Skip to main content

CymunedDiwylliantIaithLlenyddiaethÔl-raddedigProfiad myfyrwyr

Ymgartrefu – Americanes yng Nghaerdydd

12 Mehefin 2019
Ymunodd yr Ysgolhaig Fulbright Emma Watkins (MA 2020) ag Ysgol y Gymraeg ar ôl cwblhau ei gradd israddedig ym Mhrifysgol Princeton yn yr Unol Daleithiau. Mewn llawer ffyrdd, dychwelyd adref at gwreiddiau teuluol (Cymro yw ei thad) a’r tirwedd a diwylliant sydd yn ysgogi ei diddordebau ymchwil.
Darllenwch am ei phrofiadau fel myfyriwr rhyngwladol.

Yn ystod blwyddyn olaf fy rhaglen israddedig, ysgrifennais ddrama o’r enw Trailing Rhiannon, sy’n ail-ddychmygu Cainc Gyntaf y Mabinogi o safbwynt y prif gymeriad benywaidd. Wrth i fi ymchwilio ac ysgrifennu’r ddrama, roeddwn i’n dibynnu’n helaeth ar gyfieithiad gwych yr Athro Sioned Davies o’r Mabinogi, sy’n talu sylw manwl i elfennau acwstig a pherfformiadol y testun Cymraeg. Dysgais am Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd yn rhagair cyfieithiad Sioned a phenderfynais ddilyn y cwrs MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd oherwydd ansawdd rhyfeddol y gyfadran a’r addewid am raglen academaidd bwrpasol.

Mae astudio yn yr Ysgol wedi fy ngalluogi i ddatblygu perthynas agos gyda Sioned ac mae ei brwdfrydedd heintus am y Mabinogi a’i haelioni rhyfeddol wedi sicrhau bod pob un o’n sesiynau gyda’n gilydd yn wirioneddol ddifyr. Rwy’n cyfrif fy hun yn lwcus iawn fy mod wedi cael y cyfle i weithio gydag academydd benywaidd mor ysbrydoledig a disglair.

Yn wir, mae’r holl gyfadran wedi bod yn groesawgar ac yn gefnogol dros ben. Fel dysgwr Cymraeg Americanaidd yn dod i’r rhaglen, roedd gen i nifer o anghenion a nodau penodol ar gyfer y flwyddyn. Mae’r gyfadran wedi mynd allan o’i ffordd i wneud i mi deimlo’n gynwysedig ac wedi bod yn hyblyg i gynnwys fy niddordebau ymchwil unigryw gan fy annog i’w hehangu ymhellach, gyda chefnogaeth yr adnoddau a’r cymorth i wneud hynny.

Rwyf i hefyd wedi bod yn ffodus i ymgymryd â lleoliad gwaith sydd wedi ategu fy nysgu. Bûm i’n gweithio gyda chwmni cynhyrchu artistig o’r enw Adverse Camber, sy’n hyrwyddo adroddwyr stori ar draws y DU, gan greu llwyfan ar gyfer datblygu darnau perfformiadol newydd cyffrous. Roeddwn i’n Gymrawd Cynhyrchu ar gyfer eu gŵyl, y Leeds Storytelling Takeover, oedd yn gyfle gwych i archwilio posibiliadau a heriau’r byd adrodd straeon cyfoes yn y DU.

Bu Caerdydd yn gefnlen ragorol i fy ymdrechion academaidd, gan gynnig canolfan ddiwylliannol fywiog.

Mae wedi bod yn bleser dod i adnabod aelodau o gymunedau theatr, adrodd straeon a chelfyddydau Caerdydd sydd wedi bod yn anhygoel o groesawgar. Yn ogystal â gwneud llawer o ffrindiau hyfryd, rwyf i hefyd wedi cael cyfle i archwilio posibilrwydd cynnal cynhyrchiad gweithdy o fy nrama’n seiliedig ar y Mabinogi, Trailing Rhiannon.

Mae Ysgol y Gymraeg yn gymuned wirioneddol arbennig a chlos. Fel myfyriwr yma, rwyf i wedi fy cael fy annog i deilwra fy astudiaethau i gyd-fynd â fy niddordebau, gydag arweiniad a mentora hael. Rwyf i hefyd wedi dod o hyd i gymuned ryfeddol o ffrindiau yng ngharfan y rhaglen MA, sydd wedi gwneud i mi deimlo’n gartrefol iawn yng Nghaerdydd.