Skip to main content

Diwrnod YmweldDysguProfiad myfyrwyrRecriwtioYmgysylltu

Pum rheswm pam y dylech ddod i Ddiwrnod Ymweld

7 Chwefror 2019

Mae Cadi Thomas, ein Swyddog Cefnogi Myfyrwyr, yn gyfrifol am drefnu ein Diwrnod Ymweld. Dyma ei rhesymau hi pam y dylech chi ddod draw.

Gyda dyddiad cau UCAS newydd fod, bydd gwahoddiadau i Ddiwrnodau Ymweld gwahanol Brifysgolion yn dechrau eich cyrraedd. Mae dewis cwrs gradd a phrifysgol yn benderfyniad cyffrous a phwysig felly mae’n hanfodol gwneud digon o waith ymchwil a mynychu gymaint o Ddiwrnodau Ymweld ag y medrwch chi er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn gwneud y dewis gorau posibl.

Fe fyddwn ni yn cynnal Diwrnod Ymweld arbennig ar gyfer ymgeiswyr UCAS sydd wedi derbyn cynnigion gennym ar ddydd Sadwrn 16 Chwefror. Mae’n ddiwrnod hwyliog sydd yn gyfle gwych i ddysgu mwy am y cwrs ac am fywyd fel myfyriwr yma yn y brifddinas.

Yn ystod y diwrnod, bydd cyfle i ddysgu am ein modiwlau (mae’r darlithwyr yn hynod gystadleuol wrth rasio’n erbyn y cloc i werthu eu modiwl mewn munud), clywed i ble mae’r radd wedi mynd â rhai o’n cyn-fyfyrwyr, ac i gael blas ar yr hyn mae ein myfyrwyr ni yn ei wneud y tu hwnt i’r ‘stafell seminar’! Eleni, bydd pob ymgeisydd sydd yn ymuno â ni ar y Diwrnod Ymweld yn cael sgwrs un wrth un gydag aelod o’r staff academaidd. Bydd y sgwrs yma yn gyfle inni gael dysgu mwy amdaoch chi fel unigolyn ac i chi gael holi un o’n academyddion am bob elfen o’r cwrs.  Ac ar ben hynny i gyd… cinio gwerth chweil!

5 rheswm pam y dylech ddod i Ddiwrnod Ymweld

Dod i adnabod y ddinas –Mae Caerdydd yn ddinas fywiog a chartrefol ac mae dod ar gyfer Diwrnod Ymweld yn gyfle perffaith i ddod i adnabod y ddinas ac i weld a allwch ddychmygu eich hunain yn byw yma am y tair blynedd nesaf!

Cwrdd â rhai o’n staff academaidd – Does dim gwell ffordd o ddysgu am y cwrs na thrwy siarad â’r staff sydd yn dysgu’r modiwlau. Cewch wybod am gynnwys y cwrs a’r modiwlau, eu gwahanol ddulliau dysgu a’u diddordebau ymchwil personol. Meddyliwch o flaen llaw am gwestiynau i’w gofyn – i’r staff neu i’r myfyrwyr. Gwnewch y mwyaf o’r cyfle i’w holi nhw – does dim y fath beth â chwestiwn gwirion!

Cael blas ar gynnwys y cwrs –Gall yr un pwnc gael ei ddysgu yn wahanol mewn gwahanol brifysgolion. Mae’n bwysig dysgu am gynnwys y modiwlau a sut maent yn cael eu dysgu. Gall rhai modiwlau gael eu dysgu drwy gyfrwng gweithdai rhyngweithiol, bydd eraill yn ddarlithoedd traddodiadol. Mae’n bwysig hefyd wybod beth fydd y dulliau asesu – rydyn ni’n gweithio’n galed i sicrhau cydbwysedd rhwng arholiadau, gwaith cwrs a chyflwyniadau.  

Cwrdd â ffrindiau newydd –Bydd pawb sydd ar y Diwrnod Ymweld wedi gwneud cais i astudio yr un cwrs â chi yma yng Nghaerdydd, felly peidiwch â bod ofn dechrau sgwrs. Efallai mai’r person sydd yn eistedd nesaf atoch chi fydd eich ffrind gorau chi trwy’ch cyfnod yn y coleg!

Felly, da chi, dewch draw i’n gweld ar Chwefror 16eg. ‘Dw i a phawb yn yr Ysgol yn edrych ‘mlaen at eich croesawu chi aton ni!

Roedd mynychu Diwrnodau Agored yn hanfodol imi wrth ddewis cwrs, gan fy mod yn cael blas ar wahanol fodiwlau oedd Prifysgolion yn eu cynnig. Roedd hefyd yn gyfle imi ofyn cwestiynau am y cwrs neu am fywyd tu hwnt i’r ochr academaidd, a hynny trwy ofyn i ddarlithydd neu fyfyriwr ar y diwrnod. 

Osian Davies, BA yn Y Gymraeg, Blwyddyn Olaf

Cofrestru ar gyfer y Diwrnod Ymweld.