{"id":63,"date":"2024-09-11T13:35:11","date_gmt":"2024-09-11T12:35:11","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/?p=63"},"modified":"2024-09-11T13:36:18","modified_gmt":"2024-09-11T12:36:18","slug":"labordy-byw-newydd-ar-gyfer-prifysgol-wrth-hiliol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/cy\/labordy-byw-newydd-ar-gyfer-prifysgol-wrth-hiliol\/","title":{"rendered":"Labordy byw newydd ar gyfer Prifysgol wrth-hiliol"},"content":{"rendered":"<p>Ar 1 Gorffennaf 2024, fe wnaeth gr\u0175p ag arbenigedd amrywiol sydd am weld Prifysgol wrth-hiliol drafod creu \u2018labordy byw\u2019 newydd yma<\/p>\n<p>Daeth <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/social-science-research-park\">SPARK<\/a> (Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol) a <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/research\/explore\/research-units\/migration,-ethnicity,-race-and-diversity-research-group\">MEAD<\/a> (y Gr\u0175p Ymchwil Ymfudo, Ethnigrwydd, Hil ac Amrywiaeth) \u00e2 phawb ynghyd, gan gynnwys ymchwilwyr y Brifysgol, staff y gwasanaethau proffesiynol a myfyrwyr doethurol gyda chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a thri sefydliad partner, <a href=\"https:\/\/www.eyst.org.uk\/\">EYST (T\u00eem Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru)<\/a> (rhan o SPARK), <a href=\"https:\/\/bawso.org.uk\/en\/\">Bawso<\/a> a <a href=\"https:\/\/racecouncilcymru.org.uk\/\">Race Council Cymru<\/a>. Wedi\u2019i chefnogi gan gyllid Cronfa Diwylliant Ymchwil y Brifysgol, rhoddodd y sesiwn gyfle cychwynnol i drin a thrafod labordy byw sy\u2019n ymwneud \u00e2 gwrth-hiliaeth yn SPARK.<\/p>\n<p>Roedd y sesiwn syniadau hon yn adeiladu ar gydberthnasau a oedd eisoes wedi\u2019u sefydlu drwy waith ar y cyd rhwng SPARK a MEAD, gan gynnwys <a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mead\/spark-mead-ethnicity-research-and-practice\/\">digwyddiad yn arddangos ymchwil y Brifysgol a oedd yn berthnasol i\u2019w pholisi ar ethnigrwydd<\/a> ym mis Tachwedd 2023.<\/p>\n<p>Mae pobl yn diffinio ac yn deall labordai byw mewn gwahanol ffyrdd yn y sector addysg drydyddol, ond yn eu hanfod maen nhw\u2019n cysylltu gweithgaredd academaidd sefydliad (ymchwil, addysgu a dysgu) \u00e2 phartneriaid nad ydyn nhw\u2019n academaidd, gan gynnwys gwasanaethau proffesiynol mewnol prifysgolion a busnesau allanol, sefydliadau\u2019r trydydd sector, cyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol, i geisio atebion i broblem &#8216;byd go iawn&#8217; mewn lleoliad &#8216;bywyd go iawn&#8217;. Yn \u00f4l Higgins a Klein, 2011, mae labordai byw \u2018yn eu hanfod yn waith ar y cyd.\u2019<\/p>\n<p>Mae Strategaeth newydd Prifysgol Caerdydd tuag at 2035 yn nodi ei bod am ddefnyddio &#8216;\u2026ein prifysgol yn &#8216;labordy byw&#8217; i ddiffinio ein heriau ar y cyd a gweithio gyda\u2019n gilydd i geisio atebion.&#8217;\u00a0\u00a0 Mae yna nifer o labordai byw mewn prifysgolion a mannau eraill ledled y DU ac Ewrop (er enghraifft, gweler y <a href=\"https:\/\/enoll.org\/\">Rhwydwaith Ewropeaidd o Labordai Byw<\/a>). Ymhlith eu manteision, caiff y canlynol eu nodi\u2019n aml: eu natur &#8216;agored&#8217; a\u2019u bod yn canolbwyntio ar gyd-greu, eu potensial cryf i wireddu newid sylweddol a mynd i&#8217;r afael \u00e2 heriau cymhleth, eu gallu i ailddiffinio profiad dysgu myfyrwyr a chreu cyfleoedd gwerth chweil ar gyfer ymchwil a throsglwyddo gwybodaeth yn y byd go iawn i academyddion. Fodd bynnag, dydy\u2019r rhain ddim yn cynnwys labordy byw sy&#8217;n canolbwyntio ar wrth-hiliaeth.