Mis ym Mhatagonia
28 Tachwedd 2018
Osian Wynn Davies yn adlewyrchu ar ei brofiadau yn y Wladfa, dan nawdd Ysgol y Gymraeg a Banco Santander.
Dros yr haf, bûm yn ddigon ffodus i dreulio cyfnod o fis draw ym Mhatagonia fel rhan o brosiect hybu’r Gymraeg yno, ac roedd y profiad yn un wirioneddol anhygoel. Gan fy mod yn astudio gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, roeddwn yn gymwys i geisio am ysgoloriaeth Santander yr Adran, a oedd yn galluogi pum myfyriwr i deithio i Batagonia a threulio mis yn ymweld a chynorthwyo mewn ysgolion, cynnal sesiynau Cymraeg i oedolion a llawer mwy.
Aeth tri ohonom i ardal yr Andes, sef pentrefi Trevelin ac Esquel, a dwy arall yn croesi’r paith i fynd i’r Dyffryn, sef y Gaiman a Threlew. Doedd gen i ddim syniad beth i’w ddisgwyl. Roeddwn yn amlwg yn ymwybodol fod y Gymraeg yn cael ei siarad yno, ond heblaw am hynny, roedd y lle a’r diwylliant yn un diarth iawn imi.
Ein rôl ni fel myfyrwyr
Cyn cyrraedd Trevelin, fe gawsom amserlen wythnosol o ddigwyddiadau a gweithgareddau roedd disgwyl inni eu mynychu. Roedd cael cymaint o ddigwyddiadau yn ein galluogi i gyfarfod â nifer o bobl o ddiwylliannau a chefndiroedd gwahanol, a roedd hynny’n llawer gwell na chael amserlen wag a dim byd i’w wneud am fis.
Bwriad ein cael ni fel Cymry mewn sesiynau oedd i drigolion Trevelin ac Esquel gael cyfle i’n gweld ni, fel pobl ifanc, yn siaradwyr Cymraeg rhugl. Gan mai Sbaeneg yw eu hiaith gyntaf yna, prin yw’r cyfle i bobl gael siarad Cymraeg, felly roedd ein cael ni fel Cymry yno yn gyfle iddyn nhw gael ymarfer eu Cymraeg. Un o fy uchafbwyntiau i oedd cael mynd i Ysgol y Cwm bob bore, sef ysgol gynradd ddwyieithog yn Nhrevelin. Dim ond dau ddosbarth oedd yn yr ysgol fach, ac roeddwn i yn helpu yng ngwersi Cymraeg blwyddyn 2 bob bore, yn ogystal â chymryd rhan yn y sesiynau ymarfer corff i flynyddoedd 1 a 2 yn ddiweddarach yn y bore. Er nad oedd gan blant blwyddyn 2 lawer o Gymraeg, roedd hi’n bleser cael helpu yn y gwersi a gweld eu datblygiad a chreu ffrindiau bach newydd. Doedd dim posib cael sgwrs gyda’r plant yn Gymraeg, ond roeddent yn gwybod geiriau, megis enwau anifeiliaid, y tymhorau, rhifau, enwau’r misoedd, ac yn y blaen. Un frawddeg oeddwn yn gallu ei ofyn a gwybod bod pob un yn gallu ateb oedd Sut wyt ti.
Yn ystod y nos, roeddem yn mynd i sesiynau hwyliog i blant bach yn Esquel oedd yn digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd hyn yn cynnwys chwarae offerynnau neu ddawnsio neu chwarae gemau, ond ein bod yn eu gwneud drwy siarad Cymraeg er mwyn iddynt gael mewnbwn wythnosol o Gymraeg. Roeddem hefyd wedi cael gwahoddiad i fynychu sesiynau dawnsio gwerin criw ifanc Trevelin ddwywaith yr wythnos. Roeddem hefyd wedi cael gwahoddiad i ganu yng nghôr Cymraeg Esquel bob dydd Sadwrn, felly roedd hi’n braf cael cyfarfod â chymaint o oedolion rhugl yn y Gymraeg miloedd ar filoedd o filltiroedd i ffwrdd o Gymru.
Hamddena
Er bod ein hamserlen yn un llawn iawn, roeddem yn benderfynol o dreulio ein hamser sbâr drwy fynd i ymweld â llefydd gwahanol o gwmpas yr ardal. Roedd ein ffrindiau newydd yn Nhrevelin ac Esquel yn ddigon parod i gynnig lifft os oedd angen hefyd, felly fe fanteision ar y cynigion a theithio i’r Parc Cenedlaethol a thros y ffin i Chile am ddiwrnod. Fe dreulion ni un Sadwrn yn teithio ar drên La Trochita, oedd yn ein cymryd ar daith heibio Esquel i weld yr holl olygfeydd oedd ar ddangos. Cawsom hefyd gyfle i dreulio un penwythnos yn y Gaiman gan fod Eisteddfod yr Ifanc ymlaen ac roeddem wedi cael gwahoddiad i gystadlu yno. Roedd hi’n brofiad rhyfedd gwylio Eisteddfod a gwylio pethau mor gyfarwydd i ni, fel seremoni’r cadeirio, dawns flodau a’r holl gystadlaethau Cymraeg, tra roeddem wedi ein hamgylchynu â phobl oedd yn siarad Sbaeneg.
Y Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg
Mae cymuned Gymraeg amlwg yn Nhrevelin ac Esquel, dim ond ichi wybod lle i edrych. Ni wnewch glywed Cymraeg yn cael ei siarad ar y strydoedd o gwbl, gan mai Sbaeneg yw iaith naturiol y rhan fwyaf o’r boblogaeth. Ond, mae’n bwysig nodi fod y gallu gan nifer o bobl i siarad Cymraeg, ac wrth iddynt gerdded drwy ddrws sesiwn Cymraeg, Cymraeg fydd iaith y sesiwn, nid Sbaeneg. Roedd llawer iawn o bobl heb air o Gymraeg yn eu geirfa yn dod o dras Gymreig, ac yn gallu sôn rhywfaint am hen deulu oedd ganddynt o Gaernarfon, Bala, Bethesda a llawer mwy, oedd yn agoriad llygad i mi. Braf oedd gweld eu bod yn gwybod am bwysigrwydd Cymru yn hanes Patagonia ac yn hanes eu teuluoedd personol nhw.
Mae treulio mis yno wedi bod yn brofiad hollol anhygoel, ac rwy’n gobeithio ymweld â’r lle eto yn y dyfodol! Mae wedi bod yn brofiad bythgofiadwy, ac yn gyfle i wneud ffrindiau a chysylltiadau newydd fydd yn aros yn y cof am byth.