Llunio llyfr: ffuglen fer Mihangel Morgan
23 Tachwedd 2020
Dyma Dr Rhiannon Marks yn trafod ei chyfrol newydd – darn o feirniadaeth lenyddol ar waith Mihangel Morgan.

Yr haf hwn, yng nghanol y Cyfnod Clo, cyhoeddwyd fy nghyfrol ddiweddaraf o feirniadaeth lenyddol, Y Dychymyg Ôl-fodern: agweddau ar ffuglen fer Mihangel Morgan. Cyfrol o feirniadaeth greadigol yw hi – ar y naill law mae’n archwilio gwaith y llenor amryddawn Mihangel Morgan, ond mae hi hefyd yn gyfrol greadigol ynddi ei hun sy’n adrodd hanes ffuglennol darlithydd Prifysgol o’r enw Dr Mari Non. Mae’r llyfr felly yn arbrofi â thechnegau sy’n perthyn fel arfer i fyd ffuglen er mwyn cynnig beirniadaeth lenyddol sy’n ffres ac yn ddarllenadwy gobeithio.
Yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r llyfr
Bu gen i ddiddordeb mawr yng ngwaith Mihangel Morgan ers blynyddoedd a byddaf yn aml yn trafod ei waith ar y modiwlau rwy’n eu dysgu yn Ysgol y Gymraeg, sef ‘Awdur, Testun a Darllenydd’, ‘Rhyddiaith Ddiweddar’ a ‘Theori a Beirniadaeth Lenyddol’.
Wedi’r cyfan, mae Mihangel Morgan yn un o ffigurau pwysicaf rhyddiaith Gymraeg y cyfnod diweddar a’i gyfraniad i faes ffuglen fer a’r nofel yn nodedig dros y 25 mlynedd ddiwethaf.
Ac eto, hyd yma, ni chafwyd astudiaeth estynedig ar ei waith. Dyma benderfynu, felly, fynd ati i ysgrifennu cyfrol sy’n rhoi sylw dyledus i’w ryddiaith.
Yn 2016, cefais wahoddiad i dreulio cyfnod ym Mhrifysgol KU Leuven fel ysgolhaig ar ymweliad lle bûm yn ymchwilio i faes y stori fer ac yn mynychu a chynnal gweithdai gydag aelodau o Rwydwaith Ffuglen Fer Ewrop (ENSFR). Yn sgil hyn dyfnhawyd fy niddordeb mewn ffuglen fer a phenderfynais ganolbwyntio ar 8 cyfrol o ffuglen fer gan Mihangel Morgan i’w dadansoddi yn fy astudiaeth.
Bu’n dipyn o her cwblhau’r ymchwil ac roedd gofyn darllen yn helaeth mewn meysydd amrywiol gan fod Mihangel yn awdur gwibiog sy’n arbrofi â ffurf y stori fer er mwyn trafod pob math o bynciau – o UFOs i robotiaid! Ar brydiau mae modd ystyried ei waith yn debyg i’r awdur ôl-fodernaidd Americanaidd, John Barth, yn y modd y mae’n tanseilio realaeth ac yn arbrofi â ffiniau ffuglen. Ac eto, drwyddi draw, y traddodiad llenyddol Cymraeg yw ei faeth, ei ysbrydoliaeth, a thestun ei ddychan miniog.
Yn wir, ym mydoedd ffuglennol Mihangel Morgan, nid oes neb yn saff rhag ei ddychan miniog, gan gynnwys rhai o ‘fawrion’ y traddodiad – Saunders Lewis, Kate Roberts a T. H. Parry-Williams – ac mae’n ein gwahodd i ailddarllen ac ailddehongli eu gwaith mewn goleuni newydd.
Gobeithion ar gyfer y gyfrol
Fy mhrif obaith yw y bydd y gyfrol yn cynnig deongliadau newydd o waith Mihangel Morgan a fydd o fudd i ddarllenwyr o bob math – gan gynnwys disgyblion Safon Uwch ynghyd â myfyrwyr prifysgol sy’n astudio ei waith. Gobeithio hefyd y bydd yn amlygu mor arloesol fu gwaith Mihangel Morgan yn y 25 mlynedd a aeth heibio, nid yn unig yn y modd y mae wedi torri tir newydd o ran arddull ei ffuglen fer ond hefyd wrth iddo archwilio natur amlweddog hunaniaeth, gan roi llais penodol i rywioldeb hoyw mewn cyd-destun Cymraeg.
Adnoddau pellach a all fod o ddiddordeb

Fel rhan o ddathliadau’r Eisteddfod AmGen traddodais ddarlith ar-lein yn trafod agweddau ar y llyfr.
Cofiwch hefyd fod cyfweliad rhyngof i a Mihangel Morgan ymhlith y cyfweliadau sydd ar gael yn yr adnodd ‘Crefft y Stori Fer Heddiw’ a ddatblygais dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.