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r Sgwrs Fawr ar ddyfodol Prifysgol Caerdydd a&#8217;n <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/staff\/about-us\/strategy-and-improvements\/our-strategy\/cardiff-university-to-2035-strategy\">Strategaeth newydd<\/a> yn cydnabod &#8216;nad yw&#8217;r model presennol ar gyfer prifysgolion bellach yn addas i&#8217;r diben&#8217;.\u00a0 Mae angen mynd i&#8217;r afael ar fyrder \u00e2&#8217;r &#8216;systemau a\u2019r diwylliannau sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019n gwaddol&#8217; sydd wedi&#8217;u gwreiddio yn ein sefydliad drwy ddod yn &#8216;brifysgol wrth-hiliol&#8217;.\u00a0 Mae hyn yn sylfaenol i&#8217;r math o brifysgol y dylen ni fod, a\u2019r hyn rydyn ni\u2019n dymuno ei fod.<\/p>\n<p>Mae\u2019r <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/commentary\/creating-an-anti-racist-wales\/\">Athro Emmanuel Ogbonna<\/a> o Ysgol Busnes y Brifysgol a <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publication\/implementing-the-race-equality-action-plan\/\">Ronald Roberts<\/a> yn ein hatgoffa bod gwrth-hiliaeth yn adeiladu ar ymrwymiad i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ond <em>yn mynd y tu hwnt iddo<\/em>:<\/p>\n<p>\u2018Nod cyfle cyfartal yw ceisio sicrhau bod unigolion yn cael cyfle cyfartal i gymryd rhan neu \u2018gystadlu\u2019 drwy brosesau sy&#8217;n trin pawb yn deg neu mewn ffordd debyg. Mae amrywiaeth a reolir yn disgrifio camau gweithredu bwriadol i hyrwyddo prosesau i gynnwys pobl o gefndiroedd gwahanol. Mae gwrth-hiliaeth yn mynd y tu hwnt i&#8217;r ddau ddull hyn drwy weithredu mewn modd penodol ac ymwybodol i wrthsefyll a mynd i&#8217;r afael \u00e2 hiliaeth systemig a sefydliadol.\u2019 (Roberts, 2021: 2)<\/p>\n<p>Mae hyn yn hollbwysig i Brifysgol Caerdydd, ac i holl sefydliadau a chyrff cyhoeddus Addysg Uwch Cymru, sydd wedi\u2019u hysgogi ers tro gan brofiad byw o anghydraddoldebau a gwahaniaethu sydd wedi\u2019u gwreiddio, ac a gafodd sylw yn fwy diweddar yng Nghynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru tuag at Gymru wrth-hiliol. Mae ein Profost a\u2019n Dirprwy Is-ganghellor, yr Athro Damian Walford Davies, yn siarad am y rheidrwydd brys hwn a\u2019r cyfraniad y gallai labordy byw sy\u2019n ymwneud \u00e2 gwrth-hiliaeth ei wneud:<\/p>\n<p>&#8216;Un o\u2019n nodau yw gwneud Prifysgol Caerdydd yn sefydliad gwrth-hiliol. Dyma un o&#8217;r elfennau nad ydyn nhw\u2019n agored i drafodaeth. Mae gwrth-hiliaeth wedi&#8217;i wreiddio yn ein strategaeth sefydliadol newydd ac yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol nesaf. Mae cyflawni&#8217;r nod hwn yn gofyn i ni wneud pethau&#8217;n wahanol, a dyma&#8217;n union y bydd y &#8216;labordy byw&#8217; newydd hwn yn ein helpu i&#8217;w gyflawni. Bydd yr wybodaeth sy\u2019n deillio o&#8217;r fenter hon yn cefnogi sefydliadau eraill ledled Cymru a&#8217;r byd i gymryd camau pwysig i fod yn wrth-hiliol. Mae&#8217;r fenter newydd hon yn enghraifft wych o Brifysgol Caerdydd yn creu gwybodaeth newydd ar y cyd i greu byd gwell ar gyfer cenedlaethau&#8217;r dyfodol.