Skip to main content

DysguLlenyddiaeth

Dweud yr amser: llunio’r gyfrol Tipiadau (2018)

6 Tachwedd 2018

Mae Llion Pryderi Roberts yn trafod yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’w gyfrol gyntaf o farddoniaeth sy’n edrych ar ei berthynas gydag amser.

Mae gen i ac mae gan lawer
gloc ar y mur i ddweud yr amser,

meddai’r hen bennill, ac mae’n wir fod tipiadau’r cloc wedi cyfareddu beirdd a llenorion mor wahanol i’w gilydd â Dafydd ap Gwilym, Gwyneth Lewis, Daniel Owen, Marcel Proust, T. H. Parry-Williams a W. G. Sebald. Mae gen innau fy mherthynas gymhleth fy hun ag amser – un sy’n debyg i eiddo pawb arall ar un wedd ac eto’n gwbl unigryw yr un pryd.

Mae amser yn arwr a dihiryn, mae’n dyner ac yn deyrn. Hwn sy’n cofnodi’n ddifater hynt fy rhawd ac yn mynnu rheol ar fy myd, er gwaethaf ambell weithred fechan o brotest (welwch chi fyth oriawr ar fy arddwrn i, er enghraifft). Er mawr ryddhad i fyfyrwyr mae’n dygn gadw trefn ar hyd fy narlithoedd, ac yn fy atgoffa, fel ’tai angen gwneud, fy mod i’n closio rhyw fymryn bob dydd at ddyfroedd afon tragwyddoldeb neu angof (neu’r ddau os dymunwch chi).

Roedd hi’n anochel, felly, mai ymson ynghylch amser fyddai byrdwn fy nghyfrol gyntaf o farddoniaeth, Tipiadau, a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Gyhoeddiadau Barddas. Ac mae i’r cloc ei le a’i lais yng ngwneuthuriad y gwaith. Dewisais gaethiwo cerddi’r gyfrol i bedair awr ar hugain hollbresennol ein byw, gan osod tair cerdd o fewn pob awr. Pedair awr ar hugain, sylwch, ond nid un diwrnod.

Mae’r profiadau sy’n britho’r cerddi yn cyffwrdd â sawl eiliad, ennyd, dydd, cyfnod ac oes, gan atsain a diasbedain eu dweud ar draws yr oriau.

O’r herwydd, dyma gyfrol o gerddi y mae modd ei darllen o glawr i glawr (ac o awr i awr), neu bori ynddi yn achlysurol anghyson; gan obeithio bod y naill ddarlleniad neu’r llall yn herio hen gaethiwed y cloc, yn anelu ambell gic at ei berfedd, ac yn chwilio am yr anadl ddilyffethair honno lle cartrefa curiadau’r cerddi. Fel un sy’n addysgu’r modiwl ‘Canu’r Gymru Newydd: Barddoniaeth er 1990’, rwy’n falch fod Tipiadau ymhlith sawl cyfrol o farddoniaeth a gyhoeddwyd yn 2018, a’i bod hithau’n cyfrannu at amrywiaeth, cyfoeth a bywiogrwydd y sîn farddonol gyfoes Gymraeg.

Os oes cysondeb yn y gyfrol, mae hynny’n deillio o’r ffaith mai profiadau, digwyddiadau neu ddarluniau personol yw sbardun nifer o’r cerddi, a minnau’r plentyn, y mab, y gŵr, y tad, y cyfaill yn profi gorfoledd a galar, cysur a hiraeth, hafau a gaeafau. Fy mhrofiadau i ydyn nhw, ond mae’r dychymyg yn drwch drwy’r dweud yn ogystal. Nid cyffes hunangofiant a geir, felly, er gwaethaf fy niddordeb ysol yn y cofiannol (fel y gŵyr myfyrwyr fy modiwl, ‘Bywydau Llên’).

Yn hytrach, mae’r cerddi’n caniatáu imi archwilio fy mherthynas ag amser a holi ambell gwestiwn i’r gwynt – am alar, am gofio, am greu, am garu – gan wybod na fydd yr un o’r cerddi’n cynnig ateb ar ei ben nac yn canfod diléit o daro deuddeg yn rhy dwt. ‘Mae amser arall allan ar y lôn’, meddai’r bardd Emyr Lewis rywdro, ac i mi, i chwithdod a maldod yr ennyd aneirif honno y perthyn amser yn y pen draw.