{"id":103,"date":"2022-05-24T08:44:29","date_gmt":"2022-05-24T08:44:29","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/?p=103"},"modified":"2022-05-24T08:45:24","modified_gmt":"2022-05-24T08:45:24","slug":"sbarduno-darpar-strategaeth-arloesi-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/cy\/sbarduno-darpar-strategaeth-arloesi-cymru\/","title":{"rendered":"Sbarduno darpar strategaeth arloesi Cymru"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae\u00a0<\/strong><a href=\"https:\/\/www.learnedsociety.wales\/\"><strong>Cymdeithas Ddysgedig Cymru\u2019n<\/strong><\/a><strong>\u00a0trefnu rhaglen o weithgareddau i helpu i lywio a gwella polis\u00efau ac arferion arloesi yng Nghymru. Mae r\u00f4l parciau gwyddor yn y gwaith o gyflawni strategaethau arloesi\u2019n cael ei hystyried yn rhan o\u2019r rhaglen hon ac yn cyd-fynd ag agor\u00a0<\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/campus-developments\/projects\/spark\"><strong>sbarc|spark<\/strong><\/a><strong>\u00a0a Pharc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) ar Gampws Arloesedd Prifysgol Caerdydd. Yma, mae\u2019r\u00a0<\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/610290-delbridge-rick\"><strong>Athro Rick Delbridge<\/strong><\/a><strong>, cynghorydd arbennig\u00a0<\/strong><strong>i Lywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar arloesi, yn esbonio\u2019r canfyddiadau diweddar i ni.<\/strong><\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r rhaglen hon gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru\u2019n <a href=\"https:\/\/www.learnedsociety.wales\/our-publications\/the-role-of-science-parks-in-innovation-strategies\/\">amserol am nifer o resymau<\/a>. Yn y DU, rydym wedi gweld cyhoeddiad strategaeth arloesi\u2019r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Bil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, y cynnydd ym mhwysigrwydd agenda sy\u2019n seiliedig ar leoedd (yn enwedig drwy\u2019r Papur Gwyn ar Godi\u2019r Gwastad) ac ymrwymiad Llywodraeth y DU yn yr Adolygiad o Wariant i gynyddu gwariant ar ymchwil a datblygu 35% i \u00a320 biliwn dros y tair blynedd nesaf.<\/p>\n<p>Ar yr un pryd, mae Llywodraeth Cymru\u2019n adolygu ei pholis\u00efau arloesi ac wrthi\u2019n datblygu strategaeth arloesi drawslywodraethol integredig newydd. Bydd y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) hefyd yn newid y dirwedd ar gyfer ymchwil ac arloesi ym maes addysg uwch.<\/p>\n<p>Yn ystod ein cyfarfod gyda Chymdeithas Ddysgedig Cymru ym mis Ionawr, ailbwysleisiwyd bod arloesi\u2019n dibynnu ar leoliad a bod parciau gwyddor yn gallu chwarae r\u00f4l hollbwysig yn y gwaith o annog a hwyluso arloesi, gan gynnwys ysgogi datblygiad economaidd yn rhanbarthol. Clywsom gan enghreifftiau yng ngogledd, gorllewin a de Cymru, ac roedd gan bob un ohonynt rywbeth gwahanol i\u2019w gynnig. Fodd bynnag, mae\u2019n rhaid i ardaloedd sy\u2019n awyddus i annog arloesi drwy barciau gwyddor allu denu talent, cyfalaf a busnesau arloesol.<\/p>\n<p>Y barn gyffredinol oedd bod angen lleoliad penodol i allu arloesi ar raddfa fawr. Wrth ystyried yr hyn a allai fod yn wahanol am gynigion gwahanol fannau arloesi yng Nghymru, tynnodd y cyfranogwyr sylw at y potensial i gynnig ansawdd bywyd gwell a chydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith na rhai o\u2019r parciau gwyddor mwyaf a mwyaf llwyddiannus mewn rhannau eraill o\u2019r DU.<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2 hyn, dywedwyd bod cyfleusterau fel adeilad modern pwrpasol \u00e2 swyddfeydd a labordai, technolegau priodol a mannau cymdeithasol fel caffis da, ynghyd ag unigolion ymroddedig a rhaglen drosfwaol dda sy\u2019n gwneud i bethau ddigwydd, yn cynnig yr amodau gorau posibl i sicrhau canlyniadau llwyddiannus.\u201d<\/p>\n<p>Mae\u2019r canfyddiadau hyn yn cyd-fynd ag agoriad adeilad sbarc|spark yng nghanol Campws Arloesedd Prifysgol Caerdydd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r adeilad o\u2019r radd flaenaf yn dod ag ymchwilwyr, entrepreneuriaid, busnesau newydd gan fyfyrwyr a chwmn\u00efau deillio ynghyd. Mae\u2019n gartref i\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/social-science-research-park\">Barc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol<\/a>\u00a0(SPARK), y parc ymchwil cyntaf o\u2019i fath yn y byd. Ym mis Gorffennaf 2021, cyhoeddwyd mai\u2019r adeilad hwn oedd\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/news\/view\/2530444-sbarc-spark-is-wales-first-living-wage-building#:~:text=Cardiff%20University%27s%20sbarc%7Cspark%20is,to%20employees%20and%20onsite%20contractors.\">adeilad Cyflog Byw cyntaf Cymru<\/a>. Mae\u2019n rhaid i bob tenant \u2013 y mae lle i 800 ohonynt yn yr adeilad \u2013 dalu o leiaf y cyflog byw gwirioneddol i\u2019w gweithwyr a chontractwyr ar y safle.