Skip to main content

DiwylliantIaithÔl-raddedigPolisiYmchwil ac arloesedd

Potensial pobl amlieithog

30 Hydref 2019

Y myfyriwr PhD Kaisa Pankakoski sy’n sôn am ei hymchwil a pham y dylem fuddsoddi mewn sgiliau iaith plant amlieithog yn y DU.

Mae globaleiddio, goruwchamrywiaeth a pholisïau sy’n hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol wedi arwain at nifer cynyddol o blant a allai fod yn amlieithog drwy’r byd. Ond nid yw pob plentyn sy’n cael ei eni i deulu amlieithog yn cael ei fagu’n siarad dwy iaith neu fwy. Er bod rhai teuluoedd yn gallu trosglwyddo ieithoedd y cartref, mae eraill yn ei chael yn anodd, gan olygu mai dim ond gwybodaeth oddefol neu gyfyngedig o’r iaith dreftadaeth sydd gan y plant.

Ceir amrywiaeth o ffactorau seicolegol, cymdeithasol ac addysgol sy’n pennu sut mae plant yn caffael ac yn defnyddio eu hieithoedd. Gall sawl agwedd ddylanwadu ar drosglwyddo ieithoedd lleiafrifol – mae  polisïau iaith lleol, strategaethau teuluoedd ar gyfer trosglwyddo iaith, y cyd-destun cymdeithasol, agweddau, y system addysg, cefnogaeth, y math o deulu neu symudedd teuluol i gyd yn chwarae rhan yn y broses o gaffael iaith.

Pam hyrwyddo amlieithrwydd yn y DU?

Er gwaethaf cenedlaethau o fewnfudo a hyrwyddo dysgu ieithoedd mewn ysgolion, mae poblogaeth y DU yn bennaf yn unieithog. Yn ôl Eurobarometer doedd dros hanner poblogaeth y DU (65.4%) ddim yn gallu siarad unrhyw iaith dramor ac roedd plant yn y DU y tu ôl i’w cymheiriaid cyfandirol o ran dysgu ieithoedd tramor modern.

Mae economi, twf ariannol ac allforion Prydain yn dioddef o ganlyniad i sgiliau iaith gwan ei dinasyddion. Mae sgiliau iaith yn hanfodol ar gyfer cwmnïau amlwladol mawr ond hefyd i fentrau llai: mae peidio â chael iaith gyffredin yn rhwystr sylweddol wrth fasnachu.

Mae ymchwil gan Yr Athro James Foreman-Peck yn Ysgol Busnes Caerdydd yn dangos bod diffyg sgiliau iaith Prydeinwyr yn costio £48 biliwn i economi’r DU bob blwyddyn, neu 3.5% o’r Cynnyrch Domestig Gros. Gyda gostyngiad cyffredinol yn y nifer sy’n dewis ieithoedd tramor modern ar gyfer TGAU a Safon Uwch gallai hyn gynyddu’n sylweddol.

Mae sgiliau ieithyddol yn mynd law yn llaw â ffurfio hunaniaeth ddiwylliannol plentyn. Dywed erthygl 30 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau  bod gan bob plentyn hawl i dreftadaeth neu iaith leiafrifol. Mae llawer o ymchwilwyr yn cytuno y bydd rhoi genedigaeth-fraint eu hieithoedd cartref i blant yn cael effaith gadarnhaol ar eu lles ac ar ddyfodol ein gwlad. Mae’r diffyg cefnogaeth i ieithoedd treftadaeth a goblygiadau posibl Brexit i’r ieithoedd lleiafrifol cyfunfrodorol yn bygwth yr hawl sylfaenol hon.

