Y Santes Dwynwen – nid Sant Ffolant Cymru!
25 Ionawr 2019Darllenwch hanes Dwynwen gan Dr Dylan Foster Evans sydd yn awyddus i ni gofio nid Sant Ffolant Cymru yw hi.
Ymddangosodd y fersiwn Saesneg o’r erthygl hon yn wreiddiol yn The Conversation.
Mewn nifer o wledydd ledled y byd, Chwefror 14 – Dydd Gŵyl San Ffolant – yw diwrnod y cariadon. Ond yng Nghymru mae dyddiad arall gennym: Ionawr 25, sef Dydd Gŵyl Dwynwen.
Yn ôl y chwedl, merch i frenin canoloesol oedd Dwynwen a ddaeth i fod yn nawddsant cariadon Cymru. Fel y byddech yn ei ddisgwyl, mae ganddi ei stori garu ei hun. Ond nid yw’n un y byddem ni heddiw yn ei hystyried yn arbennig o ramantus.
Yn ôl y fersiwn cynharaf o’i chwedl, ymserchodd Dwynwen mewn gŵr ifanc o’r enw Maelon Dafodrill. Ond pan geisiodd ef droi’r berthynas yn un gorfforol, a hynny cyn priodi, fe ddychrynodd Dwynwen a’i adael. A hithau’n drist ac yn ofni ymateb Maelon, gweddïodd Dwynwen ar Dduw. Yn fuan iawn, fe oerodd nwydau ei chyn-gariad mewn modd digamsyniol – fe’i trowyd gan Dduw yn blocyn o iâ. Ac am iddi wrthod cynlluniau annhymig Maelon, fe ganiataodd Duw dri dymuniad i Dwynwen.
Ei dymuniad cyntaf oedd dadrewi Maelon ar unwaith. Yr ail oedd i Dduw wrando ar ei gweddïau ar ran “serchogion cywirgalon”, fel y byddent oll naill ai’n “cael eu cariadon” neu’n “cael gwellhad o’u cariadgur”. Ei dymuniad olaf oedd na ddylai hi byth orfod priodi; dywed y stori iddi dreulio gweddill ei hoes yn lleian yn yr eglwys anghysbell a enwir ar ei hôl, Llanddwyn ar Ynys Môn.

Llunio’r chwedl
Er bod y stori hon yn adleisio bucheddau seintiau eraill o’r Oesoedd Canol, y tro cyntaf iddi ymddangos oedd yng ngwaith y polymath hunanaddysgedig hwnnw Edward Williams (1747–1826), gŵr sy’n fwy hysbys i bawb dan yr enw Iolo Morganwg. Gan ddibynnu ar eich safbwynt, roedd Iolo naill ai’n athrylith creadigol neu’n ffugiwr digydwybod. Y naill ffordd neu’r llall, mae’n debyg nad yw stori Dwynwen yn ganoloesol o gwbl, ond yn hytrach yn gynnyrch dychymyg byw Iolo Morganwg.
Fodd bynnag, mae’n bosibl fod Dwynwen ei hun wedi bodoli go iawn: fe’i henwir mewn achau cynnar fel un o ferched niferus a dwyfol y brenin lled-chwedlonol hwnnw o’r bumed ganrif, Brychan Brycheiniog. Mae rhan o offeren Ladin o ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg yn nodi iddi gerdded ar y dŵr o Iwerddon i ddianc o afael y brenin Maelgwn Gwynedd – er efallai y buasai ffoi i Iwerddon yn gynllun gwell.
Mae ein gwybodaeth am gwlt Dwynwen wedi ei seilio’n bennaf ar ddwy gerdd Gymraeg. Cyfansoddwyd yr enwocaf gan fardd canoloesol mwyaf Cymru, Dafydd ap Gwilym, tua chanol y bedwaredd ganrif ar ddeg. Roedd y gerdd hon yn sicr yn hysbys i Iolo Morganwg. Ynddi, mae’r bardd cariadus yn galw am gymorth Dwynwen fel ‘llatai’ (negesydd serch) iddo ef a’i gariad Morfudd, a oedd yn briod â gŵr arall. Gan ei fod yn ymwybodol ei fod yn ymddwyn mewn modd moesol amheus, a dweud y lleiaf, mae Dafydd yn addo i’r santes na fydd hi’n colli ei lle yn y nefoedd trwy helpu’r cariadon. Yn wir, gan sicrhau ei fod wedi darparu ar gyfer pob achlysur, mae Dafydd hefyd yn galw ar Dduw i gadw gŵr Morfudd rhag ymyrryd pan fydd y cariadon yn cwrdd i garu yn y goedwig.
