Skip to main content

CymunedIaithIsraddedigProfiad myfyrwyr

‘Ewch Amdani’ – Beth mae astudio gradd yn y Gymraeg wedi ei wneud i mi?

29 Mehefin 2020
Mae Maia Rogers yn graddio yr haf hwn ac mewn erthygl ddiweddar a rannwyd ar ei blog personol, bu’n myfyrio ar sut brofiad a gafodd fel myfyrwraig Cymraeg ail iaith.
Gyda chaniatâd Maia, rydym yn ail-bostio ei blog yma. Darllenwch sut y mae Maia wedi elwa o’i gradd ac am ei hyder newydd a fydd yn sbarduno ei llwyddiant yn y dyfodol.
Maia Rogers

“Beth mae astudio gradd yn y Gymraeg wedi’i wneud i mi? Byddai ‘beth nad yw wedi’i wneud’ yn gwestiwn gwell.

“Wrth ddod i’r penderfyniad i wneud gradd yn y Gymraeg, roedd llawer o bethau i’w hystyried. Dyma fy ail iaith felly, yn anochel, roedd yr ofn o beidio gallu siarad yn rhugl a deall darlithoedd yn peri gofid.

“Yn yr ysgol, roeddwn i’n gwybod erioed fy mod i eisiau bod yn athrawes. Rydw i’n caru’r awyrgylch o fod gyda phlant mewn ysgol gynradd. Dysgu trwy brofiad a chwarae. Mwynhau’r awyrgylch o ddysgu pethau newydd heb sylweddoli, ond yna daeth yr iaith Gymraeg; y diwylliant a’r iaith roeddwn i wrth fy modd yn dysgu mwy amdanynt.

“Felly, fe es i amdani a dyma fi newydd gwblhau tair blynedd yn astudio gradd yn y Gymraeg ac rydw i’n difaru dim. Mae dysgu iaith yn arwain at gymaint o gyfleoedd, rhai ohonynt na fyddwn i erioed wedi disgwyl eu profi. Doeddwn i erioed wedi dychmygu fy hun yn eistedd yng nghanol grŵp rhieni a phlant bach yn dysgu geiriau newydd i genedlaethau newydd. Sefyll o flaen disgybl mewn ysgol gynradd cyfrwng Saesneg ac yn ei ysbrydoli i garu’r iaith.

“Ond nid dysgu am yr iaith yr unig rydw i wedi’i wneud yn ystod fy ngradd. Rydw i wedi dysgu sut i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg. Y gallu i gymdeithasu gyda chymuned iaith Gymraeg a chredwch chi fi… mae’r ofn sydd gennych fod myfyrwyr iaith gyntaf yn mynd i wneud i chi deimlo’n anghyfforddus – dyw e wir ddim cynddrwg â’r disgwyl. Mae rhai hyd yn oed yn synnu mai Cymraeg yw eich ail iaith. Mae’r wybodaeth a gefais am ddiwylliant a llenyddiaeth Cymru yn rhywbeth a fydd o ddefnydd i fi am weddill fy oes.

“Felly beth fyddwn i’n ei ddweud wrth rywun sydd eisiau astudio gradd Gymraeg… ewch amdani. Pa mor anhygoel yw meddwl fy mod i bellach yn gallu cyfathrebu trwy gyfrwng iaith hollol newydd. Mae fy ngradd wedi fy helpu i feithrin gymaint o gysylltiadau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae wedi fy nysgu i fentro a chael hyder yn fy ngalluoedd.  Rydw i’n edrych ar yr iaith Gymraeg fel edrych ar fywyd trwy lens wahanol. Yn fy mywyd cartref rydw i’n siarad Saesneg ac yn cyfathrebu trwy gyfrwng y Saesneg yn unig ond pan rydw i’n siarad Cymraeg, rydw i’n teimlo fel person gwahanol ac rydw i’n gallu cuddio unrhyw bryderon a chymryd pob cyfle.

“Roedd penderfynu gwneud gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd yn un o’r penderfyniadau gorau rydw i wedi’u gwneud. Rydw i’n fythol ddiolchgar am y ffrindiau a wnes, yr atgofion a gefais a’r llwyddiannau a brofais. Felly, ydych chi’n bwriadu gwneud gradd yn y Gymraeg? Peidiwch ag oedi. Ewch amdani. Edrychwch ar y byd trwy ‘lens’ wahanol.”

Darganfyddwch ragor am y radd BA yn y Gymraeg.