Skip to main content

CymunedDysguIsraddedigÔl-raddedig

Blas ar Ddysgu ac Addysgu, yn ystod pandemig …

16 Chwefror 2021
Dr Angharad Naylor yw Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn Ysgol y Gymraeg, sy’n rôl brysur a phwysig ar y gorau. Yna daw pandemig iechyd byd-eang a newid ein ffyrdd arferol o weithio’n llwyr. Mae angen gwneud addasiadau a chael atebion arloesol er mwyn parhau i gynnig profiad academaidd o safon ynghyd â chynnal ymdeimlad o gymuned – ar gyfer staff a myfyrwyr fel ei gilydd.
Yma, mae Angharad yn rhoi safbwynt personol a gonest ar heriau a chyfleoedd y 12 mis diwethaf.

Fe wnes i ddechrau’r blog hwn gyda’r bwriad o gynnig trosolwg gweddol ffeithiol o’m profiadau dysgu ac addysgu yn Ysgol y Gymraeg yn ystod y misoedd diwethaf. Ond wrth ddechrau teipio fe drodd y cynnwys yn llawer mwy personol na’r disgwyl – dyna i mi yw natur y daith rwyf arni ers mis Mawrth y llynedd. Mae’r proffesiynol a’r personol wedi gweu i’w gilydd fwyfwy erbyn hyn a’r profiad o baratoi, cynllunio a dysgu modiwlau, sgwrsio â myfyrwyr, mynychu cyfarfodydd, ac arwain ar faterion dysgu ac addysgu wedi gorfod symud i grombil fy nghartref.

Mae’n anodd credu bod rhyw ddeng mis wedi pasio ers inni i gyd symud yn sydyn iawn i ddysgu ac addysgu mewn sefyllfaoedd cwbl newydd. Mae Zoom, ystafelloedd sgwrs, y botwm diffodd y sain a rhannu sgrin wedi dod yn rhyw ffrindiau mynwesol –ac weithiau’n elynion pennaf! – erbyn hyn. Maent yn cynnig cyfleoedd i gwrdd â chydweithwyr a myfyrwyr, i ddysgu trwy ddulliau gwahanol ac i gymdeithasu – a’r cyfan yn digwydd o soffa’r ystafell fyw, o fwrdd y gegin neu o ryw ddesg sydd wedi ei stwffio i gornel ystafell. Bu gweithio o gartref yn brofiad swreal. Mae’n dal i fod felly!

A minnau’n mwynhau crwydro’r dosbarth wrth ddysgu, sioc yw cael fy nghyfyngu i focs ar y sgrin. Mae cadw y tu ôl i’r ddesg yn ystod sesiynau campws hefyd yn her. Rydym oll – yn fyfyrwyr ac yn staff – wedi croesawu ein gilydd i’n cartrefi ac wedi gorfod dysgu ffyrdd newydd o weithio a chyfathrebu.

Creu o’r newydd

Mae’r dysgu byw ar y sgrin a’r sesiynau campws wedi cynnig cyfleoedd inni greu cymunedau drwy ffyrdd gwahanol. Mae sgyrsiau coridor wedi symud i’r blwch sgwrs a’r cydweithio o gwmpas bwrdd wedi symud i gydweithio ar dasgau ar-lein, cwisiau digidol a thrafod mewn grwpiau llai. Fel un sydd wedi arbrofi am rai blynyddoedd â dulliau fflipio’r dysgu, mae’r dull hwn wedi dod yn rhan greiddiol o’r dysgu eleni. A braf iawn yw gweld ymateb cadarnhaol ein myfyrwyr i’r adnoddau digidol sydd wedi eu datblygu ar ein modiwlau.

