Skip to main content

CymunedCynaliadwyedd

Peintio’r byd yn … wyrdd

21 Mai 2021

Gyda’r dyddiad cau ar gyfer Gwobr Effaith Werdd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) yn prysur agosáu, dyma rannu rhai o’r arferion da yr ydym wedi eu rhoi ar waith dros y misoedd diwethaf.  Ar ôl inni ennill y wobr Efydd llynedd, penderfynwyd mynd am y wobr Aur eleni, ac er ein bod yn uchelgeisiol rydym yn gobeithio bod ein gwaith caled yn adlewyrchu ein brwdfrydedd i weithio a byw yn fwy gwyrdd.

Mae’r cynllun Effaith Werdd yn rhaglen flynyddol sydd yn annog staff a myfyrwyr i newid eu hymddygiad o ran cynaliadwyedd a bod yn fwy gwyrdd yn y gwaith. Eleni, gan fod y mwyafrif o staff yn gweithio o adref, mae’r amcanion yn ymwneud â’r cartref. Yn rhan o’r amcanion eleni bu gofyn inni edrych ar amryw o faterion gan gynnwys ein defnydd o ddŵr ac ynni adref, ein harferion teithio, bioamrywiaeth a bwyd.

Yn ystod Wythnos Gynaliadwyedd y Brifysgol ym mis Mawrth, fe gynhalion ni ddigwyddiad cynaliadwyedd i staff Ysgol y Gymraeg gyda’r bwriad o drafod ein harferion arbed dŵr ac ynni. Rhannwyd llawer o syniadau gwych fel casglu dŵr glaw mewn casgenni neu fwcedi yn yr ardd a rhoi bricsen yn nhanc y tŷ bach i arbed dŵr wrth ddefnyddio’r flysh! Cafwyd trafodaeth hefyd am siopa diwastraff a buddion amgylcheddol gweithio o adref.

Gan fod ein harferion teithio i’r gwaith wedi newid cryn dipyn ers dechrau’r pandemig, bydd criw o staff  yn cymryd rhan yn Her Cyfrif Camau 2021 y Brifysgol i sicrhau ein bod yn cadw’n heini a chael awyr iach.

Byddwn yn defnyddio’r amser rydym wedi ei elwa wrth beidio teithio i’r gwaith fel ysgogiad i symud a mynd allan am dro. Bydd y sialens yn dechrau ar y 24ain o Fai ac yn para am 6 wythnos. Bydd gofyn inni gerdded mwy na 10,000 cam y diwrnod i wneud yn siŵr fod ein tîm ni ar y brig ar ddiwedd y cyfnod!

Roedd gofyn hefyd i aelodau o’r tîm ystyried newid ein harferion bwyta ac awgrymwyd i ni fwyta llai o gig neu brynu cynnyrch lleol. Felly, drwy gydol mis Mawrth, fe wnaeth Cadi Thomas (ein Rheolwr Academaidd) leihau faint o gig oedd hi’n ei fwyta a gwneud ymdrech i fwyta mwy o gynnyrch tymhorol. Fe ddilynais i ddiet figan am y tro cyntaf ar ôl dilyn diet ‘pescatarian’ ers rhai blynyddoedd. Ers mis Mawrth, dwi wedi parhau i beidio â bwyta pysgod. Fy nod yw prynu pysgod o farchnadoedd lleol o bryd i’w gilydd o hyn ymlaen.

Un amcan arall roedd angen gweithredu arno oedd hyrwyddo 17 Nod Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Mae’r 17 nod byd-eang yma yn cydnabod bod angen i ddiweddu tlodi fynd law yn llaw â chynlluniau i wella iechyd ac addysg, lleihau anghydraddoldeb a sbarduno twf economaidd wrth fynd i’r afael â newid yr hinsawdd a gweithio i warchod ein cefnforoedd a’n coedwigoedd. Mae’r nodau yn cynnwys sicrhau bywydau iach a hybu llesiant i bawb o bob oed; gwneud yn siŵr fod gan bawb fynediad at ddŵr ac ynni diogel a glan; a chadw, adfer a hybu natur a’r anifeiliaid sy’n byw ynddi.

Unwaith y byddwn ni’n ôl yn gweithio ar y campws bydd modd inni barhau â rhai o’r arferion da sydd ar waith yn ein cartrefi.

Mae’r Brifysgol hefyd wedi buddsoddi mewn biniau ailgylchu newydd ar draws y campws sydd yn ein galluogi i ailgylchu gwydr, plastig, caniau, papur, cardfwrdd a hylif ar wahân ynghyd â biniau gwastraff bwyd ar gyfer ystafelloedd coffi’r staff.

Os oes gennych ddiddordeb – fel rhan o’n cymuned o staff a myfyrwyr – mewn rhannu eich syniadau gyda ni ar sut i wneud yr Ysgol a’r Brifysgol yn fwy gwyrdd a byw yn fwy cynaliadwy, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at cymraeg@caerdydd.ac.uk, bydd cyfle hefyd i fod yn rhan o’n cais Effaith Werdd yn 2022.

Awdur: Marged James