{"id":127,"date":"2022-05-23T08:56:15","date_gmt":"2022-05-23T08:56:15","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/?p=127"},"modified":"2022-05-24T08:57:48","modified_gmt":"2022-05-24T08:57:48","slug":"syniadau-i-ysgogi-creu-parc-gwyddorau-cymdeithasol-i-fynd-ir-afael-a-heriau-cymdeithasol-mawr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/cy\/syniadau-i-ysgogi-creu-parc-gwyddorau-cymdeithasol-i-fynd-ir-afael-a-heriau-cymdeithasol-mawr\/","title":{"rendered":"Syniadau i ysgogi: Creu parc gwyddorau cymdeithasol i fynd i\u2019r afael \u00e2 heriau cymdeithasol mawr"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae ein cymdeithas yn wynebu llawer o heriau cymhleth, megis y pandemig COVID-19 parhaus ac argyfwng y newid yn yr hinsawdd. Yn ein byd o gysylltiadau a chymhlethdodau byd-eang, ni allwn ddisgwyl i un sefydliad neu bwnc academaidd yn unig fynd i\u2019r afael \u00e2 materion o\u2019r fath.<\/strong><\/p>\n<p>Mewn ymateb i hyn, rydym wedi agor ein drysau yn ddiweddar i Barc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SBARC\/ SPARK) newydd ym Mhrifysgol Caerdydd.\u00a0 Mae\u2019r adeilad blaenllaw newydd hwn, sy\u2019n rhan o Gampws Arloesedd gwerth \u00a3300 miliwn y Brifysgol, yn dwyn ynghyd 12 gr\u0175p ymchwil gwyddorau cymdeithasol ochr yn ochr ag entrepreneuriaid, busnesau newydd gan fyfyrwyr, deilliannau academaidd, sefydliadau trydydd sector a sefydliadau yn y sector cyhoeddus \u2014 pob un yn ceisio mynd i\u2019r afael \u00e2 heriau rhyngwladol, cenedlaethol a heriau yn y gymdeithas leol.<\/p>\n<p>SBARC\/ SPARK yw\u2019r cyfleuster arloesedd cyntaf o\u2019i fath yng Nghymru sy\u2019n cynnwys 12,000m sgw\u00e2r o ofod ar draws chwe llawr, gydag unedau masnachol, labordai a lleoedd i drafod syniadau. Ac eto, mae\u2019r ganolfan fywiog hon yn llawer mwy na\u2019i risiau \u2018oculus\u2019 trawiadol a\u2019r adeilad materol. Mae parc ymchwil y gwyddorau cymdeithasol yn arbrawf mewn gosod ymchwil gwyddorau cymdeithasol yng nghanol arloesedd a masnacheiddio. Mae hefyd yn rhoi pwyslais mawr ar bwysigrwydd cymuned a diwylliant, a gynlluniwyd i annog partneriaethau mwy ystyrlon ac ymgysylltu \u00e2 chydweithwyr y tu allan i addysg uwch.<\/p>\n<p>Yn yr un modd ag y mae GW4 yn nodi meysydd o arbenigedd ategol ar draws ei bedair prifysgol i ddatblygu cymunedau ymchwil ar raddfa, bydd SBARC\/ SPARK yn meithrin ffyrdd rhyngddisgyblaethol newydd o weithio.\u00a0 Drwy gyfuno\u2019r wybodaeth gyfunol hon o dan yr un to, gallwn sbarduno syniadau newydd a gwybodaeth newydd wrth i\u2019r DU wella o bandemig COVID-19.\u00a0 Bydd ein mannau ffisegol yn annog rhyngweithio creadigol ac yn hyrwyddo mabwysiadu dulliau cydweithredol o ymchwilio.<\/p>\n<p>Ac mae cymunedau ymchwil GW4 ymhlith y rhai a fydd yn elwa o SBARC\/ SPARK. Yr Athro Aris Syntetos yw Cyfarwyddwr RemakerSpace, menter nid-er-elw sy\u2019n ymgysylltu \u00e2 chymunedau a busnesau, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae wedi\u2019i leoli yn SBARC\/ SPARK ac mae\u2019n cyfuno arbenigedd ymchwil \u00e2\u2019r adnoddau ymarferol sydd eu hangen i gefnogi\u2019r economi gylchol.\u00a0 Mae\u2019r Athro Syntetos a\u2019i gydweithiwr yn Ysgol Busnes Caerdydd, Dr Daniel Eyers, yn rhan o\u2019r prosiect Cylcholdeb a Alluogir gan Dechnoleg (TEC): Digideiddio a Chynaliadwyedd mewn Gweithgynhyrchu. Dyfarnwyd cyfran o \u00a3125K o Gyllid Sbarduno GW4 iddo yn ddiweddar. Mae\u2019r gymuned ymchwil yn bwriadu cynnal digwyddiadau cydweithredol yn SBARC\/SPARK, gan ddod ag academyddion ynghyd \u00e2 diwydiant a llunwyr polis\u00efau.