{"id":82,"date":"2025-01-17T13:54:04","date_gmt":"2025-01-17T13:54:04","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/?p=82"},"modified":"2025-01-17T13:54:22","modified_gmt":"2025-01-17T13:54:22","slug":"or-rheng-flaen-lansio-cynnau-ignite","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/cy\/or-rheng-flaen-lansio-cynnau-ignite\/","title":{"rendered":"O\u2019r Rheng Flaen: Lansio Cynnau | Ignite"},"content":{"rendered":"<p>Maleeha Rizwan, Swyddog Datblygu\u2019r Sefydliad a Staff yn Cynnau, sy\u2019n blogio am yr hyn y mae hi wedi&#8217;i ddysgu yn sg\u00eel lansio ein rhaglen arweinyddiaeth newydd ar ddiwylliant ymchwil.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n dipyn o agoriad llygad pan fydd saith mis o weithio ar rywbeth yn dod yn realiti\u2019n sydyn. Wedyn, mae&#8217;n teimlo fel petaech chi yn y ffilm 1994 yna gyda Sandra Bullock a Keanu Reeves, <em>Speed<\/em>\u200b\u200b! I roi mwy o gyd-destun, ym mis Medi 2024, gwnaeth ein t\u00eem ymroddedig yn <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/staff-courses-and-programmes\/research-careers\/cynnau-ignite\">Cynnau | Ignite<\/a> lansio rhaglen ddatblygu arweinyddiaeth wedi\u2019i hariannu gan Wellcome ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae\u2019r rhaglen yn canolbwyntio ar roi\u2019r grym yn nwylo pobl i gyfrannu at ddiwylliant ymchwil cadarnhaol. Mae\u2019r blog hwn yn cyflwyno fy sylwadau personol ar ddatblygu\u2019r modiwl cyntaf ar Ddiwylliant Ymchwil wedi\u2019i ysgogi gan Werthoedd, a\u2019i gyflwyno i\u2019n carfannau academaidd .<\/p>\n<p>I roi ychydig o wybodaeth am y modiwl ei hun, mae\u2019r modiwl \u2018Diwylliant Ymchwil wedi\u2019i ysgogi gan Werthoedd\u2019 wedi\u2019i gynllunio nid yn unig i fod yn rhagarweiniad i\u2019r rhaglen, ond hefyd yn brofiad ysgogol ar yr un pryd. Mae&#8217;r modiwl yn croesawu cyfranogwyr sydd \u00e2 disgwyliadau, ynghyd \u00e2 chynnig cyflwyniad i athroniaeth Cynnau. Rydyn ni\u2019n egluro canolbwynt y rhaglen, sef amlygu ein \u2018locws rheoli\u2019, neu mewn iaith syml, <em>\u201cBeth alla\u2019 i\/beth allwn ni ei wneud am hyn?\u201d. <\/em>Rydyn ni\u2019n ymdrin \u00e2\u2019r agwedd arweinyddiaeth, sydd wedi\u2019i seilio ar seicoleg gadarnhaol a theori hunan-arweinyddiaeth, sy\u2019n canolbwyntio ar gryfderau yn rhinweddau. <em>\u00a0<\/em>Mae\u2019r modiwl hefyd yn asesu sut rydyn ni\u2019n bywiogi ein gwerthoedd, ac yn ystyried sut gallai diwylliant ymchwil yn y dyfodol edrych drwy brofiad meddwl cyfranogol (llawn hwyl).<\/p>\n<p>Mae lansio rhaglen newydd bob amser yn brofiad sy\u2019n gallu peri pryder, ac roedd hynny\u2019n ddengwaith yn fwy yn fy achos i, gan fy mod i\u2019n rhywun sydd \u00e2 phrofiad blaenorol yn y diwydiant mewn rhan wahanol o&#8217;r byd, ac yn sefyll gerbron gr\u0175p o academyddion heb wir ystyried fy hun yn un ohonyn nhw. Er hyn oll, gwnaeth fy nerfusrwydd beri imi arsylwi\u2019n fwy gofalus, ac roedd clywed y cipolygon gan unigolion penigamp a fu\u2019n rhan o\u2019r profiad hwn sy\u2019n rhoi o hyd.<\/p>\n<p>Dyma rai o\u2019m sylwadau ar y gweithdai cyntaf:<\/p>\n<ul>\n<li>Un o&#8217;r momentau mwyaf cysurus ym mhob diwrnod lansio oedd pan dawelodd fy llais \u201c<em>Dydw i ddim yn academydd<\/em>\u201d mewnol, gan fod y rhai a gymerodd ran yn y profiad yn agored ac yn werthfawrogol. Mae hynny\u2019n gamp ynddo\u2019i hun!<\/li>\n<li>Mae\u2019r bobl hynny sy\u2019n rhan o Cynnau wedi dangos inni fod angen amser a lle arnyn nhw i siarad ac ystyried eu gwerthoedd, eu profiadau, yn ogystal \u00e2 nhw eu hunain yn gyffredinol. Roedd modd inni gael cymaint o gipolygon gan unigolion yn rhannu eu syniadau cychwynnol a sut mae&#8217;r rheiny&#8217;n datblygu pan fyddan nhw siarad \u00e2&#8217;r person wrth eu hymyl.