Skip to main content

IaithÔl-raddedigProffesiynolProfiad myfyrwyrYmchwil ac arloesedd

Sylw ar… astudiaethau MA – profiad John

17 Mai 2021
Mewn cyfres o blogiau, cewch ragor o wybodaeth am sut brofiad yw astudio ar gyfer ein MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd.
Rhaglen arloesol a hyblyg sy’n galluogi myfyrwyr i ymchwilio i’r berthynas rhwng llenyddiaeth, iaith, diwylliant a hunaniaeth o safbwynt rhyngwladol a rhyngddisgyblaethol. Ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, mae graddedigion y rhaglen yn mynd ymlaen i yrfaoedd amrywiol ar draws sectorau, o addysg a pholisi, i dreftadaeth a chyfieithu.
Mae John Prendergast (MA 2017) bellach yn Gyfarwyddwr Swyddfa Cynllunio Gwyddeleg West Kerry gyda Tobar Dhuibhne. Yma, mae’n myfyrio ar y rheswm dros ddewis Prifysgol Caerdydd ac Ysgol y Gymraeg ar gyfer cwblhau astudiaeth ôl-raddedig, a’r profiadau academaidd a chymdeithasol sydd wedi cyfrannu at lwyddiant ei yrfa.

Roedd strwythur y rhaglen MA Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn cynnig cyfle i mi ehangu fy ngwybodaeth ar draws sawl disgyblaeth mewn un radd hollgynhwysol. Roedd y rhain yn cynnwys cyfraith iaith, sosioieithyddiaeth, hanes, adfywio iaith a llawer mwy. Cefais ysgoloriaeth gan Lywodraeth Iwerddon i ymgymryd â’r MA ac i ddysgu cwrs Cyflwyniad i Wyddeleg yn 2015, a oedd yn fonws mawr imi ddewis astudio’r MA Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.

Mae’r MA yn cael ei arwain gan arbenigwyr yn eu maes sy’n adnabyddus yn rhyngwladol am eu hysgolheictod, eu dealltwriaeth fanwl o’u maes a’r effaith maen nhw’n ei chael yn y pwnc hwnnw hefyd.

Roedd cynnwys y cwrs yn apelio ataf, yn ogystal â’r pwyslais ar waith ymchwil penodol dan arweiniad, a’r ffordd o’i feithrin, yn sefyll allan i mi. Roedd academyddion yn yr Adran yn ymwybodol iawn o sefyllfa’r iaith yn Iwerddon, felly roedd gallu astudio cyfraith a sosioieithyddiaeth yr Wyddeleg yn Ysgol y Gymraeg, trwy gyfrwng yr Wyddeleg, yn gyfle rhagorol. Roedd y cysylltiad rhwng Ysgol y Gymraeg a Llywodraeth Iwerddon yn dyst i gysylltiadau dwfn a rhwydweithio ffrwythlon yr Ysgol hefyd. Cefais fy swyno hefyd i ddysgu rhywfaint o Gymraeg!

Blwyddyn heb ei thebyg

Roedd cymaint yr oeddwn yn ei garu am Ysgol y Gymraeg a’r flwyddyn heb ei thebyg a dreuliais yno. Roedd y gefnogaeth gan y staff heb ei ail. Roedd pawb mor gyfeillgar, mor hawdd mynd atynt ac mor broffesiynol. Roedd carfan ein gradd Meistr yn meithrin awyrgylch cyfeillgar ac egnïol, yn ffafriol iawn i ddysgu gan gyfoedion a thyfu fel ymchwilydd. Roedd gan bawb eu diddordeb a’u ffocws ymchwil eu hunain, ac felly roedd cwrdd â’r grŵp mewn digwyddiadau ffurfiol ac anffurfiol yr Ysgol yn gyfle ffrwythlon iawn! Fe wnes i fwynhau strwythur yr MA yn fawr a sut roeddem yn gallu datblygu gwahanol sgiliau fel rhan o’n hastudiaethau. Roedd cymaint o wefr ynglŷn â bod yn rhan o fywyd ôl-raddedig yn Ysgol y Gymraeg, a thyfais fel person ac fel ymchwilydd o ganlyniad i hyn.

“Fe wnes i fwynhau natur ryngddisgyblaethol fy niddordebau ymchwil yn fawr, a sut y cawsant eu llywio’n helaeth gan ymchwil a chyflwyniadau cyfoes gan y rhai yn Ysgol y Gymraeg a’r tu allan iddi. Roedd fy ymchwil i gyfiawnder ieithyddol yn fan cychwyn da imi ddeall yn glir y ffordd orau i hyrwyddo’r drafodaeth ynglŷn â hyrwyddo’r iaith Wyddeleg yn Iwerddon. Roedd gallu astudio’r Gymraeg o lefel dechreuwr a Ffrangeg ar lefel uwch yn uchafbwynt personol hefyd.

