{"id":114,"date":"2022-04-05T08:49:09","date_gmt":"2022-04-05T08:49:09","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/?p=114"},"modified":"2022-05-24T08:58:05","modified_gmt":"2022-05-24T08:58:05","slug":"cwmniaun-talur-pris-am-ddewis-parhau-i-fasnachu-yn-rwsia","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/cy\/cwmniaun-talur-pris-am-ddewis-parhau-i-fasnachu-yn-rwsia\/","title":{"rendered":"Cwmn\u00efau\u2019n talu\u2019r pris am ddewis parhau i fasnachu yn Rwsia"},"content":{"rendered":"<p><strong>Yn ystod oriau m\u00e2n dydd Iau, 24 Chwefror 2022, dechreuodd Rwsia ei ymosodiad ar Wcr\u00e1in. Oherwydd hynny, dewisodd llawer o gwmn\u00efau rhyngwladol roi\u2019r gorau i fasnachu yn Rwsia am y tro. Mae Ysgol Busnes Caerdydd,\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/1244350-eshraghi-arman\">yr Athro Arman Eshraghi<\/a>\u00a0o\u2019r Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesedd yn sbarc|spark a\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/1471878-tosun-onur\">Dr Onur Kemal Tosun<\/a>\u00a0o Ysgol Busnes Caerdydd wedi bod yn ymchwilio i ymateb marchnadoedd ariannol i\u2019r newyddion am y cwmn\u00efau a anwybyddodd y pwysau arnynt i roi\u2019r gorau i fasnachu yn Rwsia a dewis parhau i wneud hynny yn ystod pythefnos cyntaf y rhyfel.\u00a0<\/strong><\/p>\n<p>Yn dilyn ymosodiad Rwsia ar Wcr\u00e1in, cafodd sancsiynau digynsail eu gosod arno a fyddai\u2019n cael effaith eang ar feysydd geowleidyddol, milwrol ac economaidd. Oherwydd y sancsiynau hyn, y perygl i\u2019w henw da a\u2019r ffaith y bydd yn fwyfwy anodd cyflawni trafodion bancio, mae llawer o gwmn\u00efau o\u2019r Unol Daleithiau wedi gweld dim opsiwn arall ond rhoi\u2019r gorau i fasnachu yn Rwsia am y tro. Cafodd llawer o frandiau gorllewinol mawr, fel Coca-Cola, McDonald\u2019s a Starbucks, eu gorfodi i gyhoeddi y byddant yn rhoi\u2019r gorau i fasnachu yno, a hynny oherwydd yr ymgyrchoedd ar y cyfryngau cymdeithasol a\u2019r bygythiad gan ddefnyddwyr i\u2019w boicotio.<\/p>\n<p>Er gwaethaf pwysau o\u2019r fath, mae sawl cwmni cyfarwydd iawn o\u2019r Unol Daleithiau wedi dewis parhau i fasnachu yn Rwsia. Ymhlith y cwmn\u00efau hyn mae Mondelez, y cyffeithiwr rhyngwladol a pherchennog Cadbury, Burger King a Marriott. Mae ein papur nesaf yn canolbwyntio ar y cwmn\u00efau hyn ac yn ymchwilio i ymateb marchnadoedd ariannol i\u2019r newyddion amdanynt.<\/p>\n<p>Yn ystod ein hastudiaeth, gwnaethom gymharu 28 o gwmn\u00efau a ddewisodd barhau i fasnachu yno, a hynny o 12 o ddiwydiannau gwahanol, yn erbyn cwmn\u00efau unigol a ddewisodd roi\u2019r gorau i wneud hynny. Roedd y cwmn\u00efau hyn i gyd yn rhan o\u2019r un Dosbarth Diwydiannol Safonol. Yn rhan o\u2019n gwaith dadansoddi, gwnaethom ddewis canolbwyntio ar ddau ddyddiad penodol \u2013 28 Chwefror a 3 Mawrth. Mae\u2019r dyddiadau hyn yn bwysig gan fod rhai cwmn\u00efau wedi cael sylw am gymryd camau yn erbyn Rwsia tra bod eraill wedi\u2019u beirniadu mewn nifer o gyfryngau am aros yn dawel.<\/p>\n<p>Mae ein gwaith dadansoddi\u2019n rhoi darlun cyffredinol o berfformiad stociau\u2019r cwmn\u00efau a ddewisodd barhau i fasnachu yn Rwsia, a hynny yn y dyddiau cyn ac ar \u00f4l yr ymosodiad. Mae hefyd yn dangos gostyngiad rhyfeddol mewn enillion portffolio ar 28 Chwefror a 3 Mawrth. Mae hyn yn dangos effaith y newyddion yn y cyfryngau tua\u2019r un adeg am y cwmn\u00efau a ddewisodd barhau neu roi\u2019r gorau i fasnachu yno.