Skip to main content

UncategorizedWISERD

Deall Lleoedd Cymru: Llenwi’r bwlch tystiolaeth ar gyfer lleoedd yng Nghymru

14 Rhagfyr 2021

Mae prinder tystiolaeth gadarn a chyson yn genedlaethol ar lefel tref wedi bod yn broblem hirsefydlog yn y DU. Heb dystiolaeth, mae’n anodd i randdeiliaid tref, megis cynllunwyr, cynghorau tref, sefydliadau’r trydydd sector a grwpiau cymunedol, bennu anghenion lleol, gwerthuso effeithiolrwydd strategaethau rheoli trefi a dysgu o lwyddiant y gorffennol.

Yn 2017, amlygodd ymchwil a gyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Carnegie y DU a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) y materion hyn ar gyfer trefi yng Nghymru. Yn rhan o’u hargymhellion, awgrymwyd y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno data a sylfaen dystiolaeth ar gyfer trefi Cymru mewn fformat hygyrch, hawdd ei ddefnyddio. Enillodd WISERD dendr cystadleuol i ddylunio a datblygu gwefan gwbl ddwyieithog i ddarparu data a metrigau dadansoddol i lenwi’r bwlch hwn.

Deall Lleoedd Cymru yw’r adnodd data a lansiwyd ym mis Hydref 2019. Mae’n cynnig data cadarn a chyson yn genedlaethol ar gyfer lleoedd yng Nghymru.

Pa wybodaeth sydd ar gael ar gyfer pob lle?

Mae’r wefan yn cynnwys 308 o leoedd yng Nghymru sydd â phoblogaeth o breswylwyr o 1,000 neu fwy, gan roi disgrifiad o bob lle. Ar gyfer 193 o’r lleoedd hyn, gyda phoblogaethau o 2,000 neu fwy o drigolion, mae hefyd yn darparu data manwl, sy’n cwmpasu:

  1. Asedau cymunedol

Mae’r rhain yn endidau sy’n fuddiol i’r gymuned leol, gan gynnwys nifer yr ysgolion, ysbytai, swyddi, siopau a mannau gwyrdd, ac amser teithio i amrywiaeth o gyfleusterau gan drafnidiaeth breifat a chyhoeddus.

  1. Llif poblogaeth

Mae’r rhain yn dangos symudiad pobl o un lle i’r llall, gan gynnwys llifoedd ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae data llif Deall Lleoedd Cymru yn dangos patrymau cymudo, patrymau mudo a ‘theithiau’ dyddiol sy’n deillio o gofnodion ffonau symudol.

  1. Nodweddion cymunedol

Mae’r rhain yn cynnwys nodweddion demograffig ac economaidd-gymdeithasol y gymuned leol, gan gynnwys metrigau sy’n dangos dosbarthiad oedran, ethnigrwydd, hunaniaeth genedlaethol, gweithgarwch economaidd a mesurau amddifadedd.

Beth am leoedd gyda llai na 2,000 o drigolion?

Os nad yw lle yn ddigon mawr i’w gynnwys ymhlith y 193 o leoedd, gallwch weld y data gan ddefnyddio’r adnodd Mapiau Cymdogaeth. Mae’r data hwn yn mapio data ar gyfer daearyddiaethau blociau adeiladu bach ar gyfer Cymru gyfan, gan roi mynediad at ddata ar gyfer ardaloedd ar wahân i’r 193 o leoedd. Mae hyn hefyd yn caniatáu archwilio patrymau mewn llefydd mwy o faint, megis amrywiadau rhwng gwahanol rannau o Gaerdydd.

Dosbarthu a chymharu lleoedd

Mae gwefan Deall Lleoedd Cymru yn defnyddio dau ddosbarthiad pwrpasol o leoedd yng Nghymru.

