{"id":59,"date":"2024-08-30T16:29:04","date_gmt":"2024-08-30T15:29:04","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/?p=59"},"modified":"2024-08-30T16:29:04","modified_gmt":"2024-08-30T15:29:04","slug":"y-prif-bethau-fe-wnes-i-eu-dysgu-o-wyl-diwylliant-ymchwil-prifysgol-bryste","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/cy\/y-prif-bethau-fe-wnes-i-eu-dysgu-o-wyl-diwylliant-ymchwil-prifysgol-bryste\/","title":{"rendered":"Y prif bethau fe wnes i eu dysgu o \u0174yl Diwylliant Ymchwil Prifysgol Bryste"},"content":{"rendered":"<p>Mair Rigby, Swyddog Ymgysylltu Cynnau | Ignite, sy\u2019n blogio am fynd i ddigwyddiad Diwylliant Ymchwil ym Mryste<\/p>\n<p>Roedd t\u00eem Cynnau | Ignite yn falch iawn o gael eu gwahodd i ddigwyddiad diweddar G\u0175yl Diwylliant Ymchwil a gafodd ei chynnal gan Brifysgol Bryste. Es i, ynghyd \u00e2 fy nghydweithwyr, Maleeha Rizwan, Swyddog Datblygu Sefydliadol a Staff Cynnau | Ignite, a Dr Karen Desborough, Swyddog Diwylliant Ymchwil Prifysgol Caerdydd.<\/p>\n<p>Mae llawer o bethau cyffrous yn digwydd ym maes diwylliant ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd eleni.\u00a0 Mae ein\u00a0 newydd gael ei lansio; cafodd cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer Wythnos Diwylliant Ymchwil Caerdydd eu cynnal ym mis Mehefin, ac mae cronfa Diwylliant Ymchwil CCAUC wedi galluogi ysgolion i gynnal eu digwyddiadau eu hunain.<\/p>\n<p>Yn y cyfamser, mae ein t\u00eem yn brysur yn paratoi ar gyfer lansio <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/staff\/training-and-development\/staff-courses-and-programmes\/training-courses\/cynnau-ignite\">rhaglen arweinyddiaeth diwylliant ymchwil Cynnau | Ignite<\/a> ym mis Medi. Felly, roedd yn wych cael y cyfle i ymweld \u00e2 phrifysgol arall a dysgu o\u2019u profiad o hyrwyddo diwylliant ymchwil cadarnhaol.<\/p>\n<p>Roedd cyrraedd y digwyddiad ychydig yn fwy llafurus na&#8217;r disgwyl, oherwydd problemau gyda&#8217;r trenau. Un daith bws hwyr a phoeth iawn yn ddiweddarach, fe gyrhaeddon ni Mshed mewn pryd ar gyfer y sesiwn agoriadol!<\/p>\n<p>Roedd y digwyddiad wedi&#8217;i drefnu&#8217;n dda, gyda sgyrsiau a gweithdai ar amrywiaeth o faterion amserol. Roedd y rhain yn cynnwys sesiynau ar ethos arweinyddiaeth, r\u00f4l creadigrwydd a\u2019r dychymyg, ymchwil gyfranogol, cynhwysiant, gwaith t\u00eem, ymchwil agored, cefnogi myfyrwyr ymchwil \u00f4l-raddedig, a moeseg ac uniondeb. Fe wnaethon ni glywed hefyd gan y <a href=\"https:\/\/warwick.ac.uk\/research\/ncrc\/\">Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Diwylliant Ymchwil<\/a> ym Mhrifysgol Warwick am y Rhwydwaith Galluogwyr Diwylliant Ymchwil maen nhw\u2019n ei ddatblygu ledled y DU.<\/p>\n<p>Dyma\u2019r prif bethau fe wnes i eu dysgu o&#8217;r digwyddiad:<\/p>\n<ul>\n<li>Mae yna heriau, ond hefyd mae yna gyfleoedd enfawr. Mae\u2019n teimlo bod cymaint o egni a chymhelliant ym maes diwylliant ymchwil ar hyn o bryd, gyda sgyrsiau craff yn digwydd yn y sector<\/li>\n<li>Mae sefydliadau ledled y DU yn ceisio mynd i\u2019r afael \u00e2 llawer o faterion tebyg wrth ddatblygu diwylliant ymchwil cadarnhaol, ond mae gwahaniaethau pwysig yn seiliedig ar y cyd-destunau sefydliadol a lleol penodol<\/li>\n<li>Mae gan bawb sy&#8217;n gweithio ym maes ymchwil, boed yn academydd, neu\u2019n weithiwr proffesiynol, technegydd neu arbenigwr, r\u00f4l i&#8217;w chwarae a gallan nhw gael effaith. Efallai y gallen ni ddweud bod diwylliant ymchwil cadarnhaol yn fusnes i bawb!