Cyrraedd miliwn o siaradwyr – rôl i bawb!
1 Tachwedd 2018
Mae’r Cynllun Sabothol yn rhaglen arloesol a fydd yn helpu gwireddu nod y Llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn y flwyddyn 2050. Wrth i garfan newydd gychwyn ar y cynllun blwyddyn, beth sydd o’u blaenau?
Dyma ni ar ddechrau blwyddyn academaidd arall wedi croesawu 26 o athrawon brwd atom ni i ddilyn cwrs Cymraeg Mewn Blwyddyn y Cynllun Sabothol. Mae’r cwrs arloesol hwn yn rhan o ddarpariaeth y Cynllun Sabothol Cenedlaethol sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Rydym ni wedi bod yn darparu cyrsiau’r Cynllun Sabothol ers 2005 ac yn falch iawn o fod yn rhan o’r datblygiadau cyffrous diweddar..
Yn dilyn llwyddiant cwrs peilot Cymraeg mewn Blwyddyn y llynedd mae Ysgol y Gymraeg yn edrych ymlaen at ddarparu’r cwrs i ymarferwyr addysg o ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg yn ne ddwyrain Cymru eto eleni. Rydym bellach wedi achredu’r cwrs a bydd yr ymarferwyr yn dilyn tri modiwl eleni a fydd yn arwain at Ddiploma Graddedig.
Mae’r cwrs arloesol hwn yn ymateb i darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr erbyn 2050. Heb os, mae’r sector addysg yn allweddol i lwyddiant y targed hwn a rôl athrawon cynradd yn hynod bwysig wrth osod sylfaen ieithyddol i ddisgyblion a llywio eu hagwedd tuag at yr iaith Gymraeg. Mae’n rhaid inni sicrhau felly bod ein hathrawon yn meddu ar y sgiliau cywir a’r hyder i allu trosglwyddo’r iaith i’n disgyblion.
Mae’r cwrs yn cynnig datblygiad proffesiynol unigryw sy’n rhoi blwyddyn sabothol i ymarferwyr ganolbwyntio ar ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg. Nod y cwrs yw sicrhau bod ymarferwyr yn teimlo’n hyderus i ddatblygu’r modd y mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio a’i haddysgu yn eu hysgolion. Byddwn yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ieithyddol a hyder ymarferwyr i ddefnyddio’r Gymraeg ar draws y cwricwlwm ynghyd â defnyddio’r Gymraeg yn hyderus mewn sefyllfaoedd amrywiol ar draws yr ysgol.
Yn ystod y cwrs bydd cyfle iddynt weithio yn strategol er mwyn datblygu dwyieithrwydd a chodi safonau yn eu hysgolion. Bydd yr ymarferwyr yn dychwelyd i’w hysgolion un diwrnod yr wythnos yn ystod yr ail a’r trydydd tymor er mwyn gweithio ar brosiectau penodol. Yn ogystal â hyn byddant yn treulio cyfnod mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn ystod y tymor olaf.
Roedd hi’n brofiad gwych gweld datblygiad a chynnydd yr 11 ymarferwr a ddilynodd y cwrs peilot y llynedd. Erbyn diwedd y cwrs roeddent wedi datblygu eu rhuglder ac yn gallu sgwrsio yn hyderus yn y Gymraeg. Yn broffesiynol roedd pob un wedi magu hyder i addysgu gwersi trawsgwricwlaidd ac wedi gweithio ar brosiectau sydd yn hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn eu hysgolion. Maent wedi dychwelyd i’w hysgolion y tymor hwn yn meddu ar sgiliau newydd, syniadau ac egni newydd fydd yn cyfrannu at ddatblygu’r Gymraeg yn eu hysgolion. Maent hefyd yn sylweddoli pwysigrwydd defnyddio’r iaith er mwyn parhau i ddatblygu.
Rydym yn ffodus iawn o allu cydweithio gyda thimoedd Cymraeg Mewn Addysg Consortiwm Canolbarth y De a Gwasanaeth Cyflawni Addysg De-ddwyrain Cymru ar y prosiect hwn. Mae Swyddogion y Gymraeg Mewn Addysg yn adnabod ysgolion ac ymarferwyr, yn darparu sesiynau hyfforddiant ac yn cefnogi’r ymarferwyr wrth iddynt weithio ar brosiectau a chynlluniau strategol ar gyfer datblygu’r defnydd o’r Gymraeg a dwyieithrwydd yn eu hysgolion.
Mae’r partneriaethau hyn yn allweddol i lwyddiant y cynllun. Yr un yw ein nod ni a’r consortia, sef sicrhau fod y Gymraeg yn cael ei throsglwyddo yn effeithiol i’r disgyblion. Mae’r cydweithio yn golygu bod ymarferwyr yn derbyn yr arweiniad a’r gefnogaeth gywir er mwyn cyrraedd eu potensial.
Rwyf i a thîm y Cynllun Sabothol, Meleri, Hanna, Siân ac Ann, yn edrych ymlaen yn fawr at addysgu’r cwrs a chydweithio gyda’r athrawon brwd sydd newydd ddechrau ar y cwrs eleni. Rydym yn edrych ymlaen at weld eu datblygiad a’u cefnogi wrth iddynt feithrin sgiliau newydd a magu hyder i siarad y Gymraeg. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at flwyddyn o hwyl! Mae mwynhau’r broses o ddysgu’r iaith Gymraeg yn hynod bwysig i dîm y Cynllun Sabothol!