{"id":36,"date":"2024-03-01T16:51:05","date_gmt":"2024-03-01T16:51:05","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/?p=36"},"modified":"2024-03-25T16:52:54","modified_gmt":"2024-03-25T16:52:54","slug":"credit-where-credits-due-cyflwyno-cynllun-cyfranwyr-credit-yn-ysgol-gwyddoraur-ddaear-ar-amgylchedd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/cy\/credit-where-credits-due-cyflwyno-cynllun-cyfranwyr-credit-yn-ysgol-gwyddoraur-ddaear-ar-amgylchedd\/","title":{"rendered":"CRediT where credit\u2019s due: cyflwyno cynllun cyfranwyr CRediT yn Ysgol Gwyddorau\u2019r Ddaear a\u2019r Amgylchedd."},"content":{"rendered":"<p>Mae Tacsonomeg Rolau Cyfranwyr (<a href=\"https:\/\/credit.niso.org\/\">CRediT)<\/a> yn ceisio sicrhau bod pawb sy&#8217;n cyfrannu at allbynnau ysgolheigaidd (er enghraifft papurau) yn cael eu cydnabod yn briodol. Mae&#8217;r 14 o Rolau Cyfranwyr yn diffinio&#8217;r cyfraniadau amrywiol y gellid eu hystyried megis cysyniad prosiectau, casglu data (ymchwilio) ac ysgrifennu. Mae&#8217;r rhain yn galluogi academyddion a chyhoeddwyr i nodi&#8217;n glir pwy gyfrannodd beth at bob allbwn. Mae nifer fawr o gyhoeddwyr wedi manteisio ar y cynllun hwn (sydd yn beth da) ac er ei fod wedi\u2019i gynllunio i wella tryloywder cyfrifoldebau cyfranwyr, a\u2019u cydnabod, nid yw\u2019n mynd mor bell \u00e2 mynnu unrhyw fath o newid i un o agweddau pwysicaf ar gyhoeddi, sef awduraeth.<\/p>\n<p>Roedden ni am fynd \u00e2 CRediT ymhellach. Roedden ni o\u2019r farn y dylai unrhyw un sydd wedi cyfrannu\u2019n sylweddol at allbwn ymchwil gael ei gynnwys yn gyd-awdur. Roedden ni\u2019n teimlo\u2019n gryf na ddylai unrhyw un gael ei gynnwys ar restr awduron sydd wedi cyfrannu llai nag unrhyw un arall nad yw wedi\u2019i gynnwys ar y rhestr awduron honno.<\/p>\n<p>Mae\u2019r rhan fwyaf o sefydliadau ymchwil (gan gynnwys Prifysgol Caerdydd) yn ei gwneud yn glir bod yn rhaid bod awdur wedi gwneud cyfraniad deallusol sylweddol i allbwn, ac nid yw helpu i gaffael data yn ddigon i haeddu teitl \u2018awdur\u2019.<\/p>\n<p>Mae diffiniadau geiriadur y gair &#8216;deallusol&#8217; yn cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>\u201ccynnwys gallu\u2019r person i feddwl ac i ddeall syniadau a gwybodaeth\u201d ac<\/li>\n<li>\u201cyn perthyn i ddeallusrwydd neu ddealltwriaeth\u201d.<\/li>\n<\/ul>\n<p>A yw&#8217;n bosibl cyflawni gweithdrefn gymhleth mewn labordy heb feddwl a deall yr hyn rydyn ni\u2019n ei wneud? Oni fydden ni\u2019n disgwyl i gr\u0175p o dechnegwyr labordy i feddwl yn feirniadol a deall yr hyn roedden nhw\u2019n ei wneud a pham? Wrth gwrs, mae&#8217;r cwestiynau hyn yn rhethregol.<\/p>\n<p>Dechreuon ni weithio ar Gynllun Cyfraniad CRediT EARTH yn ystod mis Mawrth 2022 gyda\u2019r nod o roi clod i bob unigolyn sy\u2019n cyfrannu\u2019n sylweddol at yr wyddoniaeth rydyn ni\u2019n ei chynhyrchu a\u2019i chyhoeddi. Er bod technegwyr ymchwil yn derbyn cydnabyddiaeth ar ddiwedd bapur ymchwil yn hanesyddol , nid yw hyn yn cael llawer o effaith i&#8217;w rhagolygon gyrfa ac yn debygol o fynd yn ddi-sylw rhan fwyaf o&#8217;r amser.