<\/li>\n<li>Gall chwalu rhwystrau trwy ddod \u00e2 phobl at ei gilydd mewn mannau sydd ddim \u00e2 hierarchiaeth, ar draws ysgolion academaidd ac adrannau proffesiynol fod yn hynod gynhyrchiol a chreu egni newydd<\/li>\n<li>Gall pecynnau cymorth, fframweithiau a chanllawiau ein helpu i fyfyrio a gwella arfer, tra bod cael y polis\u00efau a\u2019r gweithdrefnau cywir hefyd yn bwysig<\/li>\n<li>Fodd bynnag, mae angen i ni annog rhagor o bobl, nid dim ond yr arbenigwyr, i siarad am y materion hyn a deall pam mae diwylliant ymchwil yn bwysig<\/li>\n<li>Mae angen i ni i gyd feddwl am y dyfodol a&#8217;r math o ddiwylliant ymchwil rydyn ni eisiau ei greu yn ein sefydliadau<\/li>\n<\/ul>\n<p>Beth oedd fy hoff sesiwn? &#8216;Gweithdy Adran y Dychymyg&#8217;, mae\u2019n si\u0175r. Roedd y sesiwn hyfryd hon yn fy atgoffa bod pawb yn greadigol ac mae mynegi creadigrwydd yn rhan hanfodol o fod yn ddynol. Beth am feddwl am sut y gallwch chi ddod \u00e2 rhywfaint o greadigrwydd i\u2019ch diwrnod, neu gyda&#8217;ch t\u00eem?<\/p>\n<p>Rydyn ni\u2019n edrych ymlaen at drafod yr holl faterion hyn, a mwy, yn rhan o&#8217;n rhaglen arweinyddiaeth Cynnau | Ignite. Mae gennyn ni ychydig o leoedd ar gael o hyd ar gyfer cydweithwyr Addysgu ac Ymchwil, felly cysylltwch \u00e2&#8217;r t\u00eem cyn gynted \u00e2 phosibl os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno.\u00a0 Mae&#8217;r garfan Ymchwil yn unig yn llawn, ond gallwch chi wneud cais i ymuno \u00e2&#8217;r rhestr wrth gefn.<\/p>\n<p>Bydd y broses recriwtio ar gyfer cydweithwyr Gwasanaethau Proffesiynol, Technegol ac Arbenigol yn agor ym mis Medi.<\/p>\n<p>Cysylltwch \u00e2 ni: <a href=\"mailto:Ignite@cardiff.ac.uk\">Ignite@caerdydd.ac.uk<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mair Rigby, Swyddog Ymgysylltu Cynnau | Ignite, sy\u2019n blogio am fynd i ddigwyddiad Diwylliant Ymchwil ym Mryste Roedd t\u00eem Cynnau | Ignite yn falch iawn o gael eu gwahodd i [&hellip;]","protected":false},"author":7102,"featured_media":74,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[33],"tags":[],"class_list":["post-59","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-diwylliant-ymchwil"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/59","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7102"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=59"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/59\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":73,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/59\/revisions\/73"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/media\/74"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=59"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=59"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=59"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}