Mewnwelediad i gymuned Ysgol y Gymraeg
31 Hydref 2018
Wrth lansio blog newydd yr Ysgol, mae Dylan Foster Evans yn esbonio’r nod tu ôl iddi a gweledigaeth yr Ysgol i rannu newyddion, barnau, ac ymchwil ar ystod eang o destunau a phynciau gyda chi, a chreu cymuned ddigidol fywiog ac ysgogol.
Croeso cynnes ichi i flog newydd Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Fel pennaeth yr Ysgol fi piau’r fraint o gael ysgrifennu’r blogiad cyntaf hwn. Dyma gyfle imi wneud dau beth, felly, sef cyflwyno’r Ysgol a chyflwyno’r blog.
Beth yw Ysgol y Gymraeg? Cymuned academaidd, yn fyfyrwyr ac yn staff, sydd wedi gosod eu bryd ar astudio’r iaith Gymraeg yw’r ateb syml.
Mae ein myfyrwyr yn cynnwys israddedigion, ôl-raddedigion (sy’n astudio am raddau MA neu PhD yn bennaf), ymarferwyr addysg ar y Cynllun Sabothol Cenedlaethol, a myfyrwyr Cymraeg i Oedolion. O gyfrif pawb gyda’i gilydd, mae mil a mwy fyfyrwyr yn rhan o’n cymuned ni. Daw’r rhan fwyaf ohonyn nhw o Gymru, ond daw eraill o amrywiaeth o wledydd ledled y byd, gan gynnwys Tsieina, Algeria, yr Unol Daleithiau a’r Ffindir.
O ran staff, mae yma ddarlithwyr, ymchwilwyr, tiwtoriaid a staff gwasanaethau proffesiynol sy’n cefnogi pawb arall. Mae pawb yn siarad Cymraeg, wrth gwrs. Ond nid pawb sydd o Gymru chwaith – ar hyn o bryd mae gennym staff o’r Ariannin, yr Unol Daleithiau ac Iwerddon hefyd.
Beth felly yw nod Ysgol y Gymraeg? Dyma gwestiwn yr ydym wedi ei ofyn inni’n hunain yn ddiweddar. Ein hateb yw hyn: rydym yn gymuned academaidd sy’n dysgu, ymchwilio a chreu er mwyn dod â gwybodaeth newydd am y Gymraeg a’i diwylliant i lygaid y byd.
Mae’r Gymraeg a Chymru wrth wraidd popeth a wnawn, wrth gwrs. Ond byddwn hefyd yn manteisio ar bob cyfle i weithio mewn cyd-destunau rhyngwladol, o Ganada i Seland Newydd ac o Israel i Iwerddon.
Bwriad y blog fydd rhannu ein syniadau, ein profiadau a’n brwdfrydedd â chi. Bydd cyfle ichi glywed gan fyfyrwyr a staff am eu gwaith, eu diddordebau a’r prosiectau cyffrous sydd ganddynt ar y gweill. Ac rydym yn awyddus i glywed gennych chithau hefyd. Felly cofiwch roi gwybod am unrhyw sylwadau neu syniadau sydd gennych chi – a mwynhewch y darllen!