{"id":151,"date":"2024-10-17T11:14:59","date_gmt":"2024-10-17T11:14:59","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/?p=151"},"modified":"2025-02-10T14:13:17","modified_gmt":"2025-02-10T14:13:17","slug":"partneriaeth-ymchwil-trydydd-sector-sbarc","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/cy\/partneriaeth-ymchwil-trydydd-sector-sbarc\/","title":{"rendered":"Partneriaeth Ymchwil Trydydd Sector SBARC"},"content":{"rendered":"<p><strong>Dr Anna Skeels o SBARC a Dave Horton (Ymgynghorydd ac ACE) sy\u2019n rhoi&#8217;r wybodaeth ddiweddaraf am Bartneriaeth Ymchwil y Trydydd Sector, flwyddyn yn ddiweddarach.<\/strong><\/p>\n<p>Mae Partneriaeth Ymchwil Trydydd Sector SBARC (TSRP) yn ddull arloesol o feithrin sgiliau ymchwil a sbarduno newid ar sail tystiolaeth er budd rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Caerdydd. Gwneir hyn drwy roi cymorth ymchwil pro bono i sefydliadau bach a chanolig yn y sector gwirfoddol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r berthynas rhwng y sefydliadau hyn ac academyddion yn cael eu meithrin yn ofalus. Mae hyn yn creu sail ar gyfer perthnasoedd cyfartal yn y tymor hwy a chynhyrchu ymchwil newydd ar y cyd sy\u2019n gallu dangos effaith, gwella arferion a dylanwadu ar bolis\u00efau.<\/p>\n<p><strong>HWYLUSO PERTHNASOEDD YMCHWIL YN SEILIEDIG AR DDYHEADAU&#8217;R SECTOR GWIRFODDOL<\/strong><\/p>\n<p>Mae llawer wedi&#8217;i gyflawni ers cyhoeddi ein blog rhagarweiniol ar 25 Medi 2023. Mae hyn o ganlyniad i gydweithio \u00e2&#8217;n Gr\u0175p Llywio aml-bartner a gweithgareddau treialu gyda sefydliadau\u2019r sector gwirfoddol yng Nghaerdydd ac academyddion o Brifysgol Caerdydd.<\/p>\n<p>Cymerodd 10 o sefydliadau i gyd ran mewn sgyrsiau neu weithdai i amlinellu eu hanghenion ymchwil. Cafodd y rhai a gymerodd ran eu cynorthwyo i ddatblygu &#8216;cynfas&#8217; wedi&#8217;i bersonoli i gofnodi eu diddordebau, sgiliau, bylchau mewn tystiolaeth, a dyheadau ymchwil. Llwyddodd y dull hwn i bennu anghenion y sefydliadau ar ddechrau&#8217;r prosiect, gan osod y sylfaen ar gyfer perthynas fwy cyfartal ag academyddion.<\/p>\n<p><strong>YMCHWIL I GYNORTHWYO CYMUNEDAU<\/strong><\/p>\n<p>Yn dilyn yr ymdrechion hyn, cefnogwyd chwe sefydliad a gymerodd ran i baratoi ceisiadau am 10 awr o gymorth ymchwil pro bono. Mae&#8217;r sefydliadau hyn yn gweithio gyda rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Caerdydd. Mae\u2019r rhain yn cynnwys pobl LHDT, pobl ag anableddau dysgu, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, pobl \u00e2 chyflyrau iechyd meddwl a phobl sy&#8217;n byw mewn cymunedau dan anfantais economaidd.<\/p>\n<p>Ers hynny, mae perthnasoedd wedi&#8217;u hwyluso rhwng pump o&#8217;r sefydliadau hyn ac academyddion Prifysgol Caerdydd sydd ag arbenigedd ymchwil perthnasol. Mae\u2019r cymorth a roddwyd wedi canolbwyntio ar egluro cwestiynau ymchwil, datblygu methodolegau, yn ogystal \u00e2 deall tystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd a\u2019i defnyddio.<\/p>\n<p>Ar ben hynny, mae myfyrwyr ar raglen profiad gwaith Dirnad Dinesig wedi gweithio gyda thri o&#8217;r sefydliadau hyn.<\/p>\n<p><strong>NODI A DATHLU EFFAITH<\/strong><\/p>\n<p>Ar 15 Gorffennaf, aeth t\u00eem y prosiect ati i ddod ag academyddion (&#8216;Cymrodyr&#8217; Ymchwil y Trydydd Sector) ac arweinwyr sefydliadau ynghyd i werthuso&#8217;r prosiect hyd yma, gan drafod eu profiadau o\u2019r prosiect, a rhannu eu huchafbwyntiau.<\/p>\n<p>Er gwaethaf rhywfaint o bryder cychwynnol ar ddechrau&#8217;r prosiect, dywedodd y sefydliadau bod cydweithio ag academyddion wedi bod yn wych o gymharu \u00e2 phrofiadau blaenorol, a bod perthnasoedd newydd a phositif wedi\u2019u meithrin.<\/p>\n<p>Ystyriwyd bod r\u00f4l hwyluso&#8217;r TSRP yn hanfodol am ei bod wedi galluogi perthnasoedd i dyfu yn ogystal \u00e2 chyflwyno deilliannau diriaethol sydd o fudd i&#8217;r naill bartner. Gwnaeth myfyrwyr o&#8217;r rhaglen Dirnad Dinesig gyfraniad pwysig, gan roi gwybodaeth ddefnyddiol mewn fformat hygyrch.<\/p>\n<p>&#8216;Fe wnaeth mynd am dro gyda\u2019n gilydd o amgylch y gymuned arwain at ymdeimlad gwirioneddol o gysylltiad ar wahanol faterion a\u2019n bod ar yr un donfedd&#8217; yn \u00f4l arweinydd un sefydliad.