Amgylchedd ymchwil arbenigol sy’n meithrin

Teitl fy nhraethawd ymchwil oedd “A ddylid rhoi hawliau ieithyddol i fewnfudwyr?” a llwyddodd i ddatgelu bylchau yn y gyfraith, gan ddadlau bod rhai grwpiau yn haeddu hawliau iaith sy’n canolbwyntio ar oddefgarwch. Defnyddiodd Weriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon fel astudiaethau achos (awdurdodaethau lle mae’r Wyddeleg yn iaith swyddogol a lle nad ydyw) er mwyn asesu sut y gallai hyn weithio’n ymarferol. Roedd fframwaith y traethawd ymchwil o dan egwyddor cyfiawnder ieithyddol, yn yr ystyr bod gan bob iaith werth cyfartal ac y dylid ei thrin felly. Dewisais y pwnc hwn gan fy mod eisiau adeiladu ar waith ymchwil flaenorol a’i gymhwyso i fater cyfoes ymarferol sy’n effeithio ar siarad ieithoedd fel Gwyddeleg. Cefais yr Athro Diarmait Mac Giolla Chríost fel goruchwyliwr fy nhraethawd ymchwil a’m cefnogodd drwy bob cam – o’r gwaith ymchwil a drafftio’r gwaith hwn. Roedd mor ddeallus ac arbenigol wrth roi cyngor, ac rwy’n falch iawn fy mod wedi gallu gweithio o dan arweiniad o’r fath.

Cyfleoedd proffesiynol

Fel rhan o’r MA, hedfanais i Ddulyn i weithio am wythnos gyda Conradh na Gaeilge, sefydliad sy’n hyrwyddo’r Wyddeleg. Roedd yn brofiad gwych a’m galluogodd i ddysgu rhai sgiliau ymarferol a chael mewnwelediad i waith sefydliad rwy’n ei edmygu’n fawr. Roedd yn rhaid i mi wneud rhai cysylltiadau proffesiynol ar y pryd, a oedd yn ddefnyddiol wrth symud ymlaen gan fy mod bellach yn aelod o Coiste Gnó (Pwyllgor Gweithredol) y sefydliad. Fe wnes i hefyd ddatblygu rhywfaint o sgiliau cyfathrebu, trefnu a gwaith gweinyddol yn ogystal â gallu trin fy hun mewn sefydliad prysur yn ystod wythnos hyd yn oed yn brysurach (cyrhaeddais yn wythnos eu cynhadledd genedlaethol flynyddol!).

Erbyn hyn, fi yw Cyfarwyddwr Swyddfa Cynllunio Gwyddeleg West Kerry gyda Tobar Dhuibhne. Mae Cynllun Iaith West Kerry yn gyfres o gamau a ysgrifennwyd gan y gymuned, a gymeradwywyd gan y Wladwriaeth, sy’n ceisio cynyddu nifer y siaradwyr Gwyddeleg yn Gaeltacht West Kerry (rhanbarth sy’n siarad Gwyddeleg). Rwy’n gyfrifol am weithredu’r camau hyn a rheoli’r gyllideb dros oes saith mlynedd y Cynllun. Mae’n rôl amrywiol a heriol iawn ac rwyf wrth fy modd fy mod yn arwain yr ymdrechion hyn. Heb os, fe wnaeth y rhaglen MA fy helpu i sicrhau’r rôl hon. Roeddwn i’n gallu (ac rwy’n dal i allu) tynnu ar y wybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol a gasglwyd gennyf yn ystod fy astudiaethau, er mwyn hyrwyddo’r achos dros siarad Gwyddeleg yn Gaeltacht West Kerry. Trwy feithrin fy sgiliau cyflwyno, fy sgiliau cyfathrebu, fy sgiliau ymchwil a’m sgiliau ysgrifennu, yn sicr mae’r rhaglen Meistr yn parhau i’m cefnogi yn y proffesiwn a ddewiswyd gennyf.

Difaru dim

Roedd Caerdydd yn wych! Doeddwn i erioed wedi bod yng Nghaerdydd cyn cyrraedd am yr MA, ac roedd mor hawdd gwneud ffrindiau, archwilio’r ddinas a ffynnu yn fy ngwaith academaidd. Mae’r ddinas o faint ardderchog ac mae ganddi awyrgylch drydanol bob amser. Roedd rhywbeth yn digwydd bob amser, neu rywbeth i’w wneud yng Nghaerdydd.

Os ydych chi’n ystyried yr MA Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Ewch amdani. Fyddwch chi ddim yn difaru.  Mae’n gyfle unigryw i ddatblygu eich diddordebau penodol mewn amgylchedd cefnogol a strwythuredig. Edrychaf yn ôl gyda’r atgofion melysaf a’r diolch mwyaf i mi ddewis dilyn y cwrs MA Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Caerdydd.