<\/p>\n<p>Roedd nod y cynllun yn syml, sef dyrannu rhif unigryw i unrhyw allbwn lle gallai\u2019r prif awdur neu\u2019r awdur arweiniol sicrhau i ni fod:<\/p>\n<ol>\n<li>pawb a gyfrannodd yn sylweddol at y gwaith yn cael eu cynnwys yn y rhestr awduron oni bai bod yn well ganddynt gael eu crybwyll yn y cydnabyddiaethau yn unig<\/li>\n<li>ni chyfrannodd unrhyw aelod o&#8217;r rhestr awduron lai nag unrhyw berson arall nad yw&#8217;n aelod ac a hoffai fod.<\/li>\n<\/ol>\n<p>Gellid cynnwys y rhif yn yr adran gydnabyddiaethau a byddai hynny\u2019n ddatganiad clir o\u2019n hymrwymiad i gynrychiolaeth deg: \u201cDyma gyfraniad CRediT EARTH Caerdydd #&#8230;\u201d<\/p>\n<p>Cyflwynwyd y cynllun i\u2019r Ysgol ym mis Mai 2022. Cymysg oedd yr adborth cychwynnol; roedd rhai aelodau staff yn gadarnhaol ond roedd eraill yn gwrthwynebu&#8217;r syniad o ychwanegu at eu baich gweinyddol ac awgrymodd llawer eu bod eisoes yn cynnwys pawb a yn haeddu cael eu cynnwys beth bynnag. Roedd yn bosib lleihau\u2019r baich hyn drwy ofyn i&#8217;r prif awdur\/awdur arweiniol ddychwelyd y ffurflen, gan nodi\u2019r teitl, y cyfnodolyn, a\u2019r dyddiad derbyn.<\/p>\n<p>Dechreuodd y cynllun ar 27 Mai 2022. Erbyn diwedd mis Medi dim ond 2 rif oedd wedi&#8217;u dosbarthu (ac roedd un o&#8217;r rhain yn bapur yn perthyn i mi). Yn ystod y cyfnod hwnnw bu staff yn EARTH yn awduron arweiniol ar 11 o gyhoeddiadau.<\/p>\n<p>Roedd adborth yn nodi ymwybyddiaeth isel o&#8217;r cynllun a diffyg eglurder ynghylch pa bapurau a oedd yn gymwys. Er enghraifft, os nad oedd papur wedi manteisio ar ddefnyddio cymorth technegol, mae\u2019n si\u0175r yr oedd yn cydymffurfio \u00e2\u2019r cynllun heb nodi hyn yn benodol, ie? Rwy\u2019n cyfaddef nad oeddwn yn disgwyl hyn gan fy mod wedi cymryd yn ganiataol y byddai pawb eisiau ymgysylltu \u00e2\u2019r cynllun i ddangos i gymuned ein Hysgol (a\u2019r byd y tu hwnt iddi) ein bod yn cymryd cydnabod cyfraniadau ein holl gydweithwyr o ddifrif. Byddai gwneud hyn yn eglur yn ein holl bapurau (boed nhw\u2019n cynnwys ymdrechion eraill ai peidio) yn ei gwneud yn glir i bawb ein bod bob amser yn ystyried cydnabyddiaeth deg.<\/p>\n<p>Problem arall oedd y ffaith bod yr amser rhwng derbyn a chyhoeddi bellach yn fyr iawn fel arfer, felly roedd pobl yn colli eu cyfle i wneud cais am y cynllun. Yn dilyn awgrym ein Rheolwr Ymchwil, Andrew Emery, penderfynon ni y dylai pobl wneud cais am y cynllun cyn eu bod yn cyflwyno papur. Wrth wneud hyn, fyddai dim rhaid iddyn nhw gofio cyflwyno cais ar \u00f4l derbyn cadarnhad o gymeradwyaeth.