Hybu sgiliau ymchwil
11 Rhagfyr 2018Mae Dr Jonathan Morris yn adfyfyrio ar Gynhadledd Bagloriaeth Cymru a chynlluniau’r Ysgol i hybu sgiliau ymchwil myfyrwyr israddedig a chryfhau hyfforddiant i fyfyrwyr ôl-raddedig.
Cefais wahoddiad yn ystod yr haf gan Dr Charlotte Brookfield a Dr Samuel Parker (Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol) i fod yn rhan o Gynhadledd Bagloriaeth Cymru ar gyfer athrawon. Nod y gynhadledd flynyddol yw cefnogi athrawon sy’n dysgu’r Fagloriaeth ac, yn fwy penodol, y Dystysgrif Her Sgiliau. Fel rhan o’r Dystysgrif hon, rhaid i ddisgyblion gwblhau prosiect unigol sy’n datblygu sgiliau astudio ac ymchwil annibynnol. Sgiliau hollbwysig, felly, a hogir yn y Brifysgol.
Traddodi sesiwn ar strwythuro cwestiynau cyfweld oedd fy nhasg ond fe gynhaliwyd sesiynau eraill ar wahanol agweddau ar wneud ymchwil megis dadansoddi data ansoddol, llunio holiaduron a dadansoddi data meintiol drwy ddefnyddio Excel, a dulliau gweledol a chreadigol o gasglu data. Mae erthygl am y diwrnod yma ond, yn y bôn, cafodd yr athrawon gyfle i ystyried sut y mae modd dewis dulliau sy’n cyd-fynd â nodau ac amcanion yr ymchwil ac i ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar y dulliau hyn. Roedd fy sesiwn yn gyfle i sôn am ddefnyddio dulliau ansoddol o gasglu data (megis cyfweliadau) er mwyn ateb cwestiynau ymchwil sy’n canolbwyntio ar brofiadau pobl. Eironig, efallai, gan fod fy mhrif weithiau ymchwil wedi dadansoddi seiniau yn feintiol gan ddefnyddio profion ystadegol.
Roedd budd y diwrnod yn gyffredinol yn amlwg o siarad â’r athrawon ond mae’n hollbwysig bod adnoddau sgiliau ymchwil a deunyddiau dysgu ar gael yn y Gymraeg. Byddwn yn annog unrhyw athrawes neu athro sy’n dysgu sgiliau ymchwil drwy gyfrwng y Gymraeg i gysylltu â ni er mwyn trafod sut y gallwn ni helpu. Yn sgìl y gynhadledd, er enghraifft, mae Dr Siôn Jones (Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol) a finnau yn bwriadu rhoi sesiwn mewn ysgol Gymraeg yn fuan ac yn awyddus i ddatblygu’r sesiynau hyn ar gyfer ysgolion yn y dyfodol.
Fel arweinydd ein modiwlau ymchwil israddedig ac fel Cyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-raddedig, cefais i gyfle i adfyfyrio ar sut yr wyf yn cyflwyno sgiliau ymchwil fy hun felly mae’r athrawon wir wedi f’ysbrydoli i newid fy arferion addysgu!
Rwy’n hynod falch, felly, ein bod yn datblygu cyfres o ddeunyddiau ar sgiliau ymchwil ar gyfer myfyrwyr israddedig sy’n ysgrifennu traethodau hir a hefyd yn cynnig hyfforddiant i fyfyrwyr ôl-raddedig ar sgiliau dadansoddi data ac ystadegau.
Yn ogystal â’r sesiynau ar sgiliau ymchwil, treuliais i’r amser cinio gydag athrawon o ysgolion Cymraeg a Saesneg yn trafod syniadau ar gyfer y prosiect unigol. Mae ysgolion ac adrannau mewn prifysgolion dros Gymru wedi creu nifer o Gynigion Prosiect Unigol sy’n rhoi fframwaith er mwyn i ddisgyblion fynd ati i ymchwilio’n annibynnol. Ymhlith arlwy Ysgol y Gymraeg, ceir cynigion sy’n ymwneud ag amlddiwylliannedd, hanes y Gymraeg, cyfieithu a thafodieitheg. Eto, rydym yn awyddus i glywed gan athrawon a fyddai’n awyddus i ddysgu rhagor am y cynigion hyn. Cysylltwch â’r Ysgol am ragor o wybodaeth.
Rwy’n ddiolchgar i’r trefnwyr ac i’r athrawon am y cyfle i ystyried gwerth sgiliau ymchwil yn ein cwricwla, boed hynny mewn ysgolion neu yn y Brifysgol. Mae’r profiad hefyd wedi pwysleisio sut y mae trafodaethau rhwng darlithwyr ac athrawon yn gallu arwain at newidiadau sy’n dylanwadu ar y ddwy sector.