Datganiadau personol – pa mor bwysig ydi’r datganiad mewn gwirionedd?
24 Tachwedd 2020Mae Cadi Thomas, Rheolwr Academaidd, yn myfyrio ar y rôl y mae eich datganiad personol yn ei chwarae wrth sicrhau eich lle yn y brifysgol.

Yr ateb byr ydi – pwysig iawn! Mae’r datganiad personol yn rhoi cyfle i chi gyflwyno eich hun i’r Tiwtor Derbyn ac i sefyll allan ymhlith yr holl ymgeiswyr eraill. Dyma eich cyfle i argyhoeddi’r Tiwtor Derbyn eich bod yn addas ar gyfer dilyn y pwnc fel rhaglen gradd.
Gall y datganiad personol hefyd wneud gwahaniaeth yn ddiweddarach yn y broses ymgeisio os byddwch chi wedi methu o drwch blewyn â chael y graddau sy’n ofynnol i ddilyn y cwrs. Bryd hynny, byddwn yn ail edrych ar eich datganiad personol unwaith eto i weld a yw eich diddordebau a’ch profiad chi’n dangos bod gennych chi unrhyw sgiliau ychwanegol a allai eich helpu chi i lwyddo ar y cwrs.
Os oes gennych brofiadau allgyrsiol perthnasol, cofiwch sôn amdanynt! Mae profiadau mewn gweithleoedd neu wirfoddoli yn ffordd wych o feithrin sgiliau megis gwaith tîm, rheoli amser a datrys problemau.
Dylech strwythuro eich datganiad mewn modd sydd yn hawdd i’w ddarllen, gan gadw’r cynnwys yn gryno ac yn syml.
Mae’n bwysig dangos eich cymeriad, ond peidiwch â thrio jôc rhag ofn na fydd y Tiwtor Derbyn yn rhannu’r un synnwyr digrifwch â chi!
Pob lwc gyda’r ysgrifennu, rydym yn edrych ymlaen at ddarllen eich cais!
- Dangoswch eich brwdfrydedd am y pwnc – pam eich bod am ei ddilyn a beth yw eich dyheadau am fywyd prifysgol.
- Byddwch yn gadarnhaol am eich profiadau hyd yma – peidiwch â rhoi esgusodion.
- Cymerwch ofal wrth wirio eich sillafu a gofynnwch i rhywun brawf ddarllen.
- Cadwch gopi yn saff ar ôl cyflwyno’r cais i gael cyfeirio’n ôl ato.
- Cofiwch mai dim ond 4,000 nod sydd ar gael – defnyddiwch nhw yn ofalus!
- Peidiwch â dweud celwydd – mae’n hawdd iawn ichi gael eich dal!