Dosbarthiad nodweddion cymunedol

Mae’r dosbarthiad nodweddion cymunedol yn cynnwys 16 math gwahanol o le yn seiliedig ar faint yr anheddiad a’r nodweddion demograffig ac economaidd-gymdeithasol mwyaf cyffredin. Gellir cymharu data rhwng lleoedd tebyg trwy ddefnyddio’r adnodd Cymharu’r wefan, sy’n cynnig cyfleoedd i gydweithredu, a rhannu strategaethau llwyddiannus, rhwng rhanddeiliaid lleoedd sy’n debyg eu natur.

Asesiad rhyng-berthnasoedd

Mae’r asesiad rhyng-berthnasoedd yn dangos pa mor ddibynnol yw un lle ar un arall ar gyfer darparu asedau cymunedol. Er enghraifft, a oes gan le ddigon o welyau ysbyty, meddygon teulu neu leoedd yn yr ysgol ar gyfer ei phoblogaeth breswyl, neu a oes angen iddo ddibynnu ar leoedd eraill i gynnig yr asedau hyn?

Yn rhan o’r asesiad rhyng-berthnasoedd, mae lleoedd wedi’u categoreiddio’n un o saith categori. Mae’r rhain yn amrywio o ddibynnu ar leoedd eraill, i gyd-ddibynnol, i annibynnol. Yn ogystal â’r dosbarthiad eang, mae Deall Lleoedd Cymru hefyd yn cynnig mynediad at y sgorau unigol ar gyfer pob math o ased, gan ganiatáu i randdeiliaid weld lle gall eu lle fod yn hunangynhaliol, a lle y gallai fod yn ddibynnol ar leoedd eraill.

Sut mae Deall Lleoedd Cymru wedi cael ei ddefnyddio?

Ers ei lansio, mae Deall Lleoedd Cymru wedi derbyn dros 10,000 o ymweliadau. Mae rhanddeiliaid yn ei ddefnyddio i gael sylfaen dystiolaeth er mwyn helpu i wneud penderfyniadau.

Er enghraifft, mae Cyngor Tref yng Nghymru wedi defnyddio’r data, ochr yn ochr â’u gwybodaeth leol eu hunain i ddeall anghenion y gymuned leol i’w helpu i ddyrannu cyllid i’r prosiectau a fyddai’n elwa fwyaf.

Wrth sôn am eu defnydd o Deall Lleoedd Cymru, dywedodd y Swyddog Datblygu Cymunedol:

Os ydym yn trafod gwario arian cyhoeddus, mae angen i ni fod yn gwneud pethau’n iawn. Nid gwrando ar rywun sy’n dweud, ‘Rwy’n meddwl’. Gallwn ddweud, ‘Wel, mewn gwirionedd mae’r data yn dangos i ni ein bod yn realistig.

Gallai Deall Lleoedd Cymru hefyd chwarae rhan bwysig ym Mharc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) newydd Prifysgol Caerdydd. Nod SPARK yw annog mwy o gydweithio rhwng ymchwil y gwyddorau cymdeithasol (gan gynnwys gwaith WISERD) a’n partneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i fynd i’r afael â’n heriau cymdeithasol mwyaf cymhleth. Rydym yn cydnabod mai rhan bwysig o hyn yw sut rydym yn cefnogi’r ecosystem dystiolaeth yng Nghymru, ac mae Deall Lleoedd Cymru yn cynnig platfform digidol mawr ei angen i gefnogi’r gwaith hwn.

Mae ein gweminar diweddar yn cynnig mwy o fanylion am sut i ddefnyddio’r wefan.

Ariennir Deall Lleoedd Cymru gan   Ymddiriedolaeth Carnegie y DU  a  Llywodraeth Cymru  a’i reoli gan Sefydliad Materion Cymru (IWA).                       Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) sydd wedi dadansoddi’r data a datblygu’r we. Mae’r model cyd-ddibyniaeth wedi’i ddatblygu gan y  Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol (CLES).