<\/p>\n<p>Mae\u2019r astudiaeth yn dangos bod marchnadoedd wedi ymateb ar y cyd i\u2019r newyddion am y cwmn\u00efau a ddewisodd barhau i fasnachu mewn marchnad ddadleuol. Rydym yn gweld nad yw\u2019r cwmn\u00efau sy\u2019n gwneud hynny\u2019n perfformio cystal \u00e2\u2019r cwmn\u00efau a ddewisodd roi\u2019r gorau i fasnachu yn Rwsia. Nid ydynt ychwaith yn cyrraedd meincnod y farchnad. Mae hynny\u2019n gyson \u00e2 llenyddiaeth flaenorol ar effaith negyddol gwrthdaro milwrol.<\/p>\n<p>Rydym yn gweld hefyd bod buddsoddwyr wedi gosod cosb o bwys ystadegol ac economaidd ar y cwmn\u00efau a ddewisodd barhau i fasnachu mewn marchnad o\u2019r fath. Gellir priodoli hyn i\u2019r teimladau negyddol tuag at y cwmn\u00efau hyn yn dilyn yr ymosodiad. Yn ogystal \u00e2 hynny, mae\u2019r canfyddiadau\u2019n dangos bod mwy o fuddsoddiadau\u2019n cael eu gwerthu oherwydd y pwysau ar y cwmn\u00efau hynny.<\/p>\n<p>Ar y cyfan, mae\u2019r cwmn\u00efau sydd wedi dewis parhau i fasnachu yn Rwsia, er gwaethaf yr ymosodiad, y sancsiynau a barn y cyhoedd amdanynt, wedi gwneud hynny er anfantais i\u2019w perfformiad yn y farchnad. Bydd angen astudio parhad hirdymor yr anfantais hon ymhellach yn yr wythnosau a\u2019r misoedd yn dilyn yr ymosodiad.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Mae\u2019r Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesedd wedi\u2019i lleoli ym Mharc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK), y cyfleuster cyntaf o\u2019i fath yn y byd. Mae\u2019n ceisio gwella dealltwriaeth ar sail tystiolaeth o ddatblygiad, cyflwyniad a chanlyniadau polisi arloesedd sydd wedi\u2019i lunio\u2019n eang ond sy\u2019n canolbwyntio ar weithgarwch ar sail lle.<\/strong><\/p>\n<p><strong>Agorodd sbarc|spark ar Ddydd G\u0175yl Dewi (1 Mawrth). I gael rhagor o wybodaeth am weithio gyda ni, ebostiwch\u00a0<\/strong><a href=\"mailto:SPARK@cardiff.ac.uk\"><strong>SPARK@caerdydd.ac.uk<\/strong><\/a><strong>\u00a0\u00a0<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn ystod oriau m\u00e2n dydd Iau, 24 Chwefror 2022, dechreuodd Rwsia ei ymosodiad ar Wcr\u00e1in. Oherwydd hynny, dewisodd llawer o gwmn\u00efau rhyngwladol roi\u2019r gorau i fasnachu yn Rwsia am y [&hellip;]","protected":false},"author":1,"featured_media":115,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[8],"tags":[],"class_list":["post-114","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"lang":"cy","translations":{"cy":114,"en":112},"meta_box":[],"pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/114","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=114"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/114\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":116,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/114\/revisions\/116"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/media\/115"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=114"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=114"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=114"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}