<\/li>\n<li>Gan ymhelaethu ar y pwynt uchod, roedd yn bleser gweld cyfranogwyr yn rhyngweithio \u00e2&#8217;i gilydd ac yn meithrin perthnasoedd o&#8217;r cychwyn cyntaf, ac mae hynny\u2019n dal i fod yn bleser. Boed hynny\u2019n debygrwydd rhwng yr hyn y maen nhw\u2019n gweithio arno neu\u2019r gallu i gysylltu ymhellach ar gyfer prosiectau. Ceir cyfoeth aruthrol yn yr amrywiaeth y mae pobl a&#8217;u profiadau yn ei chynnig.<\/li>\n<li>Roedd ymdeimlad o ddilysrwydd yn yr ystafell, lle roedd cyfranogwyr yn siarad am eu gwerthoedd personol a sut maen nhw\u2019n cyd-fynd \u00e2&#8217;r gwerthoedd y maen nhw\u2019n eu cyfrannu at eu rolau ymchwil. Cafwyd trafodaeth iach am ddilysrwydd bod yn \u2018driw i chi\u2019ch hunain\u2019, sef agwedd y gallwch chi ei chyfrannu at eich gwaith, ac yn rhywbeth rwy wedi &#8216;cael trafferth&#8217; yn gwneud ar adegau. Mae bob amser yn wych teimlo nad ydych chi ar eich pen eich hun.<\/li>\n<li>Un o fy hoff adegau oedd pan wnaeth cyfranogwr amlygu mai \u2018llawenydd\u2019 oedd y gwerth mwyaf sy\u2019n llywio eu gwaith. Mae hyn wedi bod yn agwedd gadarnhaol ar draws y gr\u0175p ac wedi peri imi ystyried sut rwy\u2019n canfod llawenydd yn fy ngwaith creadigol fy hun, sy&#8217;n ddull eithaf dyneiddiol i&#8217;w gael.<\/li>\n<li>Ar yr adeg honno pan wnaethon ni drafod arweinyddiaeth, roedd yn ddiddorol gweld faint o gyfranogwyr sy\u2019n dal i ystyried \u2018arweinyddiaeth\u2019 fel arwain pobl a gwaith. Cymerodd dipyn o berswadio i gael y cyfranogwyr i ailedrych ar y cysyniad o hunan-arweinyddiaeth, ond yn y diwedd roedd yn werthfawr, hyd yn oed os oedd yn anghyfforddus i lawer, pan nad oedden nhw\u2019n gallu gosod eu cryfderau fel rhinweddau ar fap.<\/li>\n<li>Mae cryfder mawr o gael y bwriad i roi newid ar waith ar adegau o ansicrwydd ac mewn rhaglen sy\u2019n canolbwyntio ar newid diwylliant, mae\u2019r bwriad i wneud hynny\u2019n gallu sbarduno dyheadau i fod yn realiti.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Gallwn i ysgrifennu mwy am hyn; fodd bynnag, rhywbeth a fydd yn aros yn wir, waeth beth yw fy mlynyddoedd o brofiad, yw er bod sefyll o flaen ystafell llawn pobl bob amser yn brofiad brawychus, yr un cyfranogwyr hynny sy&#8217;n lleddfu fy nerfau drwy gymryd rhan ar y diwrnod.<\/p>\n<p>Mae Cynnau yn brofiad mor werth chweil o safbwynt dylunio a chyflwyno, oherwydd mae eraill yn ymddiried ynof i lunio profiadau dysgwyr, wrth ddatblygu fy hun yn weithiwr proffesiynol ym myd Addysg Uwch. I\u2019r gad!<\/p>\n<p>Cysylltwch \u00e2 ni:\u00a0<a href=\"mailto:Ignite@cardiff.ac.uk\">Ignite@caerdydd.ac.uk<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Maleeha Rizwan, Swyddog Datblygu\u2019r Sefydliad a Staff yn Cynnau, sy\u2019n blogio am yr hyn y mae hi wedi'i ddysgu yn sg\u00eel lansio ein rhaglen arweinyddiaeth newydd ar ddiwylliant ymchwil. Mae'n [&hellip;]","protected":false},"author":7102,"featured_media":86,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[33],"tags":[],"class_list":["post-82","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-diwylliant-ymchwil"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/82","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7102"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=82"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/82\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":92,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/82\/revisions\/92"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/media\/86"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=82"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=82"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=82"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}