{"id":48,"date":"2024-04-02T10:54:32","date_gmt":"2024-04-02T09:54:32","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/?p=48"},"modified":"2024-04-02T11:02:02","modified_gmt":"2024-04-02T10:02:02","slug":"cefnogi-ein-diwylliant-ymchwil-cronfa-diwylliant-ymchwil-prifysgol-caerdydd-2024","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/cy\/cefnogi-ein-diwylliant-ymchwil-cronfa-diwylliant-ymchwil-prifysgol-caerdydd-2024\/","title":{"rendered":"Cefnogi ein Diwylliant Ymchwil: Cronfa Diwylliant Ymchwil Prifysgol Caerdydd 2024"},"content":{"rendered":"<p><strong>Is-bennawd: Mae Prifysgol Caerdydd wedi lansio Cronfa Diwylliant Ymchwil i gefnogi digwyddiadau sy&#8217;n gwella cymuned ymchwil y Brifysgol<\/strong><\/p>\n<p>Ym Mhrifysgol Caerdydd, rydyn ni\u2019n gweithio i feithrin diwylliant ymchwil gefnogol, greadigol, agored, gynhwysol, dryloyw a gonest ar y cyd i bawb. Mae diwylliant ymchwil yn cyfeirio at yr ymddygiad, y gwerthoedd a&#8217;r agweddau rydyn ni\u2019n eu gwerthfawrogi ac yn eu disgwyl ledled ein cymuned a\u2019n cyd-destunau ymchwil.<\/p>\n<p>Yn ddiweddar lansion ni Gronfa Diwylliant Ymchwil Prifysgol Caerdydd 2024, ac mae bellach ar agor i dderbyn ceisiadau. Nod y gronfa ymateb cyflym hon yw <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/staff\/about-us\/strategy-and-improvements\/university-projects\/transforming-research-culture\">creu diwylliannau ymchwil cadarnhaol<\/a> ledled y sefydliad. Cefnogir y prosiect gan Gronfa Amgylchedd a Diwylliant Cymru Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Mae\u2019r gronfa, a lansiwyd eleni, yn rhoi cymorth i weithgareddau a fwriedir i wella diwylliant ymchwil.<\/p>\n<p>Yn sgil <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/staff\/documents\/2733771-research-culture-survey-report-2023\">Arolwg Diwylliant Ymchwil<\/a> y Brifysgol a gynhaliwyd yn 2022, cawson ni syniad cryf ynghylch blaenoriaethau ymchwilwyr yng Nghaerdydd. Dangosodd y canlyniadau fod gan gydweithwyr farn gadarnhaol iawn ynghylch y cydweithio a\u2019r colegoldeb sy\u2019n digwydd yn lleol. Fodd bynnag, awgrymodd ymatebwyr hefyd fod angen rhagor o gefnogaeth sefydliadol i feithrin y syniad o gymuned, yn enwedig y tu allan i\u2019r ysgolion a chanolfannau.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r cyllid hwn felly ar gael i allu trefnu digwyddiadau sy&#8217;n cefnogi\u2019r gwaith o greu cymuned a gwaith ar y cyd mewn ysgolion, colegau, a chanolfannau ymchwil eraill yn ogystal \u00e2 rhwng y rhain.<\/p>\n<p>Bwriad y gronfa yw bod yn hyblyg er mwyn galluogi\u2019r staff i ymateb i&#8217;r hyn sydd ei angen arnyn nhw mewn byr o dro. Mae&#8217;r holl aelodau o\u2019r staff sy&#8217;n ymwneud ag ymchwil mewn unrhyw lwybr gyrfaol ac unrhyw gyfnod gyrfaol yn gymwys i arwain cais a chymryd rhan mewn digwyddiadau a ariennir, pan fo&#8217;n briodol. Ymhlith y rhain mae staff ymchwil amser llawn a rhan-amser, myfyrwyr ymchwil \u00f4l-raddedig, staff academaidd, technegol a staff yn y Gwasanaethau Proffesiynol sy&#8217;n ymwneud \u00e2 chefnogi a chyflwyno ymchwil ac addysg dan arweiniad ymchwil. Rydyn ni\u2019n croesawu&#8217;n arbennig geisiadau gan dimau sy&#8217;n cynnwys grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn ogystal ag ystod o lefelau gyrfaol a rolau.<\/p>\n<p>Rydyn ni\u2019n gwahodd cynigion sy&#8217;n dangos y gallu i wella diwylliant a chyd-destunau ymchwil drwy gynyddu\u2019r broses o cydweithio a chymuned mewn t\u00eem, is-adran, adran, ysgol neu goleg, boed hynny ledled timau, is-adrannau, adrannau, ysgolion neu golegau; neu ledled y sefydliad yn fwy cyffredinol.<\/p>\n<p>Byddwn ni\u2019n ariannu ystod eang o weithgareddau, gan gynnwys digwyddiadau sy&#8217;n datblygu arferion lleol sy&#8217;n effeithio&#8217;n gadarnhaol ar ddiwylliant ymchwil, gan gynnwys lles, moeseg ymchwil, cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a gwrth-hiliaeth; digwyddiadau sy&#8217;n hyrwyddo\u2019r broses o ymgysylltu ag academyddion allanol a rhanddeiliaid eraill neu feithrin perthynas rhwng ymchwilwyr a&#8217;r rheini sy&#8217;n galluogi ymchwil megis y gwasanaethau proffesiynol, technegwyr ac arbenigwyr. Hwyrach y bydd y gweithgareddau yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i weithdai, byrddau crwn, digwyddiadau arddangos, siaradwyr gwadd a sefydlu rhwydweithiau.<\/p>\n<p><strong>Dyddiadau allweddol:<\/strong><\/p>\n<p><strong>Galwad y Gronfa Diwylliant Ymchwil yn agor<\/strong>: Dydd Mercher 20 Mawrth 2024dylid cyflwyno pob cais gan ddefnyddio&#8217;r <a href=\"https:\/\/forms.office.com\/e\/Xr88aQwvGm\">ffurflen fer ar-lein hon<\/a>.<\/p>\n<p><strong>Cyfnod gwneud cais yn dod i ben:<\/strong> Gwener 19 Ebrill 2024<\/p>\n<p><strong>Cyllid<\/strong>: gwahoddir ceisiadau hyd at \u00a33,000 ac mae\u2019n rhaid gwario\u2019r cyllid erbyn 31 Gorffennaf 2024.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Is-bennawd: Mae Prifysgol Caerdydd wedi lansio Cronfa Diwylliant Ymchwil i gefnogi digwyddiadau sy'n gwella cymuned ymchwil y Brifysgol Ym Mhrifysgol Caerdydd, rydyn ni\u2019n gweithio i feithrin diwylliant ymchwil gefnogol, greadigol, [&hellip;]","protected":false},"author":7070,"featured_media":50,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-48","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/48","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7070"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=48"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/48\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":52,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/48\/revisions\/52"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/media\/50"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=48"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=48"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=48"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}