#DyfodolDisglair – cyflogadwedd a darpariaeth yr Ysgol
10 Mai 2021Mae eich uchelgais broffesiynol, ynghyd â’ch datblygiad academaidd a phersonol, yn ganolog i’n darpariaeth yn Ysgol y Gymraeg. Mae’r blog hwn yn rhoi trosolwg i chi o’r gweithgareddau a’r cyfleoedd sy’n cael eu cynnig i fyfyrwyr yr Ysgol.
Mae Ysgol y Gymraeg yn cefnogi sgiliau cyflogadwyedd drwy nifer o fodiwlau craidd a dewisol, ar draws ein rhaglenni.
BA Cymraeg
Ym Mlwyddyn 1, mae Ysgrifennu Creadigol a Phroffesiynol (a Chymraeg Creadigol a Phroffesiynol ar y llwybr Ail Iaith) yn eich cyflwyno i amrediad eang o arddulliau ysgrifennu sy’n berthnasol i’r byd gwaith.
Mae Yr Iaith ar Waith (modiwl craidd Blwyddyn 2) yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr feddwl am berthnasedd y Gymraeg i’r byd proffesiynol, gyda chyfleoedd i holi siaradwyr gwadd a gwneud cyfnod o brofiad gwaith fel rhan o’r modiwl. Er bod COVID-19 wedi golygu nad oedd modd i’n myfyrwyr fynd i’w gweithleodd eleni, cawson nhw brofiadau gweithle rhithwir gwerthfawr, a blas go iawn ar ffordd newydd o weithio.
Ymysg ein modiwlau dewisol, mae opsiynau fel Cyfieithu Proffesiynol, Yr Ystafell Ddosbarth a Sgriptio yn meithrin sgiliau sy’n uniongyrchol berthnasol i’r byd gwaith. Mae cyfleoedd profiad gwaith ac ymgysylltu gyda siaradwyr gwadd yn ran annatod o nifer o’r modiwlau hyn.
BA Cymraeg a’r Gweithle Proffesiynol
Mae ein cwrs BA Cymraeg a’r Gweithle Proffesiynol yn cynnig yr holl gyfleoedd uchod, ond gyda ffocws galwadigaethol pendant. Mae cyfleoedd profiad gwaith yn rhan greiddiol o’r cwrs cyffrous hwn, a bydd myfyrwyr hefyd yn cael eu mentora gan ymarferydd allanol yn ystod eu hastudiaethau.
MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd
Os ydych chi’n dewis dod atom ni yn Ysgol y Gymraeg i ddilyn cwrs MA, bydd cyflogadwyedd yn rhan bwysig o’ch cwrs chi hefyd. Mae’r modiwl Ymchwilio Academaidd a Phroffesiynol yn archwilio pwysigrwydd sgiliau ymchwil yn y byd gwaith ac yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith fel rhan o’r ddarpariaeth.
Cyfleoedd allgyrsiol
Tu hwnt i’r ystafell ddarlithio, mae cyfleoedd di-ri i’n myfyrwyr ymgysylltu a datblygu sgiliau. Mae nifer o gyn-fyfyrwyr yr Ysgol wedi dod atom fel siaradwyr gwadd i ddigwyddiadau cymdeithasol yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae hyn wedi parhau ar-lein dros y cyfnod clo. Ym mis Mawrth, ymunodd y bardd a’r cyflwynydd Anni Llŷn gyda Chymdeithas Iolo (Cymdeithas Myfyrwyr Ysgol y Gymraeg) am sgwrs.
Gwobr Caerdydd
Mae cyfleoedd gwerthfawr ar draws y Brifysgol, ac ry’n ni yn Ysgol y Gymraeg yn annog ein myfyrwyr i ddilyn rhaglen Gwobr Caerdydd, sy’n datblygu sgiliau cyflogadwedd ac yn rhoi mantais gystadleuol i uniogolion wrth ymgeisio am swyddi. Mae platfform Eich Taith Gyrfa yn eich helpu i gwblhau’r Wobr, ac mae adnodd newydd sbon o’r enw Dy Yrfa a’r Gymraeg, sydd wedi’i ddatblygu gan staff Ysgol y Gymraeg ar y cyd gyda staff Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Gyrfaoedd, Cyflogadwyedd a Chyfleoedd Byd-Eang
Mae Canolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig nifer o weithdai a sesiynau cynghori sydd o fudd i fyfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae gan Ysgol y Gymraeg Gynghorydd Gyrfa neilltuol, sef Kirsty Osman. Mae modd trefnu apwyntiadau un-wrth-un gyda Kirsty, ac mae hi’n cynnal gweithdai amrywiol.
Mae gan Ysgol y Gymraeg gysylltiadau cryf gyda siaradwyr Cymraeg ym Mhatagonia, ac mae ein cynllun haf yn cynnig profiad diguro o fyw a gweithio yn yr Ariannin. Er bod cyfyngiadau teithio wedi gohirio’r cynllun eleni, bydd yn cael ei gynnal eto pan fydd yn ddiogel i wneud. Yn y cyfamser, mae llwyth o gyfleoedd rhithwir hyblyg a gwerthfawr ar gael i fyfyrwyr.
Awdur: Dr Elen Ifan