Partneriaeth Ymchwil Trydydd Sector SBARC
17 Hydref 2024Dr Anna Skeels o SBARC a Dave Horton (Ymgynghorydd ac ACE) sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am Bartneriaeth Ymchwil y Trydydd Sector, flwyddyn yn ddiweddarach.
Mae Partneriaeth Ymchwil Trydydd Sector SBARC (TSRP) yn ddull arloesol o feithrin sgiliau ymchwil a sbarduno newid ar sail tystiolaeth er budd rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Caerdydd. Gwneir hyn drwy roi cymorth ymchwil pro bono i sefydliadau bach a chanolig yn y sector gwirfoddol.
Mae’r berthynas rhwng y sefydliadau hyn ac academyddion yn cael eu meithrin yn ofalus. Mae hyn yn creu sail ar gyfer perthnasoedd cyfartal yn y tymor hwy a chynhyrchu ymchwil newydd ar y cyd sy’n gallu dangos effaith, gwella arferion a dylanwadu ar bolisïau.
HWYLUSO PERTHNASOEDD YMCHWIL YN SEILIEDIG AR DDYHEADAU’R SECTOR GWIRFODDOL
Mae llawer wedi’i gyflawni ers cyhoeddi ein blog rhagarweiniol ar 25 Medi 2023. Mae hyn o ganlyniad i gydweithio â’n Grŵp Llywio aml-bartner a gweithgareddau treialu gyda sefydliadau’r sector gwirfoddol yng Nghaerdydd ac academyddion o Brifysgol Caerdydd.
Cymerodd 10 o sefydliadau i gyd ran mewn sgyrsiau neu weithdai i amlinellu eu hanghenion ymchwil. Cafodd y rhai a gymerodd ran eu cynorthwyo i ddatblygu ‘cynfas’ wedi’i bersonoli i gofnodi eu diddordebau, sgiliau, bylchau mewn tystiolaeth, a dyheadau ymchwil. Llwyddodd y dull hwn i bennu anghenion y sefydliadau ar ddechrau’r prosiect, gan osod y sylfaen ar gyfer perthynas fwy cyfartal ag academyddion.
YMCHWIL I GYNORTHWYO CYMUNEDAU
Yn dilyn yr ymdrechion hyn, cefnogwyd chwe sefydliad a gymerodd ran i baratoi ceisiadau am 10 awr o gymorth ymchwil pro bono. Mae’r sefydliadau hyn yn gweithio gyda rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Caerdydd. Mae’r rhain yn cynnwys pobl LHDT, pobl ag anableddau dysgu, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, pobl â chyflyrau iechyd meddwl a phobl sy’n byw mewn cymunedau dan anfantais economaidd.
Ers hynny, mae perthnasoedd wedi’u hwyluso rhwng pump o’r sefydliadau hyn ac academyddion Prifysgol Caerdydd sydd ag arbenigedd ymchwil perthnasol. Mae’r cymorth a roddwyd wedi canolbwyntio ar egluro cwestiynau ymchwil, datblygu methodolegau, yn ogystal â deall tystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd a’i defnyddio.
Ar ben hynny, mae myfyrwyr ar raglen profiad gwaith Dirnad Dinesig wedi gweithio gyda thri o’r sefydliadau hyn.
NODI A DATHLU EFFAITH
Ar 15 Gorffennaf, aeth tîm y prosiect ati i ddod ag academyddion (‘Cymrodyr’ Ymchwil y Trydydd Sector) ac arweinwyr sefydliadau ynghyd i werthuso’r prosiect hyd yma, gan drafod eu profiadau o’r prosiect, a rhannu eu huchafbwyntiau.
Er gwaethaf rhywfaint o bryder cychwynnol ar ddechrau’r prosiect, dywedodd y sefydliadau bod cydweithio ag academyddion wedi bod yn wych o gymharu â phrofiadau blaenorol, a bod perthnasoedd newydd a phositif wedi’u meithrin.
Ystyriwyd bod rôl hwyluso’r TSRP yn hanfodol am ei bod wedi galluogi perthnasoedd i dyfu yn ogystal â chyflwyno deilliannau diriaethol sydd o fudd i’r naill bartner. Gwnaeth myfyrwyr o’r rhaglen Dirnad Dinesig gyfraniad pwysig, gan roi gwybodaeth ddefnyddiol mewn fformat hygyrch.
‘Fe wnaeth mynd am dro gyda’n gilydd o amgylch y gymuned arwain at ymdeimlad gwirioneddol o gysylltiad ar wahanol faterion a’n bod ar yr un donfedd’ yn ôl arweinydd un sefydliad.
Dathlodd partneriaid academaidd y cyfle i ddatblygu ‘ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth’, a dywedodd myfyrwyr eu bod wedi datblygu sgiliau a chael profiadau newydd a fydd yn helpu i ddatblygu eu gyrfaoedd.
Dywedodd un academydd wrthym: ‘(profiad gwych oedd) rhannu barn a dealltwriaeth gyda Sarah – arbenigedd lleol ar waith!’, a dywedodd un myfyriwr:
‘Fe wnaeth fy amser… ganiatáu i mi ennill profiad rhagorol o wneud ymchwil yn seiliedig ar lenyddiaeth. Mae’r profiad hwn wedi bod o fudd enfawr i mi a fy ngyrfa.’
At ei gilydd, roedd y rhai a gymerodd ran o’r sector gwirfoddol a’r byd academaidd o’r farn bod TSRP yn enghraifft dda o ‘Genhadaeth Ddinesig ar waith’!
Y CAMAU NESAF
Mae’r pum partneriaeth yn ystyried y posibilrwydd o weithgarwch ymchwil yn y tymor hwy, a bydd tîm TSRP wrth law wrth i’r perthnasoedd hyn barhau i ddatblygu. Yn ogystal, bydd rhagor o weithdai yn yr hydref yn arwain at ddod â sefydliadau newydd ac academyddion ynghyd i gael cymorth pro bono, gan olygu y bydd cymorth ar gael i ragor o gymunedau.
Bydd cyfleoedd i integreiddio’r prosiect gyda rhaglenni a strategaethau ehangach Prifysgol Caerdydd yn parhau i gael eu hystyried. Yn olaf, bydd modelau newydd yn cael eu treialu i ymgysylltu â sefydliadau sy’n gyfrifol am seilwaith y sector gwirfoddol.
DIGWYDDIADAU
Bydd SBARC yn cynnal ail rownd o weithdai ymchwil ar gyfer sefydliadau yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd eleni. Os ydych chi’n sefydliad bach i ganolig yn y sector gwirfoddol (e.e. elusen, sefydliad cymunedol, menter gymdeithasol) ac wedi bod yn weithredol yng Nghaerdydd ers o leiaf dwy flynedd, gallai hyn fod yn addas i chi.
Gweithdai dwy awr o hyd fydd y rhain – mae’r dyddiadau, yr amseroedd a’r lleoliadau (gan gynnwys ar-lein) i’w gweld yma. Cofrestrwch ar Eventbrite ar gyfer y gweithdy yr hoffech gymryd rhan ynddo erbyn 5pm ar 30 Hydref.
https://www.eventbrite.com/e/1040824362687?aff=oddtdtcreator
https://www.eventbrite.com/e/1040858595077?aff=oddtdtcreator
https://www.eventbrite.com/e/1040860972187?aff=oddtdtcreator
Os na allwch chi ddod i unrhyw un o’r sesiynau, ond mae diddordeb gennych chi mewn cynorthwyo ymchwil, cysylltwch ag Anna Skeels SkeelsA1@caerdydd.ac.uk neu Dave Horton daveh.community@gmail.com