Mae’r brwdfrydedd a’r gwmnïaeth yr un mor wresog ac archwaeth glir i ddysgu ac i arbrofi â gwahanol ffyrdd o ddefnyddio a chymhwyso gwybodaeth. Rydym yn ffodus iawn o gael myfyrwyr sydd wedi addasu’n gyflym a bod mor barod i gyfrannu ac i rannu syniadau a phrofiadau, mewn sefyllfaoedd dysgu ar ein modiwlau ac yn anffurfiol.

Parhau i ymgysylltu

Ar y modiwlau proffesiynol a chreadigol rydym wedi parhau i groesawu siaradwyr gwadd amrywiol i rannu eu harbenigedd ac yn diolch iddynt am eu cyfraniadau gwerthfawr eto eleni. Fe gafodd myfyrwyr Yr Iaith ar Waith gyfleoedd i gael blas ar feysydd gwahanol gan gynnwys marchnata a chyfathrebu, podledu a chreu ar gyfer y cyfryngau digidol, cyfieithu, ymchwilio, a chynhyrchu ar gyfer y teledu.

Mae cyfieithwyr, awduron, beirdd ac athrawon hefyd wedi cyfrannu at sesiynau ar ein modiwlau arbenigol a bydd cyfraniadau amrywiol tebyg yn parhau yn y gwanwyn. Mae’r sgrin wedi troi’n gyfrwng sy’n agor y drws i wahanol ffyrdd o gyflwyno, ac o ddysgu, ac o feddwl.

Un o gryfderau Ysgol y Gymraeg, ac un o’r pethau sy’n fy nghynnal i fel aelod o staff, yw’r berthynas agos-atoch rhwng myfyrwyr a staff – mae’r gwmnïaeth yr un mor bwysig i ni fel staff ag erioed. Mae wedi bod yn hyfryd cael cyfleoedd i gydweithio â rhai o fyfyrwyr newydd y flwyddyn gyntaf, ynghyd â myfyrwyr blwyddyn 2 a 3, i greu ffyrdd i ddod â phawb ynghyd yn allgyrsiol, yn ogystal â’u cefnogi gyda’u hastudiaethau.

Mae criw o fyfyrwyr brwd yn yr ail flwyddyn wedi sbarduno bwrlwm newydd a chreu cylchgrawn digidol newydd i’r Ysgol. Bydd hwn yn rhoi cyfle i’n myfyrwyr rannu profiadau, darnau creadigol ac eitemau difyr ac amrywiol. Rydym yn edrych ymlaen at weld y cylchgrawn hwn yn datblygu yn ystod y tymor nesaf.

Mae’r paneli myfyrwyr-staff wedi dod at ei gilydd, fel ym mhob blwyddyn, i greu gweithgareddau cymdeithasol ac i rannu profiadau er mwyn atgyfnerthu profiadau myfyrwyr. Fe gawson ni gwisiau, heriau coginio, addurno a limrigo y tymor diwethaf ac rwy’n siŵr y bydd yr un bwrlwm yn parhau wrth inni gydweithio i ddatblygu rhagor o gyfleoedd i bawb ddod ynghyd yn ddiogel.

Parhau i ddysgu a datblygu

Mae’r daith ddigidol a chyfunol yn un sy’n parhau i gynnig profiadau a heriau newydd i bawb. Rwyf i, fel sawl un mae’n siŵr, yn dyheu am droedio’r coridorau eto; yn dyheu am gael sgwrs dros baned, crwydro’r dosbarth ac agor drws fy swyddfa i’n myfyrwyr gwych. Ond er bod ein cartrefi bellach yn swyddfeydd, a’n hystafelloedd byw yn fannau astudio bydd y sgwrsio, y cydweithio, yr astudio a’r tiwtora yn parhau er mwyn cynnig y cyfleoedd gorau posibl i’n myfyrwyr.

Rwy’n edrych ymlaen at barhau i ddatblygu ein darpariaeth yn ystod y cyfnod nesaf yma – i gefnogi ein myfyrwyr ac i’w gweld yn symud ar hyd y daith ddysgu gyda ni.