{"id":109,"date":"2022-03-29T08:47:25","date_gmt":"2022-03-29T08:47:25","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/?p=109"},"modified":"2022-05-24T08:47:48","modified_gmt":"2022-05-24T08:47:48","slug":"bydd-sbarcspark-yn-cefnogi-arloesedd-ac-yn-helpu-i-ddiogelu-swyddi","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/cy\/bydd-sbarcspark-yn-cefnogi-arloesedd-ac-yn-helpu-i-ddiogelu-swyddi\/","title":{"rendered":"Bydd sbarc|spark \u2018yn cefnogi arloesedd ac yn helpu i ddiogelu swyddi\u2019"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae gan sbarc|spark r\u00f4l allweddol i\u2019w chwarae wrth gasglu ymchwilwyr o dan yr un to i greu syniadau newydd a llwybrau ymchwil newydd, meddai\u2019r Athro Chris Taylor, Cyfarwyddwr SBARC \u2013 Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol.<\/strong><\/p>\n<p>Mewn\u00a0<a href=\"https:\/\/www.timeshighereducation.com\/news\/social-sciences-park-will-support-innovation-and-job-security\">erthygl ar gyfer y Times Higher Education<\/a>, dywedodd yr Athro Taylor, er gwaethaf y cynnydd mewn cydweithio ar-lein, a\u2019r cynnydd mewn gweithio o bell, fod yr angen i ddod ag ymchwilwyr ym maes y gwyddorau cymdeithasol at ei gilydd yn yr hyn a ddisgrifiwyd yn \u2018uwch-labordy\u2019r gymdeithas\u2019 yn parhau i fod yn hollbwysig o ran adfer ar \u00f4l y pandemig.<\/p>\n<p>\u201cGellir gwneud ymchwil ar-lein \u2013 a chafodd ymchwilwyr rywfaint o lwyddiant yn y pandemig \u2013 ond ni fydd yr un lefel o greadigrwydd ac arloesi\u2019n digwydd,\u201d esboniodd yr Athro Taylor.<\/p>\n<p>\u201cYm maes y gwyddorau cymdeithasol, ceir tystiolaeth eithaf cryf bod datblygu syniadau newydd yn gofyn am gyfathrebu nad yw ond yn digwydd ar-lein.\u201d<\/p>\n<p>Cyfeiriodd at ostyngiad sydyn yn y ceisiadau am grantiau yn ei ddisgyblaeth yn ystod y pandemig, gan fod ceisiadau i\u2019r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol wedi gostwng bron i 20 y cant yn 2020-21, gan nodi: \u201cNid yw\u2019r cynigion wedi dod i law.\u201d<\/p>\n<p>\u201cMae gweithio hybrid yn golygu nad oes angen cymaint o le ar gwmn\u00efau, felly mae rhai cwmn\u00efau eisiau llai o safleoedd mawr ac yn lle hyn maen nhw\u2019n chwilio am leoedd sy\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019r brifysgol sydd o safon well o ran y gweithle,\u201d meddai\u2019r Athro Taylor y bydd ei ganolfan yn gartref i hyd at 800 o bobl yn y pen draw.<\/p>\n<p>Gall cyfuno canolfannau ymchwil sy\u2019n canolbwyntio ar blant a phobl ifanc, y gymdeithas sifil, troseddu a diogelwch hefyd wella cyfleoedd Prifysgol Caerdydd o ennill rhagor o gyllid ymchwil, a byddai hyn yn ei helpu i gadw ymchwilwyr ar gontractau tymor hwy, ychwanegodd yr Athro Taylor.<\/p>\n<p>\u201cYn y gwyddorau meddygol efallai y bydd labordy\u2019n cael ei gynnal am ddegawdau \u2013 bron yn ddieithriad ni fydd labordy yn y gwyddorau cymdeithasol ar waith am bum mlynedd,\u201d meddai\u2019r Athro Taylor. \u201cOs gallwn ni roi rhai grwpiau at ei gilydd, gallwn ni sicrhau cyllid sylweddol drwy grynhoi ymdrechion; gallwn ni ddefnyddio hynny i gyflogi staff ar gontractau tymor hwy,\u201d meddai, gan ychwanegu: \u201cAr hyn o bryd, mae\u2019n anodd buddsoddi mewn ymchwilwyr ac iddyn nhw fuddsoddi ynom ni, ond os byddwn ni\u2019n newid hynny, wedyn gallwn ni ddechrau cadw rhai pobl o safon uchel iawn.