Antur yn yr Andes!
20 Rhagfyr 2019Eleni, aeth pum myfyriwr israddedig i Batagonia dan nawdd Ysgol y Gymraeg a Banco Santander. Dyma brofiad Sara Rowlands, myfyrwraig Cymraeg a Newyddiaduraeth, o deithio a gweithio yn y Wladfa.

Cefais i’r fraint o dderbyn un o ysgoloriaethau Santander gan Ysgol y Gymraeg eleni ac mi wnes i fentro i Drevelin, Patagonia’r haf yma. Yn naturiol, roeddwn i’n nerfus tu hwnt cyn gadael ym mis Awst. Byddwn i’n disgrifio fy hun fel rhywun sydd yn hoff o aros yn fy milltir sgwâr, felly roedd mynd ben draw’r byd am fis cyfan yn rhywbeth nad oeddwn i erioed yn meddwl y byddwn i wedi gallu ei wneud!
Cartrefol a chysurus
Y peth mwyaf rhyfeddol i mi am fynd i Batagonia oedd pa mor gartrefol roeddwn i’n teimlo yno. Mae tirwedd Trevelin yn debyg iawn i Gymru, a chymerais gysur yn y mynyddoedd a’r golygfeydd. Ond yn fwy na dim y gymuned Gymraeg a wnaeth imi deimlo fwyaf cartrefol. Roedd o hyd bethau i’w gwneud yn Nhrevelin ac Esquel, o bartïon, i ymarferion dawnsio gwerin, neu wahoddiadau am dê neu asado. Roedd y gymuned yn sicr wedi’n croesawu ni â breichiau agored!
Doedd yna fyth ddiwrnod tawel yn Nhrevelin. Ynghyd â’r digwyddiadau cymdeithasol roedd yna lu o waith i’w wneud. O gynllunio a chyflwyno gweithgareddau, cynnal nosweithiau cymdeithasol, golygu rhifyn o’r papur bro sef Llais yr Andes, i flogio ar gyfer tudalennau cyfryngau cymdeithasol Ysgol y Cwm. Roedd y pedair wythnos yn sicr wedi hedfan!
Rhannu iaith
Roeddwn i hefyd wedi fy ysbrydoli gan y plant, y bobl ifanc a’r oedolion oedd yn dysgu’r iaith ben draw’r byd. Bachais ar y cyfle i ddod ag ychydig o Gwm Tawe i’r bobl yma wrth gyflwyno hanes, cerddi ac ambell i gân Huw Chiswell iddyn nhw! Roedd canu ‘Y Cwm’ yng nghapel Seion Esquel yn brofiad na wna’i fyth ei anghofio!
Byddwn i’n sicr yn annog unrhyw un yn Ysgol y Gymraeg i ymgeisio am un o ysgoloriaethau Santander. Dwi wedi dysgu cymaint am y Gymraeg, y Wladfa ac am fy hun yn ystod fy nghyfnod ym Mhatagonia – ac yn ddiolchgar iawn am y cyfle.