Skip to main content

Profiad myfyrwyr

Wyt ti newydd ddechrau ym Mhrifysgol Caerdydd?

18 Hydref 2022

Mae’r profiad prifysgol yn edrych yn wahanol i bawb ac yn gallu fod yn addasiad anodd. Dwyt ti ddim ar dy ben dy hun gydag unrhyw beth rwyt ti’n meddwl neu deimlo.

Er mwyn ceisio dechrau eich antur newydd ar y trywydd iawn, dyma ein top tips i chi sydd yn dechrau ym mhrifysgol Caerdydd eleni!


Gwna ymdrech i fod yn fflat mêt da
Mae bod yn gyfeillgar gyda phawb yn gwneud byw â phobl eraill llawer yn haws. P’un a ydych chi’n ffrindiau ai peidio, mae byw gyda grwp o bobl yn ymdrech grŵp.

Tip: Helpa gyda’r golchi llestri, glanhau cyffredinol a thasgau eraill yn y fflat!

Tip: Efallai galli di gynnig trefnu noson allan fel fflat neu i drefnu rhywbeth arall ar gyfer rhyw fath o sesiwn ‘bondio’, fel mynychu cwis mewn tafarn, mynd mas am fwyd, neu bowlio! Ond cofia i beidio rhoi gormod o bwysau ar bobl eraill.

Tip: Os wyt ti’n berson sydd yn joio mynd allan a dod yn ôl yn hwyr, cofia i barchu bod dy fflat mêts gyda ‘routine’ eu hun, hefyd.


Blaenoriaetha dy ddiogelwch
Gall bywyd prifysgol olygu llawer o brofiadau newydd, ond gwna’n siŵr dy fod yn teimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus ym mhopeth rwyt ti’n ei wneud.

Tip: Os oes gen ti unrhyw amheuaeth, cadwa’n glir.


Bydda’n gall gydag arian
Mae’n hawdd meddwl bod gen ti lwyth o arian i wario ac i joio gydag unwaith bod dy fencythiad myfyriwr yn dod trwyddo, ond cofia bod yr arian ddim yn mynd i bara am byth!

Tip: Mae posib defnyddio apiau ar dy ffôn i gadw golwg ar faint wyt ti’n ei wario. Mae creu cyllideb yn syniad da.


Gofala am dy iechyd
I lot o fyfyrwyr, dechrau yn y brifysgol yw’r tro cyntaf yn byw i ffwrdd o adre, heb oruchwyliaeth Mam a Dad. Mae’n hawdd anghofio i edrych ar ôl dy hun yn iawn trwy yfed gormod o alcohol, ddim cysgu digon, a ddim bwyta’n gall.

Gall bod mewn lle newydd gyda phobl anghyfarwydd hefyd achosi rhai i anghofio i estyn mas ac i siarad am eu problemau a’u gofidiau.

Tip: Gwna ymdrech i fwyta’n iach ac i edrych ar ôl dy iechyd meddwl. Paid â bod ofn gofyn am gymorth a chofia gofrestru gyda Meddyg Teulu.


Rho dy hun mas ‘na
Er pa mor ofnus mae’n gallu bod, cer amdani! Dyma’r ffordd i ennill profiad newydd, i gwrdd â phobl newydd ac i adael eich ‘comfort zone’!

Tip: Ymuna â chlybiau a chymdeithasau, siarada gyda phawb, a cher i ddigwyddiadau!


Paid
â chymharu
Mae profiadau pawb yn mynd i fod yn wahanol. Bydd rhai pobl yn gallu gwneud ffrindiau newydd yn gyflymach ac yn haws nac eraill, bydd rhai grwpiau o ffrindiau yn dod i’r brifysgol gyda’i gilydd a bydd well gan rhai pobl i gadw eu hun at eu hun.

Tip: Becsa am dy hun a gwnewch beth sydd yn dy wneud yn hapus!


Bydda’n ti dy hun
Mewn lle newydd, anghyfarwydd, mae’r temtasiwn yn gallu codi i actio mewn ffordd benodol er mwyn llwyddo i “ffitio mewn” ac i gwrdd â ffrindiau newydd, ond cofia ni fyddai’r act yn gallu para am byth. Paid ag ildio i bwysau i newid dy hun er mwyn ffitio mewn neu i greu ffrindiau.

Tip: Bydda’n ti dy hun, a mwynha!