<\/p>\n<p>Ailgyhoeddwyd y cynllun ym mis Mai 2023 gyda&#8217;r addasiad hwn. Anfonwyd gwybodaeth at yr holl staff a myfyrwyr ymchwil \u00f4l-raddedig a gosodwyd posteri o amgylch yr Ysgol, ond nid oedd cynnydd yn y nifer o ymgeiswyr erbyn mis Gorffennaf. Ar \u00f4l gofyn i arweinwyr ein Canolfan Ymchwil helpu i ledaenu\u2019r gair cefais fy synnu gan yr ymateb bod rhai yn gweld y cynllun yn ymarfer ticio bocsys yn unig ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) nesaf. Ar \u00f4l ysgrifennu\u2019r Datganiad Amgylcheddol ar gyfer ein cyflwyniad i REF2021, rwy\u2019n ymwybodol iawn o bwysigrwydd gwelliannau mesuradwy i\u2019r amgylchedd ymchwil. Gall hyn ond adlewyrchu gwelliannau gwirioneddol, ac mae arferion ticio bocsys yn gwneud i\u2019r holl beth ymddangos yn chwerthinllyd. Mae&#8217;n rhaid i&#8217;r newidiadau rydyn ni\u2019n eu gwneud i ddiwylliant ymchwil gael eu hanelu at wella diwylliant ymchwil. Pe byddai modd mesur y rhain ar gyfer yr ymarfer REF nesaf yna gorau\u2019r oll, ond nid dyna yw eu pwrpas.<\/p>\n<p>Ar ddechrau mis Tachwedd derbyniais y neges ganlynol gan gydweithiwr \u201c\u2026Roeddwn i eisiau diolch i chi am eich ymdrechion i annog pobl i gynnwys staff technegol am eu cyfraniadau i bapurau ymchwil. Ar hyn o bryd rwy\u2019n ymwneud \u00e2 X o lawysgrifau gan ddefnyddwyr labordai \u2013 nifer heb ei thebyg ers fy amser ym Mhrifysgol Caerdydd\u2026 rwy\u2019n meddwl bod pobl yn fwy ymwybodol y dylen nhw fod yn gwneud hyn. Diolch i chi am godi\u2019r mater.\u201d<\/p>\n<p>Erbyn mis Rhagfyr 2023, rydyn ni wedi cyhoeddi 22 o rifau Cyfraniadau CRediT EARTH. Mae\u2019r niferoedd hyn o hyd yn llawer is na chyfanswm y papurau a arweinir gan staff yr Ysgol, ond rwyf o\u2019r farn ein bod yn teithio i\u2019r cyfeiriad cywir. Efallai y bydd y blog hwn yn annog mwy o\u2019n staff i ymgysylltu \u00e2\u2019r cynllun gyda\u2019r gobaith y bydd Ysgolion eraill yn cyflwyno prosesau tebyg. Yn bersonol, rwy\u2019n credu bod hyn yn <em>no-brainer<\/em> (a na, dydw i ddim yn golygu hynny ag unrhyw synnwyr o eironi).<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Tacsonomeg Rolau Cyfranwyr (CRediT) yn ceisio sicrhau bod pawb sy'n cyfrannu at allbynnau ysgolheigaidd (er enghraifft papurau) yn cael eu cydnabod yn briodol. Mae'r 14 o Rolau Cyfranwyr yn [&hellip;]","protected":false},"author":7009,"featured_media":40,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[23],"tags":[],"class_list":["post-36","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-ymchwil-agored"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/36","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7009"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=36"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/36\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":38,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/36\/revisions\/38"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/media\/40"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=36"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=36"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=36"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}