<\/p>\n<p>Meddai\u2019r Athro Delbridge: \u201cRydym wedi cynllunio\u2019r adeilad yn \u00f4l gweithgarwch yn hytrach nag adran, drwy ddefnyddio\u2019r arwyddair \u2018gweithio ar sail gweithgarwch\u2019. Bydd y mannau mwy preifat a diogel ymhellach i ffwrdd o\u2019r grisiau Oculus, sy\u2019n goron ar y cyfan, a bydd y cynllun agored \/ parthau trafod mewn grwpiau llai o bob tu i\u2019r grisiau.<\/p>\n<p>Mae hyblygrwydd wrth galon y weledigaeth. Mae angen mannau gwahanol iawn ar gyfer yr holl weithgarwch yn yr adeilad \u2013 o fannau tawel ar gyfer y labordy ymddygiad i lawr gwaelod sy\u2019n llawn bwrlwm. Mae angen i\u2019r adeilad ymateb i\u2019r galwadau a chynnig cynlluniau llawr hyblyg y gellir eu newid.<\/p>\n<p>O ystyried r\u00f4l hanfodol parciau gwyddor yn y gwaith o gyflawni strategaeth arloesi econom\u00efau rhanbarthol a chenedlaethol Cymru, gwnaethom gytuno yn ystod ein cyfarfod y gellid gwneud mwy i drefnu\u2019r parciau gwyddor yn ecosystem arloesi Cymru a chydweithio ar eu traws, gan gynnwys trafod pwysigrwydd posibl rhwydwaith a llais Cymreig i\u2019r parciau gwyddor yma.<\/p>\n<p>Rydym eisoes wedi pwysleisio ei bod yn bwysig bod Cymru\u2019n datblygu \u2018<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/innovation\/2021\/03\/10\/a-new-innovation-agenda-for-wales\/\">naratif arloesi<\/a>\u2019, a daeth arwyddoc\u00e2d naratif o\u2019r fath i\u2019r amlwg yn ystod y cyfarfod unwaith eto. Mae angen i\u2019r naratif hwn fod yn seiliedig ar wirioneddau presennol ond cyfleu dyheadau ac uchelgeisiau ein cenedl arloesol. Mae angen dangos a gweld bod y cyfle i arloesi\u2019n gynhwysol ac yn rhywbeth sy\u2019n berthnasol i bobl, cymdeithas a\u2019r economi.<\/p>\n<p>Ein cenhadaeth ar gyfer sbarc|spark yw gwneud hynny\u2019n union: arwain drwy esiampl \u00e2 phrosiect cyntaf o\u2019i fath yn y DU; rhannu, hyrwyddo ac ymhelaethu ar straeon; tynnu sylw at achosion gwych o lwyddiant; sicrhau ymwybyddiaeth o arloesi a gwneud arloesi\u2019n rhan fawr o fywyd bob dydd.\u201d<\/p>\n<p><strong><em>Yr Athro Rick Delbridge<\/em><\/strong><strong><em>\u00a0yw Deon Ymchwil,\u00a0<\/em><\/strong><a href=\"http:\/\/www.cardiff.ac.uk\/innovation\"><strong><em>Arloesedd<\/em><\/strong><\/a><strong><em>\u00a0a Menter blaenorol Prifysgol Caerdydd (2012-2019). Arweiniodd y gwaith o ddatblygu\u00a0<\/em><\/strong><a href=\"http:\/\/www.cardiff.ac.uk\/innovation\/campus-investment\/innovation-central\/spark\"><strong><em>Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK)<\/em><\/strong><\/a><strong><em>. Ef yw cyd-awdur y papur\u00a0<\/em><\/strong><a href=\"http:\/\/www.nesta.org.uk\/publications\/social-science-parks-societys-new-super-labs\"><strong><em>\u2018Social Science Parks: society\u2019s new super-labs\u2019<\/em><\/strong><\/a><strong><em>\u00a0ar wefan Nesta, cyd-gynullydd y Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesedd (CIPR) a chyd-awdur papur\u00a0<\/em><\/strong><a href=\"https:\/\/businesswales.gov.wales\/innovation\/sites\/innovation\/files\/documents\/MASTER%20COPY%20-%20Scoping%20innovation%20policy%20in%20Wales_final%20report_19th%20May%20final.pdf\"><strong><em>\u2018Scoping the Future of Innovation Policy in Wales\u2019<\/em><\/strong><\/a><strong><em>\u00a0CIPR.<\/em><\/strong><\/p>\n<p><strong>Agorodd sbarc|spark ar Ddydd G\u0175yl Dewi (1 Mawrth). I gael rhagor o wybodaeth am weithio gyda ni, ebostiwch<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae\u00a0Cymdeithas Ddysgedig Cymru\u2019n\u00a0trefnu rhaglen o weithgareddau i helpu i lywio a gwella polis\u00efau ac arferion arloesi yng Nghymru. Mae r\u00f4l parciau gwyddor yn y gwaith o gyflawni strategaethau arloesi\u2019n cael [&hellip;]","protected":false},"author":1,"featured_media":104,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[26],"tags":[],"class_list":["post-103","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-sbarcspark"],"lang":"cy","translations":{"cy":103,"en":100},"meta_box":[],"pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/103","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=103"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/103\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":105,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/103\/revisions\/105"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/media\/104"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=103"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=103"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/spark\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=103"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}