<\/p>\n<p>Dathlodd partneriaid academaidd y cyfle i ddatblygu &#8216;ymchwil sy&#8217;n gwneud gwahaniaeth&#8217;, a dywedodd myfyrwyr eu bod wedi datblygu sgiliau a chael profiadau newydd a fydd yn helpu i ddatblygu eu gyrfaoedd.<\/p>\n<p>Dywedodd un academydd wrthym: &#8216;(profiad gwych oedd) rhannu barn a dealltwriaeth gyda Sarah &#8211; arbenigedd lleol ar waith!&#8217;, a dywedodd un myfyriwr:<\/p>\n<p>\u2018Fe wnaeth fy amser&#8230; ganiat\u00e1u i mi ennill profiad rhagorol o wneud ymchwil yn seiliedig ar lenyddiaeth. Mae&#8217;r profiad hwn wedi bod o fudd enfawr i mi a fy ngyrfa.&#8217;<\/p>\n<p>At ei gilydd, roedd y rhai a gymerodd ran o\u2019r sector gwirfoddol a\u2019r byd academaidd o\u2019r farn bod TSRP yn enghraifft dda o &#8216;Genhadaeth Ddinesig ar waith&#8217;!<\/p>\n<p><strong>Y CAMAU NESAF<\/strong><\/p>\n<p>Mae&#8217;r pum partneriaeth yn ystyried y posibilrwydd o weithgarwch ymchwil yn y tymor hwy, a bydd t\u00eem TSRP wrth law wrth i&#8217;r perthnasoedd hyn barhau i ddatblygu. Yn ogystal, bydd rhagor o weithdai yn yr hydref yn arwain at ddod \u00e2 sefydliadau newydd ac academyddion ynghyd i gael cymorth pro bono, gan olygu y bydd cymorth ar gael i ragor o gymunedau.<\/p>\n<p>Bydd cyfleoedd i integreiddio&#8217;r prosiect gyda rhaglenni a strategaethau ehangach Prifysgol Caerdydd yn parhau i gael eu hystyried. Yn olaf, bydd modelau newydd yn cael eu treialu i ymgysylltu \u00e2 sefydliadau sy\u2019n gyfrifol am seilwaith y sector gwirfoddol.<\/p>\n<p><strong>DIGWYDDIADAU<\/strong><\/p>\n<p>Bydd SBARC yn cynnal ail rownd o weithdai ymchwil ar gyfer sefydliadau yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd eleni. Os ydych chi&#8217;n sefydliad bach i ganolig yn y sector gwirfoddol (e.e. elusen, sefydliad cymunedol, menter gymdeithasol) ac wedi bod yn weithredol yng Nghaerdydd ers o leiaf dwy flynedd, gallai hyn fod yn addas i chi.<\/p>\n<p>Gweithdai dwy awr o hyd fydd y rhain \u2013 mae\u2019r dyddiadau, yr amseroedd a\u2019r lleoliadau (gan gynnwys ar-lein) i\u2019w gweld yma. Cofrestrwch ar Eventbrite ar gyfer y gweithdy yr hoffech gymryd rhan ynddo erbyn 5pm ar 30 Hydref.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.eventbrite.com\/e\/1040824362687?aff=oddtdtcreator\">https:\/\/www.eventbrite.com\/e\/1040824362687?aff=oddtdtcreator<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.eventbrite.com\/e\/1040858595077?aff=oddtdtcreator\">https:\/\/www.eventbrite.com\/e\/1040858595077?aff=oddtdtcreator<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.eventbrite.com\/e\/1040860972187?aff=oddtdtcreator\">https:\/\/www.eventbrite.com\/e\/1040860972187?aff=oddtdtcreator<\/a><\/p>\n<p>Os na allwch chi ddod i unrhyw un o&#8217;r sesiynau, ond mae diddordeb gennych chi mewn cynorthwyo ymchwil, cysylltwch ag Anna Skeels SkeelsA1@caerdydd.ac.uk neu Dave Horton daveh.community@gmail.com<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Dr Anna Skeels o SBARC a Dave Horton (Ymgynghorydd ac ACE) sy\u2019n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Bartneriaeth Ymchwil y Trydydd Sector, flwyddyn yn ddiweddarach. Mae Partneriaeth Ymchwil Trydydd Sector SBARC [&hellip;]","protected":false},"author":1,"featured_media":149,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[26],"tags":[],"class_list":["post-151","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-sbarcspark"],"lang":"cy","translations":{"cy":151,"en":148},"meta_box":[],"pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/151","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=151"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/151\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":152,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/151\/revisions\/152"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/media\/149"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=151"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=151"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=151"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}