Skip to main content

sbarc|sparkSPARK

Caethwasiaeth Fodern, y Diwydiannau Creadigol a Rhanbarth Prifddinas Caerdydd: Cydweithrediad Newydd

20 Mawrth 2025

Sefydlwyd y Grŵp Ymchwil ar Gaethwasiaeth Fodern a Chynaliadwyedd Cymdeithasol (MSSS RG) ac mae’n cael ei gyd-gynnal gan Ysgol Busnes Prifysgol Caerdydd a Pharc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK).

Un o’n hymrwymiadau fel Grŵp Ymchwil yw gweithio gyda phartneriaid allweddol ar draws y byd academaidd, y diwydiant, y busnes, a’r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol i adeiladu arbenigedd a chryfder cyffredin – ac i ddarparu atebion seiliedig ar dystiolaeth i’r heriau yn y maes hwn.

Heddiw, cafodd y cydweithio a’r ymrwymiad hwn eu hadlewyrchu mewn prosiect ymchwil newydd sy’n dwyn ynghyd yr arbenigedd mewn rheoli risg caethwasiaeth fodern o fewn yr Ysgol Busnes gyda’r dull buddsoddi cyfrifol gan Rhanbarth Prifddinas Caerdydd (CCR) ac Agenda Deg Media Cymru, sy’n rhan o’r Ganolfan ar gyfer yr Economi Greadigol yn SPARK.

Mae Rhanbarth Prifddinas Caerdydd yn bartneriaeth rhwng 10 cyngor lleol sy’n gweithio gyda’i gilydd i drawsnewid yr economi, y dirwedd fusnes a’r potensial ar gyfer ffyniant cynhwysol ledled De Ddwyrain Cymru. Eu nod yw gwneud gwahaniaeth drwy feithrin economi gynhwysol lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl, ysbrydoli arloesedd mewn busnesau, gwasanaethau cyhoeddus ac economïau sylfaenol, a chydweddu uchelgeisiau economaidd ag egwyddorion cymdeithasol blaengar. Mae Media Cymru yn Gonsortiwm gyda’r nod cyffredin o droi Rhanbarth Prifddinas Caerdydd yn ganolfan fyd-eang ar gyfer arloesedd yn y cyfryngau, gyda phwyslais ar dwf economaidd gwyrdd a theg. Mae’r ddau yn bartneriaid allweddol sydd â llawer i’w gynnig i’r her o fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern yng Nghymru.

Mae’r fenter ymchwil gydweithredol yn cael ei harwain gan Dr Maryam Lotfi a Dr Anna Skeels, Cyd-gyfarwyddwyr MSSS RG, ar y cyd â Dr Marian Buhociu o Brifysgol De Cymru, ac mae wedi cael ei hariannu’n hael gan Medr, Comisiwn Addysg Uwch ac Ymchwil Cymru.

Daeth digwyddiad heddiw ag ystod amrywiol o randdeiliaid o’r diwydiant, y byd academaidd a’r polisi ynghyd, gan feithrin trafodaeth agored a sy’n canolbwyntio ar atebion ynghylch yr heriau a’r cyfleoedd y mae BBaChau’r Diwydiannau Creadigol yn eu hwynebu wrth liniaru risgiau caethwasiaeth fodern.

Darparodd sesiwn codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant cychwynnol ar atal, canfod, ymateb ac iawndal caethwasiaeth fodern mewn perthynas â chadwyni cyflenwi busnes, dan arweiniad Dr Maryam Lotfi, wybodaeth i’r cyfranogwyr am natur ac ehangder llafur gorfodol, modelau cysyniadol fel y ‘sbectrwm camfanteisio’ gyda chaethwasiaeth fodern yn ei ffurf fwyaf eithafol, a chydrannau allweddol ar gyfer dull rheoli risg gan gynnwys hyfforddiant, polisïau, asesu risg a diwydrwydd dyladwy. Yna cyflwynodd Cymhorthydd Ymchwil y prosiect, Amy Boote, ddadansoddiad lefel uchel o Ddatganiadau Caethwasiaeth Fodern gan fusnesau mawr yn yr Economi Greadigol, yn ogystal â rhai o’r risgiau caethwasiaeth fodern sy’n gysylltiedig â’r sector. Mae’r rhain yn cynnwys lefelau uchel o weithwyr llawrydd a chontractwyr, cadwyni cyflenwi cymhleth a byd-eang, a strwythurau cyflogaeth anffurfiol.

Ymhlith uchafbwyntiau’r diwrnod roedd trafodaethau craff ar gyfrifoldebau moesegol a chyfreithiol BBaChau’r Diwydiannau Creadigol; archwilio strategaethau ymarferol i gryfhau arferion busnes moesegol ac ymgysylltu â phartneriaid allweddol sydd wedi ymrwymo i fynd i’r afael â chamfanteisio ac i wella cynaliadwyedd cymdeithasol yn y sector.

Wrth i’r prosiect fynd rhagddo, mae Prifysgol Caerdydd a’i phartneriaid yn parhau i fod yn ymroddedig i drosi’r trafodaethau hyn yn effaith gadarnhaol, gan atgyfnerthu rôl y brifysgol fel arweinydd mewn cynaliadwyedd cymdeithasol a mentrau gwrth-gaethwasiaeth. Roedd egni gwych yn yr ystafell, potensial ar gyfer cydweithio ar draws sawl lefel polisi ac ymarfer, ac awydd cryf i arwain y ffordd yng Nghymru.