Skip to main content

Amdanom ni

Rydym yn gymuned academaidd sy’n dysgu, ymchwilio a chreu er mwyn dod â gwybodaeth newydd am y Gymraeg a’i diwylliant i lygaid y byd.

Mae ein myfyrwyr BA, MA a PhD yn astudio amrywiaeth o feysydd ieithyddol, llenyddol a diwylliannol. Mae ansawdd gwaith ymchwil ein staff yn cael ei gydnabod yn eang, ac mae ei effaith ymarferol ar y byd y hwnt i’r Brifysgol wedi derbyn y clod uchaf posibl yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (2014).

colourful comment boxes cut out of paper suspended from string

Rydym hefyd yn gweithio i sicrhau ffyniant yr iaith trwy ddysgu Cymraeg yn y gymuned leol. Mae ein hadran Cymraeg i Oedolion yn dysgu’r iaith i dros fil o oedolion yng Nghaerdydd ac mae’r cynllun Cymraeg i Bawb yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd ddysgu Cymraeg yn rhad ac am ddim, ochr yn ochr â’u hastudiaethau mewn meysydd eraill. Rydym hefyd yn hyfforddi athrawon, darlithwyr a chynorthwywyr dosbarth i wella eu sgiliau drwy gyfrwng y Cynllun Sabothol Cenedlaethol.

Ein blog

Dyma le i chi ac i ni: lle i ymgysylltu, rhoi sylwadau, holi, a rhannu. Mae’n gyfle inni greu cymuned ddigidol lle gallwn drafod y datblygiadau deallusol ac addysgol diweddaraf ym maes y Gymraeg.

 

Byddwch yn clywed gan ein myfyrwyr, ein staff a’n partneriaid allanol am ein dysgu a’n hymchwil ac am y gweithgareddau y byddwn yn eu cynnal drwy gydol y flwyddyn.

Ac mae croeso mawr i chithau hefyd roi eich barn ar y pynciau amrywiol y byddwn yn eu codi. Edrychwn ymlaen at y drafodaeth!