Skip to main content

Uncategorized

Mae cryfderau SPARK yn disgleirio yn y REF

7 Mehefin 2022
Cardiff University Spark Building

WALES NEWS SERVICE
Cardiff University Spark Building WALES NEWS SERVICE

Y sgôr uchaf ar gyfer ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol

Mae cymuned ymchwil gyntaf y gwyddorau cymdeithasol yn y DU – SBARC – yn creu gwaith arweiniol o safon ryngwladol, yn ôl asesiad diweddaraf y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF).

REF 2021 yw’r system a ddefnyddir yn y DU i asesu safon ymchwil yn ei sefydliadau addysg uwch.

Mae dadansoddiad o ganlyniadau diweddar REF 2021 yn dangos bod y sefydliadau, y grwpiau a’r canolfannau yn SBARC ymhlith y rheiny sy’n creu effaith ymchwil 100% drwy feddu ar 4*.

Dyma a ddywedodd yr Athro Chris Taylor, Cyfarwyddwr Academaidd SBARC: “Mae canlyniadau rhagorol REF yn gyffredinol ledled y grwpiau sy’n aelodau yn cryfhau nod SBARC i fod yn ganolfan sy’n arloesi o ran ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol, ac mae’r canlyniadau ond yn cadarnhau ein penderfyniad i symud yn ddiweddar ar y cyd i sbarc|spark, sef adeilad pwrpasol lle rydyn ni’n llunio, yn datblygu ac yn profi atebion a arweinir gan ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol, a hynny er mwyn mynd i’r afael â’r materion mwyaf enbyd sy’n wynebu cymdeithas.”

Roedd dwy ganolfan – CASCADE (Canolfan Ymchwil a Datblygiad Gofal Cymdeithasol Plant) a WISERD (Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru) – wedi cyfrannu at gyflwyniad ymchwil addysg y Brifysgol, gan gyrraedd y trydydd safle yn y DU am safon ei hymchwil.

Cydnabuwyd y ddwy ganolfan hefyd am effaith eu hymchwil, gan ennill y sgôr uchaf bosibl o 4.0 ar gyfer effaith ymchwil.

Mae’r Ganolfan Newid Hinsawdd a Thrawsnewidiadau Cymdeithasol (CAST) yn gweithio’n ddiwyd i ddeall y gwyddorau cymdeithasol sydd ynghlwm wrth gymryd camau ar yr hinsawdd. Roedd yn rhan o gyflwyniad REF Caerdydd ar gyfer Seicoleg, Seiciatreg a Niwrowyddoniaeth, gan gadarnhau bod Caerdydd yn 7fed yn y DU (o gyfanswm o 93).

Roedd cyflwyniad Cymdeithaseg Prifysgol Caerdydd yn y 10fed safle yn y DU ac yn 5ed am amgylchedd ei hymchwil. Roedd yr asesiad yn cynnwys DECIPHER (y Ganolfan Datblygu, Gwerthuso, Cymhlethdod a Gweithredu o ran Gwella Iechyd y Cyhoedd), y HateLab a’r Sefydliad Ymchwil Troseddau a Diogelwch.

Ychwanegodd yr Athro Taylor: “Cyfrannodd ein hymchwil yn SBARC at saith uned asesu yn y REF, gan ddangos natur ryngddisgyblaethol eang ein staff, ein haelodau a’n grwpiau sy’n rhan o’r sefydliad. Er enghraifft, cyfrannodd y Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesedd at gyflwyniadau Daearyddiaeth ac Astudiaethau AmgylcheddolBusnes a Rheolaeth, a Chymdeithaseg.”

Ymhlith yr 20 prifysgol orau yn y DU am ansawdd cyffredinol ein hymchwil (19eg) ein heffaith (11eg), a’n hamgylchedd ymchwil (16eg) 14eg yn y DU am Bŵer Ymchwil sy’n dangos maint ac ansawdd ein hymchwil

Prifysgol Caerdydd yw’r brifysgol ymchwil-ddwys fwyaf blaenllaw yng Nghymru o hyd, ar sail safon ei hymchwil, pŵer ei hymchwil, ei heffaith a’i hamgylchedd.