&#8217;<\/p>\n<p>O&#8217;n sesiwn syniadau, rydyn ni wedi dechrau mapio&#8217;r hyn y gallai labordy byw sy\u2019n ymwneud \u00e2 gwrth-hiliaeth ganolbwyntio arno, gan gynnwys pedair cydran &#8216;graidd&#8217; ein prifysgol, hynny yw, ymchwil, addysgu ac addysg, arferion sefydliadol ac ymgysylltu dinesig. Rydyn ni hefyd wedi dechrau trafodaeth ar sut y gallai labordy byw ei hun fod yn wrth-hiliol, o ran ei greu a&#8217;i ddyluniad, ei natur a sut mae\u2019n gweithredu.\u00a0 Dyma drafodaeth bwysig i&#8217;w chael i sicrhau bod yr hyn a wnawn a sut rydyn ni\u2019n mynd ati\u2019n cyd-fynd ag arfer gwrth-hiliol.<\/p>\n<p>Diolch yn fawr i bawb sydd wedi cymryd rhan hyd yn hyn yn y broses o lunio syniadau ar gyfer y Labordy Byw Gwrth-hiliaeth \u2013 dyma ymdrech ar y cyd o bob rhan o&#8217;r Brifysgol a\u2019n partneriaid cymunedol ac rydyn ni wrthi\u2019n datblygu&#8217;r labordy \/ mae&#8217;n brosiect cydweithio parhaus.<\/p>\n<p>Yr Athro Sin Yi Cheung, SocSi<\/p>\n<p>Uzo Iwobi, Cyngor Hil Cymru<\/p>\n<p>Princess Onyeanusi, Cyngor Hil Cymru<\/p>\n<p>Wanjiku Mbugua, BAWSO<\/p>\n<p>Anaer Yeerjiang, myfyriwr doethuriaeth (SocSi)<\/p>\n<p>Kemba Hadaway-Morgan, myfyriwr doethuriaeth (SocSi)<\/p>\n<p>Usha Ladwa-Thomas, Llywodraeth Cymru ac Arloeswr Preswyl SBARC<\/p>\n<p>Heledd Jenkins, Uned Gwahaniaethau Cydraddoldeb, Llywodraeth Cymru<\/p>\n<p>Venice Cowper (Canolfan Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant)<\/p>\n<p>Shabnam Ali (Canolfan Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant)<\/p>\n<p>Yr Athro Chris Taylor, SBARC<\/p>\n<p>Dr Anna Skeels, SBARC<\/p>\n<p>Dr Hayley Trowbridge, SBARC<\/p>\n<p>Selima Bahadur (EYST)<\/p>\n<p>Dr Sofia Vougioukalou (CARE)<\/p>\n<p>Noam Devey, Datblygiad Sefydliadol a Staff<\/p>\n<p>Yr Athro Helen Williams, Yr Academi Dysgu ac Addysgu<\/p>\n<p>Mae ein camau nesaf yn cynnwys sesiwn gweithgor mewnol ym mis Awst, gan ganolbwyntio ar ddylunio labordy byw, ymgorffori&#8217;r labordy byw yng Nghynllun Gweithredu Blwyddyn Un Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Brifysgol a datblygu ein strategaeth adnoddau, gan gynnwys cynigion ar gyfer cyllid sydd eisoes wedi\u2019i nodi.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ar 1 Gorffennaf 2024, fe wnaeth gr\u0175p ag arbenigedd amrywiol sydd am weld Prifysgol wrth-hiliol drafod creu \u2018labordy byw\u2019 newydd yma Daeth SPARK (Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol) a MEAD [&hellip;]","protected":false},"author":6987,"featured_media":65,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-63","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/63","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6987"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=63"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/63\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":78,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/63\/revisions\/78"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/media\/65"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=63"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=63"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=63"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}