{"id":122,"date":"2022-04-26T08:52:58","date_gmt":"2022-04-26T08:52:58","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/?p=122"},"modified":"2022-05-24T08:57:57","modified_gmt":"2022-05-24T08:57:57","slug":"sbarduno-ymchwil-ym-maes-iechyd-a-gofal-yng-nghymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/cy\/sbarduno-ymchwil-ym-maes-iechyd-a-gofal-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Sbarduno Ymchwil ym maes Iechyd a Gofal yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae carfan o academyddion talentog o Barc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol (SBARC) Prifysgol Caerdydd ymhlith rhestr o\u00a0<a href=\"https:\/\/healthandcareresearchwales.org\/senior-research-leaders\">Uwch Arweinwyr Ymchwil<\/a>\u00a0sydd wedi\u2019i gyhoeddi gan\u00a0<a href=\"https:\/\/healthandcareresearchwales.org\/\">Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru<\/a>.<\/strong><\/p>\n<div id=\"attachment_4298\" class=\"wp-caption alignright\">\n<p class=\"wp-caption-text\">\n<\/div>\n<p>Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (HCRW) wedi penodi tri uwch arweinydd o\u2019n canolfannau ymchwil SBARC, i chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o arwain a datblygu\u2019r gymuned ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru. I gydnabod y r\u00f4l bwysig hon, bydd yr uwch arweinwyr ymchwil hyn hefyd yn derbyn gwobrau ymchwil yn \u00f4l disgresiwn, yn flynyddol, i gefnogi eu gweithgarwch ymchwil eu hunain. Maent yn ymuno ag un ar ddeg uwch arweinydd ymchwil arall o bob cwr o Gymru, ac mae gan lawer ohonynt hwythau gysylltiadau cryf \u00e2 SBARC.<\/p>\n<p>Mae Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol yn dod \u00e2 chanolfannau a sefydliadau ymchwil sy\u2019n arwain yn rhyngwladol, at ei gilydd, yn sbarc|spark ar Gampws Arloesedd Caerdydd. Mae t\u00eem ymchwil rhyngddisgyblaethol SBARC yn mynd i\u2019r afael \u00e2 phroblemau sy\u2019n effeithio arnom i gyd. Mae\u2019r rhain yn cynnwys achosion diweithdra a ffyrdd o\u2019n gwneud yn fwy iach a diogel.<\/p>\n<p>Dywed yr Athro Chris Taylor, Cyfarwyddwr Academaidd, SBARC \u201cRwy\u2019n croesawu\u2019r penodiadau hyn yn fawr wrth i ni ddechrau ar ein taith yn SBARC. Maent yn dangos ein cryfderau, yn enwedig ym meysydd ymchwil iechyd a gofal, a byddant yn ein helpu i ddatblygu rhagor o gydweithio \u00e2 phrifysgolion a sefydliadau eraill sy\u2019n gweithio yn y gymuned iechyd a gofal.\u201d<\/p>\n<p>Mae\u2019r aelodau o gymuned SBARC a benodwyd yn Uwch Arweinwyr Ymchwil yn cynnwys:<\/p>\n<p><strong>Yr Athro Donald Forrester<\/strong><\/p>\n<p>Mae ymchwil yr Athro Forrester ym maes gwasanaethau i blant sy\u2019n agored i niwed yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng arferion proffesiynol a\u2019r canlyniadau i blant a\u2019u teuluoedd. Ers 2016 mae wedi bod yn Gyfarwyddwr CASCADE, sy\u2019n un o\u2019r prif ganolfannau ar gyfer ymchwil ym maes gofal cymdeithasol plant yn y DU. Mae\u2019r ganolfan hefyd yn gartref i ExChange, rhwydwaith ymgysylltu ymchwil gofal cymdeithasol Cymru gyfan.<\/p>\n<p><strong>Yr Athro Graham Moore<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019r Athro Moore yn gweithio ar ystod o fuddsoddiadau a seilweithiau ymchwil, gan gynnwys y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth, a\u2019u Gweithredu ym maes Gwella Iechyd y Cyhoedd (<a href=\"https:\/\/decipher.uk.net\/\">DECIPHer<\/a>), a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/wolfson-centre-for-young-peoples-mental-health\">Chanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd\u00a0Meddwl Pobl Ifanc<\/a>\u00a0\u2013 y\u00a0ddau yn aelodau o SBARC. Mae\u2019n aelod o gonsortiwm\u00a0<a href=\"https:\/\/www.ed.ac.uk\/spectrum\">SPECTRUM<\/a>\u00a0a ariennir gan UKPRP sy\u2019n canolbwyntio ar ffactorau masnachol sy\u2019n effeithio ar iechyd ac anghydraddoldebau iechyd.<\/p>\n<p><strong>Yr Athro Jonathan Scourfield<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019r Athro Scourfield yn Athro Gwaith Cymdeithasol ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr CASCADE, y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant. Mae hefyd yn Gyd-Gyfarwyddwr Ymchwil yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ac yn gyd-arweinydd arbenigol ar gyfer ymchwil gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rhwng mis Ionawr 2018 a mis Mai 2021, cafodd yr Athro Scourfield ei secondio i Lywodraeth Cymru yn gynghorydd polisi arbenigol i\u2019r Gweinidog sy\u2019n gyfrifol am ofal cymdeithasol.