Y tu hwnt i’r ddarlithfa …
15 Mawrth 2021Gallwch fod yn hyderus y cewch brofiad academaidd o’r radd flaenaf gyda ni yn Ysgol y Gymraeg – hyfforddiant arloesol, blaengar a chreadigol ym meysydd llenyddiaeth, diwylliant a sosioieithyddiaeth y Gymraeg. Byddwn yn rhoi’r sgiliau, yr wybodaeth a’r hyder sydd eu hangen arnoch i adael eich marc ar eich maes a bydd hyn oll yn helpu i lunio dyfodol gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Cymru. Ond, mae astudio gyda ni yng Nghaerdydd hefyd yn agor ystod eang o ddrysau cyffrous y tu hwnt i’r ddarlithfa (yn rhithwir neu fel arall).
Mae cymaint o grwpiau, gweithgareddau a mentrau yn y Brifysgol i’w darganfod a manteisio arnynt – bydd rhain yn cyfoethogi eich profiad cyffredinol, yn meithrin eich sgiliau ac yn agor drysau ar gyfer eich dyfodol. Bydd gennych hefyd y rhyddid i wneud pethau ar eich liwt eich hun gan ddefnyddio’ch amser i greu, ymgysylltu a darganfod diddordebau newydd.
Dyma lond llaw o’r pethau y mae ein myfyrwyr wedi bod yn eu gwneud yn ddiweddar – ar y campws ac oddi arno.
Newyddiaduraeth sydd wedi ennill gwobrau

Tirion Davies, sy’n fyfyriwr Cymraeg a Newyddiaduraeth yn y drydedd flwyddyn, yw Prif Olygydd papur newydd myfyrwyr hirsefydlog y Brifysgol, Gair Rhydd. Dechreuodd golygyddiaeth Tirion y llynedd pan gamodd i mewn i sgidiau myfyriwr arall o Ysgol y Gymraeg, sef Tomos Evans (Newyddiadurwr Digidol gyda S4C bellach). O dan arweinyddiaeth Tirion, mae’r papur newydd wedi parhau â’i rediad o ragoriaeth ac fe’i cydnabuwyd yn ddiweddar, mewn sawl categori, yng Ngwobrau Rhanbarthol 2021 y Gymdeithas Cyhoeddiadau Myfyrwyr. Cipiodd Tirion y wobr Newyddiadurwr Gorau a chafodd Taf-od (y mae ei chyfranwyr yn cynnwys sawl myfyriwr o’r Ysgol) ei enwi fel yr Adran Gymraeg Orau a Gair Rhydd fel y Cyhoeddiad Gorau.
Hyrwyddo’r Gymraeg

Mae dau fyfyriwr presennol, sef Steffan Alun Leonard ac Angharad Timms, wedi cael eu penodi’n Llysgenhadon Addysg Uwch y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Amcan cyffredinol eu rolau yw annog mwy o ddysgwyr o ysgolion a cholegau addysg bellach i ddilyn eu hastudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, gan amlinellu’r buddion a’r cyfleoedd o wneud hyn. O ystyried y cyfyngiadau a achoswyd gan y pandemig, bydd Steffan, Angharad a’u cyd-Lysgenhadon yn hogi eu sgiliau digidol ac yn cynrychioli’r Coleg mewn ffyrdd amrywiol ar-lein, gan gynnwys cyfrannu at gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol, blogio a chynhyrchu podlediad. Dyma gyfle gwych i ddatblygu a rhwydweithio ar draws y sector addysg yng Nghymru.
Sianelu egni creadigol

Cafodd Megan Angharad Hunter, myfyriwr yn ei hail flwyddyn, ddiwedd prysur i 2020 gyda lansiad ei nofel gyntaf, tu ô l i’r awyr. Wedi’i chyhoeddi gan y Lolfa, mae’r nofel wedi derbyn adolygiadau cadarnhaol gan ddarllenwyr a beirniaid fel ei gilydd ers ei chyhoeddi. Mae’n dilyn perthynas y ddau brif gymeriad, Deian ac Anest, sydd yn eu harddegau, gan roi llais i angst eu bywydau a sylw i themâu iechyd meddwl. Mae’n gyflawniad ysgubol ac mae’n amlwg fod gan Megan lais llenyddol ffres, gwreiddiol a phwerus. Bydd dilyn ei chamau nesaf yn fwy cyffrous fyth.
Creu cynnwys

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae llawer o fyfyrwyr wedi bod yn archwilio eu helfennau creadigol, nid yn unig ar gyfer creu podlediadau llais neu ddeunyddiau clyweledol digidol fel rhan o asesiadau newydd arloesol, ond hefyd ar gyfer defnyddio offer a llwyfannau newydd i rannu eu barn, eu safbwyntiau a’u doniau. O fynd yn feiral i lansio eu podlediadau eu hunain neu gyhoeddi cylchgrawn newydd – maen nhw’n defnyddio eu sgiliau, a’r Gymraeg, i greu cyfryngau iddyn nhw a’u cyfoedion.
Mae’n bosib y bydd llawer ohonoch yn adnabod Ellis Lloyd Jones fel ceidwad ‘TikTok Cymraeg’. Mae ei weithgareddau yn ystod y cyfnod clo wedi denu degau o filoedd o ddilynwyr iddo a lle fel gwestai ar Hansh S4C. Gan ddefnyddio platfform ar-lein arall i gyfathrebu, mae Deio Jones wedi bod yn tanio’r tonnau awyr digidol drwy gynhyrchu gwahanol bodlediadau, gan gynnwys Meindia dy Fusnes sy’n siarad â’r bobl y tu ôl i frandiau a busnesau Cymreig newydd. Hefyd, mae e-gylchgrawn newydd a ddatblygwyd gan Gymdeithas Iolo (cymdeithas i fyfyrwyr o’r Ysgol) wedi ymddangos am y tro cyntaf yn y gofod digidol. Cafwyd lansiad meddal ym mis Rhagfyr, ac mae’r tîm nawr yn gweithio ar rifyn newydd gyda dyluniad a chynllun gwell.
Mae’n wych gweld sgiliau, creadigrwydd ac ymrwymiad ein myfyrwyr ar waith, sy’n mynd â’r Gymraeg i gynulleidfaoedd a llwyfannau newydd.
*Noder os gwelwch yn dda nad yw Ysgol y Gymraeg yn gyfrifol am gynnwys a gynhyrchir yn annibynnol gan fyfyrwyr ac a rennir ar blatfformau personol ganddynt. Nid yw cyfeirio at y gweithgareddau hyn o angenrheidrwydd yn gyfystyr â chymeradwyaeth neu gefnogaeth ohonynt.