Skip to main content

CymunedIaithProfiad myfyrwyrYmchwil ac arloeseddYmgysylltu

Sosioieithyddion yn teithio i’r Almaen i’r gynhadledd wyneb-yn-wyneb gyntaf ers y pandemig

27 Gorffennaf 2022

Jack Pulman Slater, ymgeisydd PhD yn Ysgol y Gymraeg, sy’n rhannu ei brofiad ar daith ddiweddar i’r Almaen gyda chyd-fyfyrwyr, staff academaidd a Bardd Cenedlaethol Cymru oedd yn dod i ddiwedd ei dymor.

Ym mis Mehefin, cychwynnais ar daith i gynhadledd ddeuddydd yn Delmenhorst yn Sacsoni Isaf yn yr Almaen gyda 4 ymchwilydd ôl-raddedig arall o Ysgol y Gymraeg sy’n canolbwyntio ar sosioieithyddiaeth. Hon oedd y gynhadledd wyneb-yn-wyneb gyntaf i’r rhan fwyaf ohonom fod iddi ers dechrau’r pandemig, ac i rai cyd-fyfyrwyr, y gynhadledd gyntaf yn eu gyrfaoedd doethurol newydd.

Dechreuodd y daith yn gynnar ym maes awyr gorlawn Stansted; roedd Iwan Wyn Rees in loco parentis academaidd ac fe’n tywysodd yn llwyddiannus i ogledd yr Almaen lle byddem yn ymuno ag ôl-raddedigion o’r Almaen a Malta mewn “cynhadledd driongli”. Trefnwyd y digwyddiad gan yr Athro Thomas Stolz yn Universität Bremen ac fe’i cynhaliwyd yn yr Hanse-Wissenschafftskolleg (HWK), sefydliad ymchwil gwyddonol colegol yng ngogledd yr Almaen.

Yno gyda ni hefyd yr oedd Ifor ap Glyn, yn wythnosau olaf ei gyfnod yn Fardd Cenedlaethol Cymru. Daeth Ifor â’r diwrnod cyntaf o gyflwyniadau i ben drwy gyflwyno egwyddorion y gynghanedd i’n cyd-gynadleddwyr rhyngwladol. Cawsom hefyd fwynhau rhai o gerddi Ifor ei hun yn cael eu hadrodd ganddo ar themâu Cymru, iaith a phwysigrwydd meithrin a chynnal cysylltiadau Ewropeaidd yn ein byd ôl-Frexit.

Roedd tair iaith wahanol a’u siaradwyr yn destun ein hymchwiliadau ieithyddol: Isel Almaeneg, Cymraeg a Malteg. Er bod y rhain yn ieithoedd â phroffiliau diwylliannol, hanesyddol, gwleidyddol ac ieithyddol gwahanol, mae cryn dipyn o orgyffwrdd rhyngddynt yng nghyd-destun byd-eang ieithoedd lleiafrifol a’u goroesiad a’u defnydd heddiw.

Er bod digonedd o gyfleoedd wedi bod ar gyfer trafod ar-lein yn ystod anterth y cyfyngiadau ar ein bywydau academaidd a phersonol ers mis Mawrth 2020, dyw’r rhain ddim cystal â chwrdd yn y byd go iawn i sgwrsio a dysgu gan gyd-ymchwilwyr. Ym myd zoom, y gorau y gallwch chi obeithio amdano ar ôl cyflwyniad yw sylw beirniadol cyflym yn dod allan o sgwâr du anhysbys, neu ambell sylw wedi’i nodi’n frysiog yn y sgwrs. Ond yn Delmenhorst roedden ni’n gallu eistedd allan yn haul Mehefin, yn mwynhau cyri betys ac ambell bilsner lleol. Yr amgylchedd perffaith i barhau â chyflwyniadau a thrafodaethau trylwyr a ffurfiol y gynhadledd. Cefais adborth amhrisiadwy gan fy nghyfoedion Cymreig a rhyngwladol.

Ond i mi, roedd hyn yn fwy na dim ond cyfle am adborth wyneb-yn-wyneb gan ymchwilwyr eraill yn amgylchedd godidog yr HWK. Roedd yn gyfle hefyd imi ddysgu am waith sosioieithyddol cyffrous fy nghyd-ymchwilwyr ôl-raddedig yn Ysgol y Gymraeg. Roedd hefyd yn fy ngwneud i’r falch i fod yn rhan o’n tîm bach, ond academaidd ddisglair, o sosioieithyddion.

Mae PhD Ianto Gruffydd a gwblhawyd yn ddiweddar yn dadansoddi ffurfiant tafodiaith Gymraeg newydd sy’n ymddangos yng Nghaerdydd. Ym mhrosiect Katharine Young, sy’n tynnu ar ei lleoliad ymchwil gyda Llywodraeth Cymru, ceir cipolwg pwysig ar gymhwysedd sosioieithyddol arddegwyr sy’n siarad Cymraeg. Bydd gwaith Nia Eyre yn cynnig yr ymchwiliadau cyntaf o ganfyddiadau siaradwyr o acenion Cymraeg. Bydd prosiect PhD Lynne Davies yn ystyried profiadau plant sy’n dysgu’r Gymraeg yn hwyr mewn lleoliadau trochi. Roedd gweld yr holl waith yn cael ei gyflwyno ar lwyfan rhyngwladol yn gwneud mwy na gosod y Gymraeg mewn lleoliad rhyngwladol. Roedd yn dangos hefyd fod gan y Gymraeg botensial enfawr i gael effaith ysgolheigaidd ac yn y byd real y tu hwnt i Gymru.

Rydym yn hynod ddiolchgar i Iwan Wyn Rees a Thomas Stolz am drefnu’r digwyddiad. Hoffem hefyd ddiolch i’r HWK a’u staff am y croeso cynnes. Ar wahân i ddiolch i Ifor am ei gwmni a’i ddatganiadau barddoniaeth difyr, mae angen inni hefyd ddiolch iddo am ei sgiliau Almaeneg (yn enwedig wrth ddarparu cyfieithu ar y pryd yn y dafarn). Fel bob amser, mae gan Katharine, Nia, Ianto, Lynne a fi ddyled i’r staff gwasanaethau proffesiynol yn yr ysgol am eu cymorth gweinyddol yn trefnu’r daith.

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at barhau â’r cysylltiadau a wnaed ar y daith gan edrych ar ffyrdd eraill o gydweithio gydag Universität Bremen a’i Malta-Zentrum.

Awdur: Jack Pulman Slater