Cymharu dwy ddinas ddwyieithog

Roeddwn i am wybod sut mae gwahanol deuluoedd yn ymdopi ag amlieithrwydd, beth y gall rhieni ei wneud i drosglwyddo ieithoedd niferus i’w plant a beth yw barn pobl amlieithog y dyfodol. Mae fy astudiaeth yn cymharu’r sefyllfa ar sail pedwar ar ddeg o astudiaethau achos gyda theuluoedd tairieithog yn rhannau swyddogol ddwyieithog prif ddinasoedd y Ffindir a Chymru. Y rheswm dros gymharu ardaloedd Helsinki a Chaerdydd yw bod ganddyn nhw agweddau gwahanol at addysg ddwyieithog a hyrwyddo iaith treftadaeth ynghyd â nifer o elfennau tebyg gan gynnwys poblogaeth iaith leiafrifol weladwy a chefnogaeth sylweddol i iaith leiafrifol gan y llywodraethau.

Yn y Ffindir ceir sawl menter yn cefnogi repertoire iaith plant amlieithog: addysg iaith am ddim yn y cartref, gwersi dwyieithog, gwersi Ffinneg neu Swedeg fel ail iaith, ac astudiaethau ieithoedd tramor cynnar yn dechrau’n saith oed. Ar y llaw arall mae’r cynlluniau yng Nghymru wedi arwain at godiad sydyn yn y nifer o siaradwyr Cymraeg ac mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed uchelgeisiol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Effaith

Gallai canlyniadau fy ymchwil lywio llunwyr polisïau i gynllunio polisïau iaith wrth i bolisi’r ddwy ddinas gael eu cymharu. A fyddai modd cyflwyno rhai mentrau iaith penodol sy’n gweithio yn y Ffindir i Gymru neu ar draws y DU?

Bydd yr ymchwil hefyd yn helpu rhieni sy’n ystyried magu eu plant yn amlieithog gan gynnig adnoddau’n seiliedig ar dystiolaeth, y mae eu hangen yn fawr. Yn y ddwy ardal i mi ymchwilio ynddyn nhw roedd y rhan fwyaf o’r plant yn cael eu hamlygu i’r ddwy iaith swyddogol i ryw raddau a phan ychwanegir trydedd iaith yn y cartref, gall pethau fod yn fwy cymhleth na gyda datblygiad iaith plant dwyieithog neu unieithog.

Cenedlaethau amlieithog y dyfodol

Caiff y genhedlaeth amlieithog arfaethedig sy’n tyfu yn y DU a’r Ffindir eu hamlygu i wahanol amgylcheddau. Mae rhai pobl o blith y grŵp cynyddol hwn o blant diwylliannol ac  ieithyddol amrywiol yn derbyn cymorth i fodloni eu potensial ieithyddol.

Ond soniodd y teuluoedd y bûm i’n cyfweld â nhw am heriau tebyg gan gynnwys amlieithrwydd aflwyddiannus, lled-ieithrwydd, diffyg cefnogaeth gan gymdeithas, hiliaeth, pris uchel amlieithrwydd, stigma bod yn siaradwr iaith leiafrifol, torri cyfathrebu rhwng rhiant a phlentyn ac effaith niweidiol refferendwm Brexit ar deuluoedd amlieithog. Mae’r themâu anghysurus hyn ymhell o’r amlieithwyr hapus neu ddatblygiad dwyieithog cytûn  neu brofiad o les mewn sefyllfa cyswllt iaith gyda phlant ifanc a’u teuluoedd.

Mae Kaisa Pankakoski yn fyfyriwr ymchwil yn Ysgol y Gymraeg. Ynghyd â’i hastudiaethau, gwaith cyfieithu a rhedeg ysgol Ffinneg Caerdydd, mae’n ysgrifennu canllaw i rieni plant amlieithog ac erthyglau am blant amrywiol yn ieithyddol.

Mae The Asiantaeth Genedlaethol Addysg y Ffindir, y Gymdeithas Ieithegol, Cronfeydd i raddedigion benywaidd ac Adran Ffinneg y Ffederasiwn Gweinyddiaeth Gyhoeddus Nordig wedi dyfarnu cyllid ar gyfer ei hymchwil i amlieithrwydd.