Mae’r gerdd arall, gan y bardd-offeiriad Dafydd Trefor, yn dyddio o tua 1500 ac mae’n disgrifio’r pererinion a fyddai’n tyrru i’w heglwys i weld delwedd o Dwynwen ac i geisio adferiad yn ei ffynhonnau sanctaidd. Parodd eu hoffrymau ariannol i’r eglwys dyfu’n gyfoethog. Ond ar ôl y Diwygiad Protestannaidd – yn anorfod felly – fe leihaodd enwogrwydd y santes. Er hynny, nid aeth Dwynwen erioed yn gwbl angof.
Ailweithio stori Dwynwen
Daeth Dwynwen i’r amlwg unwaith eto pan gyhoeddwyd detholiadau o lawysgrifau Iolo Morganwg, ynghyd â chyfieithiadau Saesneg, yn 1848. Fesul tipyn, fe sicrhaodd ei stori droedle iddi ei hun yn nychymyg y Cymry. Yn 1886, er enghraifft, cyfansoddodd Joseph Parry y gerddoriaeth ar gyfer ‘Dwynwen’, corws angerddol i’w ganu gan gorau meibion. Ac ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif, byddai papurau newydd yn y ddwy iaith o bryd i’w gilydd yn adrodd hanes Dwynwen, y ‘Celtic Venus’.
Yn y 1960au, wrth i’r broses o fasnacheiddio Dydd Gŵyl San Ffolant gynyddu ar garlam, cynhyrchwyd y cardiau Dydd Gŵyl Dwynwen cyntaf yng Nghymru. Ond yn wahanol i’r Ddwynwen ganoloesol – a oedd, fel y gwyddom, yn chwannog i doddi iâ – yn araf deg y llosgai fflam y Ddwynwen fodern. Yn wir, yn 1993 nododd un sylwebydd fod ymdrechion i greu traddodiad newydd iddi’n edwino.
Ond yn y ganrif hon, mae Dydd Gŵyl Dwynwen yn ffynnu unwaith eto, wedi ei hybu gan y cyfryngau a’r un math o gynigion arbennig ag a geir adeg Dydd Gŵyl San Ffolant. Ac er bod Dydd Gŵyl Dwynwen yn fwy cyfarwydd i siaradwyr Cymraeg nag i’r rheini nad ydynt yn medru’r iaith, mae hynny hefyd yn graddol newid.
Tybed, felly, a yw’n dweud rhywbeth am y Cymry fel cariadon fod ganddynt ddwy ŵyl i ddathlu serch: gwyliau Ffolant a Dwynwen? Mae’n debyg nad ydyw! Ond mae’r berthynas rhwng y ddwy ŵyl hyn yn ddifyr o amwys.
I ryw raddau, mae Dydd Gŵyl Dwynwen yn brotest erbyn y globaleiddio masnachol sy’n nodweddiadol o Ddydd Gŵyl San Ffolant. Ond mae hefyd yn ymgais i ddod o hyd i le yn yr un farchnad ar gyfer cynnyrch sy’n benodol Gymreig. Yn sicr, ni ddylid meddwl am Ddydd Gŵyl Dwynwen fel mater o ailbecynnu Dydd Gŵyl San Ffolant ar gyfer cynulleidfa Gymreig – byddai hynny fel marchnata Dewi Sant ar y sail mai ef yw ‘the St George of Wales’!
Felly, os cewch y cyfle ar Ionawr 25, gwnewch eich gorau i ddilyn dyheadau eich calon. Yr unig gyngor y byddwn i’n ei roi ichi yw hyn: peidiwch byth â galw Dwynwen ‘the Welsh Valentine’!