<\/p>\n<p>Mae staff eraill Prifysgol Caerdydd a benodwyd yn Uwch Arweinwyr Ymchwil yn cynnwys:<\/p>\n<p><strong>Yr Athro Kerry Hood<\/strong><\/p>\n<p>Treuliodd yr Athro Hood ran gyntaf ei gyrfa yn canolbwyntio ar ymchwil ym maes gofal sylfaenol ac yn 2006 sefydlodd Uned Dreialon De-ddwyrain Cymru a dechreuodd ddatblygu portffolio ymchwil ehangach. Mae ei diddordebau ymchwil methodolegol penodol yn ymwneud \u00e2 dylunio treialon, mesur canlyniadau, a chynhwysiant o ran ymchwil. Mae\u2019r Athro Hood yn gyd-arweinydd ar y Gweithgor Partneriaeth Ymchwil ym maes Treialu Methodolegau ar gyfer Cynnal Treialon.<\/p>\n<p><strong>Yr Athro Adrian Edwards<\/strong><\/p>\n<p>Mae Adrian yn Athro Ymarfer Cyffredinol ym Mhrifysgol Caerdydd. Ef yw Cyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru a Chyfarwyddwr Canolfan PRIME Cymru sef Canolfan Cymru Gyfan ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys (gan gynnwys ymchwil heb ei drefnu), mewn partneriaeth \u00e2 Phrifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol De Cymru.<\/p>\n<p><strong>Yr Athro Monica Busse<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019r Athro Busse yn ffisiotherapydd siartredig, ac yn fethodolegydd treialon sydd yn gweithio yng Nghanolfan Treialon Ymchwil (CTR) Prifysgol Caerdydd. Mae\u2019n Gyfarwyddwr Treialon y Meddwl, yr Ymennydd a Niwrowyddoniaeth, ac yn Uwch Arweinydd Ymchwil ym maes Iechyd a Gofal yng Nghymru.<\/p>\n<p><strong>Yr Athro Colin Dayan<\/strong><\/p>\n<p>Yn 2010, cafodd Yr Athro Dayan ei benodi\u2019n Gadeirydd Diabetes a Metaboledd Clinigol ac yn Bennaeth yr Adran yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd. Bu\u2019n Gyfarwyddwr ar y Sefydliad Meddygaeth Foleciwlaidd ac Arbrofol o 2011 i 2015. Yn 2017, fe\u2019i penodwyd i swydd Athro Endocrinoleg a Diabetes ym Mhrifysgol Bryste, yn swydd ar y cyd \u00e2 Chaerdydd.<\/p>\n<p><strong>Yr Athro William Gray<\/strong><\/p>\n<p>Symudodd yr Athro Gray i fod yn Gadeirydd Niwrolawdriniaeth Swyddogaethol yng Nghaerdydd yn 2011, lle sefydlodd\u00a0<a href=\"https:\/\/healthandcareresearchwales.org\/about-research-community\/brain-repair-and-intracranial-neurotherapeutics-unit\">Uned Ymchwil Biofeddygol Atgyweirio\u2019r\u00a0Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol (BRAIN)<\/a>, y mae hefyd yn ei chyfarwyddo. Mae ei ddiddordebau clinigol mewn llawfeddygaeth epilepsi a dosbarthu celloedd a genynnau i\u2019r ymennydd dynol i\u2019w hatgyweirio.<\/p>\n<p><strong>Yr Athro Ian Jones<\/strong><\/p>\n<p>Mae Ian yn Athro Seiciatreg yn Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol Prifysgol Caerdydd, ac yn Seiciatrydd Ymgynghorol Anrhydeddus yn Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a\u2019r Fro. Mae\u2019n Gyfarwyddwr y\u00a0<a href=\"https:\/\/healthandcareresearchwales.org\/about-research-community\/national-centre-mental-health-ncmh\">Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl\u00a0<\/a>\u00a0a chyda chydweithwyr mae\u2019n arwain y\u00a0<a href=\"http:\/\/bdrn.org\/\">Rhwydwaith Ymchwil Anhwylder Deubegynol<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae carfan o academyddion talentog o Barc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol (SBARC) Prifysgol Caerdydd ymhlith rhestr o\u00a0Uwch Arweinwyr Ymchwil\u00a0sydd wedi\u2019i gyhoeddi gan\u00a0Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal [&hellip;]","protected":false},"author":1,"featured_media":124,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[26],"tags":[],"class_list":["post-122","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-sbarcspark"],"lang":"cy","translations":{"cy":122,"en":118},"meta_box":[],"pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/122","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=122"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/122\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":123,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/122\/revisions\/123"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/media\/124"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=122"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=122"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=122"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}