\u201d<\/p>\n<p>Er nad yw enillion ariannol cwmn\u00efau neu ymchwil sy\u2019n seiliedig ar y gwyddorau cymdeithasol yn debygol o fod yn yr un gynghrair \u00e2\u2019r rheiny ym maes y gwyddorau bywyd, meddygol neu gyfrifiadurol, bydd buddsoddiad Prifysgol Caerdydd yn talu ar ei ganfed.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni\u2019n weddol hyderus y gallwn ni gyfuno refeniw a chwmn\u00efau ymchwil i greu cyd-destun ymchwil sy\u2019n wirioneddol fywiog,\u201d meddai.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-4258 alignright\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/innovation\/wp-content\/uploads\/sites\/561\/2022\/03\/00013.00_00_10_05.Still001.png\" alt=\"\" width=\"437\" height=\"246\" \/>Yn \u00f4l y Brifysgol, mae pedwar tenant newydd wedi symud i mewn yn ystod y mis diwethaf wrth i felinau trafod a chwmn\u00efau sy\u2019n canolbwyntio ar ymchwil ymgartrefu yn sbarc|spark: Nesta, y Sefydliad Materion Cymreig, Bipsync a RedKnight.<\/p>\n<p>Dyma a ddywedodd Craig Marvelley, Is-Lywydd Peirianneg, Bipsync: \u201cMae\u2019n gyfle gwych inni. Mae\u2019r busnes sydd gennym yn seiliedig ar ddulliau a syniadau arloesol. Rwy\u2019n credu y bydd gweithio yn y ganolfan hon, lle bydd pobl yn cynnig syniadau newydd ac yn cydweithio, yn ein hysbrydoli i wneud yr un peth. Byddwn ni\u2019n gallu dod o hyd i bobl o\u2019r un anian i gymryd rhan a\u2019n helpu i feddwl am atebion fydd yn grymuso ein meddalwedd a llifoedd gwaith ein cleientiaid i raddau helaeth iawn.\u201d<\/p>\n<p>Cytunodd Heather Perkins, Cydymaith yn People Ops yn Bipsync: \u201cRydyn ni wedi cael croeso cynnes iawn i sbarc|spark gan Brifysgol Caerdydd. Hyd yn hyn rydyn ni\u2019n gweld bod ein t\u00eem yn dod i mewn yn llawer amlach, a hynny oherwydd ei fod yn lle dymunol iawn i fod. Yn y dyfodol, byddwn ni\u2019n edrych ymlaen yn fawr at weithio ar y cyd \u00e2 mwy o\u2019r tenantiaid yn ogystal \u00e2 thimau\u2019r Brifysgol.\u201d<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am weithio yn sbarc|spark, ebostiwch\u00a0<a href=\"mailto:Spark@cardiff.ac.uk\">spark@caerdydd.ac.uk<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae gan sbarc|spark r\u00f4l allweddol i\u2019w chwarae wrth gasglu ymchwilwyr o dan yr un to i greu syniadau newydd a llwybrau ymchwil newydd, meddai\u2019r Athro Chris Taylor, Cyfarwyddwr SBARC \u2013 [&hellip;]","protected":false},"author":6833,"featured_media":107,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[26],"tags":[],"class_list":["post-109","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-sbarcspark"],"lang":"cy","translations":{"cy":109,"en":106},"meta_box":[],"pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/109","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6833"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=109"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/109\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":111,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/109\/revisions\/111"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/media\/107"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=109"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=109"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=109"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}