#CymraegCaerdydd ar daith
5 Tachwedd 2018
Ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd, wrth i fyfyrwyr ymgartrefu yng Nghaerdydd, mae nifer o staff yn edrych y tu hwnt i goridorau Ysgol y Gymraeg ac yn mentro ar daith o gwmpas Cymru. Ond, beth yw’r amcan?
Am y drydedd flwyddyn yn olynol, rydym yn cynnal cyfres o Ddosbarthiadau Meistr i gwrdd â disgyblion a staff o Ysgolion a Cholegau ar draws Cymru.
Mae’r Dosbarthiadau Meistr yn gyfle gwych i ddisgyblion sy’n astudio’r Gymraeg gael cymorth gyda’u hastudiaethau lefel A, a chael blas ar y math o ddarpariaeth sydd gennym yma yng Nghaerdydd. Cyfres o weithdai adolygu a chyflwyniadau yw’r Dosbarthiadau Meistr lle byddwn ni fel darlithwyr yn llwytho’r car ac yn mentro ar daith i wahanol leoliadau.
Prif bwrpas y sesiynau yw dod â disgyblion o wahanol ysgolion at ei gilydd i ddysgu ac i wrando ar syniadau a chynghorion defnyddiol a fydd o gymorth iddynt gyda’r cwrs Lefel A. Caiff y disgyblion gyfle hefyd i fanteisio ar arbenigedd ac ymchwil diweddar.
Eleni byddwn yn mentro i’r Gorllewin a’r Gogledd yn ystod mis Tachwedd ac yn cynnig Dosbarthiadau Meistr i ysgolion a cholegau cyfagos yn Ysgol Bro Teifi, Ysgol Glan Clwyd ac Ysgol David Hughes. Ym mis Rhagfyr byddwn yn ymweld ag Ysgol y Strade ac Ysgol Bro Edern. Byddwn yn cyhoeddi’r dyddiadau terfynol yn fuan ac edrychwn ymlaen at weld criw brwd o ddisgyblion yn y lleoliadau gwahanol. Byddwn hefyd ar daith yn y flwyddyn newydd ac yn mentro i leoliadau gwahanol – os oes gennych ddiddordeb mewn cynnig lleoliad inni cysylltwch!
I ddisgyblion sy’n dilyn lefel A Cymraeg Ail Iaith, fe fydd Diwrnod Adolygu ar gael ddydd Gwener 25 Ionawr 2018 a fydd yn cynnwys gweithdai iaith a llenyddiaeth perthnasol i’r cwricwlwm. Bydd ein darlithwyr ar daith hefyd yn ymweld ag ysgolion a cholegau cyfrwng Saesneg i roi sôn am y ddarpariaeth gyffrous sydd gennym yng Nghaerdydd ac i gynnig gweithdai adolygu iaith a llenyddiaeth.
Dyfodol disglair gyda’r Gymraeg
Mae yna gyfleoedd cyffrous i fyfyrwyr sy’n dewis dilyn gradd yn y Gymraeg ac mae’r galw am raddedigion y Gymraeg yn cynyddu. Trwy astudio’r Gymraeg yng Nghaerdydd caiff myfyrwyr gyfle i ddilyn rhaglenni amrywiol a chyfoes sydd yn cyfuno gwahanol feysydd megis cynllunio ieithyddol, cyfieithu, hunaniaeth, diwylliant, treftadaeth a llenyddiaeth. Rydym yn falch iawn o’n darpariaeth ac yn awyddus i gynnig profiadau gwerthfawr i’n myfyrwyr.
Mae gennym arlwy gyfoethog ac ystod o fodiwlau unigryw gan gynnwys rhai ym meysydd Llenyddiaeth Plant, Treftadaeth a Thwristiaeth, Caffael Iaith, Tafodieitheg, Yr Ystafell Ddosbarth a Bywydau Llên.
Mae modd cael blas ar yr holl feysydd hyn trwy ddilyn ein gradd BA yn y Gymraeg neu trwy ddilyn gradd gydanrhydedd gydag ystod o bynciau eraill. Mae ein gradd newydd BA yn y Gymraeg a’r Gweithle Proffesiynol yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gyfuno sgiliau academaidd â chyfnod o brofiadau gwaith ynghyd â chael eu mentora gan bobl broffesiynol o wahanol weithleoedd.
Mae’r dewis yn eang a’r ddarpariaeth yn un gyffrous ac arloesol. Felly beth amdani? Rhowch gynnig ar astudio’r Gymraeg gyda ni.
Rwy’n gobeithio gweld llawer iawn ohonoch chi ddarpar fyfyrwyr pan fyddwn allan ar daith ac fel Tiwtor Derbyn edrychaf ymlaen at dderbyn a darllen eich ffurflenni cais. Os nad ydych yn astudio’r Gymraeg fel lefel A neu os oes gennych brofiadau gwahanol ond rydych yn awyddus i ddilyn un o’n rhaglenni gradd anfonwch neges ataf. Rwy’n awyddus iawn i groesawu llawer iawn ohonoch chi i Gaerdydd i astudio’r Gymraeg felly os bydd unrhyw gwestiwn neu os bydd angen cyngor arnoch cysylltwch â mi.