifil eu hadeiladu yn effeithio ar natur ac effaith ddinesig. Drwy ddull y \u2018bowlen bysgod\u2019, cafwyd cyfraniadau gan eraill yn y sesiwn, gan drafod adeiladu perthnasau fel sgil, a sut gall prifysgolion wasanaethu eu cymunedau. Roedd hefyd ddiddordeb mewn ehangu dulliau llwyddiannus SPARK ledled Prifysgol Caerdydd a thu hwnt.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ym mis Mehefin eleni, ymunodd dau Gymrawd Ymchwil (Dr Anna Skeels a Dr Sofia Vougioukalou) \u00e2 dau bartner di-academaidd (Dave Horton, Ymgynghorydd Annibynnol \/ ACE ac Fateha Ahmed o EYST) [&hellip;]","protected":false},"author":1,"featured_media":166,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[59,8],"tags":[],"class_list":["post-170","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-spark","category-uncategorized-cy"],"lang":"cy","translations":{"cy":170,"en":165},"meta_box":[],"pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/170","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=170"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/170\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":174,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/170\/revisions\/174"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/media\/166"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=170"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=170"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=170"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}