<\/p>\n<p>Bydd SBARC\/SPARK hefyd yn meithrin partneriaethau gyda busnesau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector a\u2019r gymdeithas ehangach i ddod \u00e2 syniadau gwych yn fyw. Mae aelodau o\u2019r gymuned yn sefydlu eu hunain gyda phobl megis Nesta, asiantaeth arloesedd y DU, y cwmni technoleg ariannol Bipsync a\u2019r Sefydliad Materion Cymreig sydd ymhlith y cyntaf i symud i SBARC\/SPARK. Mae hyn ochr yn ochr \u00e2\u2019r canolfannau ymchwil gwyddorau cymdeithasol arbenigol amrywiol sy\u2019n cynnwys Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE); y Ganolfan Newid Hinsawdd a Thrawsffurfio Cymdeithasol (CAST), a Chanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc.<\/p>\n<p>Mae cynghreiriau prifysgolion megis GW4 yn rhan hanfodol a chynyddol o\u2019r dirwedd ymchwil, datblygu ac arloesedd (RDI). Bydd ein gwaith gyda phartneriaid allanol yn helpu i yrru uchelgeisiau RDI ledled Cymru a\u2019r DU yn ehangach. Er enghraifft, mae RDI yn allweddol i strategaeth economi gylchol uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i gefnogi adferiad gwyrdd yn Strategaeth Arloesedd 2021 Llywodraeth y DU.\u00a0 Yn nodweddiadol, mae galluoedd RDI yn cael eu gweld o safbwynt gwyddoniaeth a thechnoleg, ond eto mae gwyddorau cymdeithasol yn hanfodol i arloesedd hefyd, gan wella ein dealltwriaeth o ymddygiad ac agweddau dynol, a llywio polis\u00efau sy\u2019n seiliedig ar dystiolaeth. Mae SBARC\/SPARK yn gyfle pwysig i arddangos ein gwaith a\u2019n cyfraniadau. Mae\u2019n annog ymchwilwyr mewn disgyblaethau eraill i weithio gyda gwyddonwyr cymdeithasol a\u2019n cymuned SBARC\/SPARK ehangach o ddechrau unrhyw syniadau neu ddatblygiadau newydd.<\/p>\n<p><strong><em>Mae rhagor o wybodaeth am SBARC\/SPARK\u00a0<\/em><\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/social-science-research-park\"><strong><em>yma<\/em><\/strong><\/a>.<\/p>\n<p><strong><em>Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn Mynegi Barn GW4, ar gael\u00a0<\/em><\/strong><a href=\"https:\/\/eur03.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Fgw4.ac.uk%2F&amp;data=05%7C01%7CRawlinsonP%40cardiff.ac.uk%7Cf4c17860b542441d1a2b08da31bbb704%7Cbdb74b3095684856bdbf06759778fcbc%7C1%7C0%7C637876979550238717%7CUnknown%7CTWFpbGZsb3d8eyJWIjoiMC4wLjAwMDAiLCJQIjoiV2luMzIiLCJBTiI6Ik1haWwiLCJXVCI6Mn0%3D%7C3000%7C%7C%7C&amp;sdata=pMcMhJisqikOF%2Fw%2B2MbhJf%2BwRgQV%2FTuQ6Va1MKOonSs%3D&amp;reserved=0\"><strong><em>yma\u00a0<\/em><\/strong><\/a><strong><em>\u00a0<\/em><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae ein cymdeithas yn wynebu llawer o heriau cymhleth, megis y pandemig COVID-19 parhaus ac argyfwng y newid yn yr hinsawdd. Yn ein byd o gysylltiadau a chymhlethdodau byd-eang, ni [&hellip;]","protected":false},"author":1,"featured_media":129,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[26],"tags":[],"class_list":["post-127","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-sbarcspark"],"lang":"cy","translations":{"cy":127,"en":125},"meta_box":[],"pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/127","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=127"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/127\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":128,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/127\/revisions\/128"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/media\/129"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=127"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=127"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=127"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}